Oedfa Deuluaidd Gŵyl yr Eglwys Newydd a Thongwynlais

10:00, 23 Mehefin

Am ddim

Bydd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd yn cynnal oedfa deuluaidd yn rhan o weithgarwch Gŵyl yr Eglwys Newydd a Thongwynlais, fore Sul, 23 Mehefin 2024, am 10.00 o’r gloch yng nghapel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, CF14 1DD. Croeso cynnes i bawb. 

Mae’r Eglwys yn cynnal oedfaon bob dydd Sul am 10.00 a 5.00 yng nghapel y Tabernacl yn yr Eglwys Newydd (CF14 1DD), ac mae croeso mawr i bawb eu mynychu.

Gellir gwylio’r oedfaon hefyd ar sianel YouTube yr Eglwys: https://www.youtube.com/c/CwmpawdCaerdydd