Paentio ar y Cyd Haf

19:00, 5 Gorffennaf 2024

£25 yp neu ddau ar gyfer £45

Rydyn ni wrth ein boddau o’n partneriaeth â The Paint Along Lady ac o gyflwyno’r digwyddiad Hwyrnos arbennig hwn.

Ymunwch a ni am sesiwn Paentio ar y Cyd llawn lliw wrth i ni ddathlu Haf Abertawe. Dewch fel cwpwl neu gyda ffrindiau am noson llawn paentio, cerddoriaeth a chwerthin. 

Nid celf gain yw hyn, celf ‘gai neud fel hoffai’ ydyw! Rhowch gynnig ar rywbeth newydd a chreu campwaith. Nid oes angen unrhyw brofiad o baentio.

Mae The Paint Along Lady wedi bod yn denu sylw ledled Cymru, ac mae’n bleser gennym ni ei chroesawu hi i’n Hamgueddfa hardd.

Sylwer, mae hon yn sesiwn paentio ar y cyd i bobl 16+.