Stwff! Sut ar y ddaear? gyda Maddie Moate

26 Hydref

£4yp

Ymunwch â’r cyflwynydd teledu plant poblogaidd a’r seren You Tube Maddie Moate wrth iddi gyflwyno ffeithiau anhygoel a straeon diddorol am rai o’r ffyrdd rhyfeddol mae pobl ledled y byd yn gwneud ac yn ailddefnyddio STWFF!

Ydych chi erioed wedi meddwl o le ddaeth eich stwff, a beth sy’n digwydd iddo pan fyddwch chi wedi gorffen ag e?

Oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n gallu gwneud papur o faw eliffantod? A phecynnu plastig o wymon?!

Gan ddod â straeon o’i llyfr yn fyw i’r llwyfan, gydag arddangosiadau a chryn dipyn o ryngweithio â’r gynulleidfa, bydd Maddie yn ysbrydoli meddyliau ifanc i feddwl am y ffyrdd dyfeisgar o wneud, defnyddio ac ailddefnyddio’r pethau o’n cwmpas. 

Dau sesiwn – 11yb a 2yp

Cefndir:Mae Maddie Moate wedi ennill BAFTA am ei gwaith cyflwyno ac mae’n ffefryn ar YouTube. Mae’n angerddol dros ennyn chwilfrydedd ac ysbrydoli plant am ryfeddodau’r byd.

Hi yw cyflwynydd y gyfres deledu “Maddie’s Do You Know?” a gafodd enwebiad BAFTA, podlediad Sony Music “Maddie’s Sound Explorers” a hi gyflwynodd “Earth Unplugged” BBC Earth.

Mae sianel YouTube Maddie yn gyforiog o fideos gwyddoniaeth hwyliog ar gyfer y teulu cyfan, sydd wedi mynd â hi ar anturiaethau diddorol ar hyd a lled y byd.

Mae ei sianel hefyd yn gartref i’r gyfres hynod boblogaidd “Let’s Go Live with Maddie and Greg”, sioe wyddonol fyw i’r teulu a helpodd deuluoedd di-ri gydag addysg gartref dros y cyfnod clo.Rydyn ni’n falch o groesawu BSL i ddehongli’r sioe 11am.

Bydd modd cael llyfr wedi’i lofnodi gyda’r awdur ar ôl y sioe hon.Bydd llyfrau ar gael i’w prynu o siop anrhegion yr Amgueddfa.

Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.

Cynnig arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl yn eich basged docynnau i arbed 30%! 

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe – Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)