Paentio ar y Cyd Sul y Mamau

19:00, 8 Mawrth

£25 yp neu dau am £45

Rydyn ni wrth ein boddau o’n partneriaeth â The Paint Along Lady ac o gyflwyno’r digwyddiad Hwyrnos arbennig hwn.

Mae The Paint Along Lady wedi bod yn denu sylw ledled Cymru, ac mae’n bleser gennym ni ei chroesawu hi i’n Hamgueddfa hardd.

Nid celf gain yw hyn, celf ‘gai neud fel hoffai’ ydyw! Rhowch gynnig ar rywbeth newydd a chreu campwaith. Nid oes angen unrhyw brofiad o baentio.

Yn hytrach na rhoi blodau i Mam eleni, beth am baentio rhai gyda’ch gilydd a chreu atgofion ar yr un pryd. 

Gyda blodau i mam pan rydych chi’n gadael a’r opsiwn o ychwanegu potel o brosecco wrth gyrraedd, mae hon yn noson fendigedig i ddiolch i’ch mam. Sylwer, mae hon yn sesiwn paentio ar y cyd i bobl 16+.