Sioe Wyddoniaeth Swigod a Balwns!

10:30, 27 Hydref

£3yp

Hwyl a sbri glân gloyw i’r teulu cyfan! 

All swigen bara am byth?

Oes y fath beth â swigen sgwâr?

Ydych chi’n ddigon dewr i roi pin mewn balŵn?

Yn un o sioeau mwyaf poblogaidd Science Made Simple, byddwn yn trafod holl fwrlwm byw swigod a balŵns. Rhwng eu chwythu a’u chwalu, mae digonedd i ddarganfod!Sioe gan Science Made Simple yw hon. 

Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.

Hyd 45 – 60 munud

Cynnig arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe – Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)