Taith Tractorau Talgarreg

10:00, 2 Mehefin

£10

Dyddiad: Dydd Sul, 2il o Fehefin

Cofrestru: yn Neuadd Goffa Talgarreg am 10yb, gan adael am 11yb.

Pris: £10 y tractor, sy’n cynnwys un tocyn ar gyfer rhôl bacwn, paned a chacen.

Croeso i bawb – hyd yn oed heb dractor – am fwyd, raffl a chlonc.

Bydd y daith yn gorffen am tua 1yh yn nhafarn Glan-yr-afon, lle bydd opsiwn i brynu cinio.

Bydd elw’r digwyddiad yn mynd tuag at goffrau Cylch Meithrin a Ti a Fi Talgarreg, gyda chyfraniad i ‘Criw Talgarreg Hanner Marathon Caerdydd 2024’, sy’n rhedeg i gasglu arian i Uned Cemotherapi Glangwili, Maggie’s (Canolfan Gancr Singleton) ac Aren Cymru.