calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 23 Rhagfyr 2024

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

Hyd at 24 Rhagfyr 2024, 12:00 (AM DDIM)
Ymunwch â ni ar noson 08/11/24 am 18:00yh i agoriad Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn.Eleni mae’r Ffair Grefftau yn fwy cyffrous nac erioed gyda dros 40 o grefftwyr o bob cwr o Gymru’n arddangos a …

Disgo tawel Nadolig ym Mhlas Newydd

Hyd at 29 Rhagfyr 2024, 15:00
Gwisgwch eich esgidiau dawnsio’r Nadolig hwn. Mae gwahoddiad i bawb i ddisgo tawel yn yr Ystafell Gerdd ym Mhlas Newydd.

Addurno Bisged Nadolig yn Amgueddfa Wlan Cymru

Hyd at 21 Rhagfyr 2024 (£10)
Galwch draw i’r caffi i fwynhau hwyl yr ŵyl ac addurno eich Bisged Nadolig eich hun! Mae’n cynnwys tair bisged a diod poeth i blant. Dewisiadau fegan a di-glwten ar gael.

Courtyard Illuminations and Dickensian Christmas

Hyd at 23 Rhagfyr 2024, 19:00 (Free for National Trust members, standard pricing for non-members)
During the run-up to Christmas, Powis Castle and Garden in Welshpool is bringing the magic of Christmas with bigger light projections and Dickensian-themed decorations throughout the castle.

Gwyl yr Wythnos

Hyd at 23 Rhagfyr 2024
Mae hi’n wythnos Nadoligaidd yn ei’n llyfrgelloedd! Galwch draw i unrhyw un o’r llyfrgelloedd a restrir ar y poster am ddiod boeth a mins pei.

A Christmas Carol

Hyd at 22 Rhagfyr 2024, 14:00 (£16.50 (£14.50))
Theatr Ieuenctid yn cyflwyno: A Christmas Carol gan Charles Dickens, Addasiad gan Mark Gatiss Ymunwch â ni am noson hudolus wrth i Theatr Ieuenctid Uchaf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddod â …

Clwb Clebran Parti ’Dolig

Hyd at 19 Rhagfyr 2024, 23:00 (Am ddim)
Clwb Clebran parti siwmper Nadolig yn yr Saith Seren. Noson anffurfiol o sgwrs yn Gymraeg. Mae croeso i dysgwyr o pob safon a pobl iaith cyntaf.

Wynne Evans: A Christmas Special

20:00 (£41.50)
Canllaw Oedran: 12+ Trefn Amseri: 60/20/60 Mae seren Strictly Come Dancing 2024 a Phencampwr MasterChef, Wynne Evans, yn dod â’i lais Tenor operatig anhygoel i’r llwyfan!

Crefftau Papur Nadolig i Oedolion

Hyd at 20 Rhagfyr 2024, 16:00 (Am ddim)
Sesiwn ymlaciol i chi y mis hwn ar gyfer clwb crefftau Caergybi. Dewch am sgwrs a phaned dros ychydig o grefftau papur.

Dathlu’r Nadolig yng nghwmni Anwen Pierce ac Angharad Fychan

19:00
Noson i ddathlu’r Nadolig yng nghwmni Anwen Pierce ac Angharad Fychan – trefnir gan Gymdeithas Lenyddol y Garn

Fleetwood Bac

20:00 (£22)
Wedi’i gymeradwyo gan Mick Fleetwood ei hun, FLEETWOOD BAC oedd Band Teyrnged Fleetwood Mac cyntaf y byd, yr unig deyrnged Mac i efelychu’r arlwy clasurol ‘Rumours’ yn …

Nine Below Zero & Dr Feelgood

20:00 (£24)
** Mae’r digwyddiad yma yn un sefyll i fynnu ( i ddawnsio!) ond bydd seddi ar gael yn y balconi ochr os ydych am gymryd saib neu ddewis i eistedd. Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, …

Marchnad Nadolig

Hyd at 22 Rhagfyr 2024
Ymunwch â Chanolfan Mileniwm Cymru ar yr ymgyrch i gefnogi busnesau bach ac annibynnol y Nadolig yma, wrth i ni groesawu marchnadoedd Nadolig am y tro cyntaf yn ardal y Glanfa.

Marchnad Nadolig yr Hen Dre’

10:00 (AM DDIM)
Crefftau, bwyd a diod ar y top y dre!  Dros uagain o stondinau o nwyddau lleol arbennig yn cynnwyd bwyd a diod poeth. Y lle i gael eich anrhegion Nadoig lleol.

Bore Coffi Llanbedrgoch

10:00
Bore Coffi yn Y Ganolfan, Llanbedrgoch – elw at UNICEF. Dewch yn llu! 

Cwrdd â Siôn Corn

Hyd at 21 Rhagfyr 2024, 17:30 (£10)
Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o’r Brif Adeilad.

Canu yn y Capel

Hyd at 21 Rhagfyr 2024, 15:00 (£6)
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa? Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.

Gŵyl Hwyl Nadolig

12:30 (£5 oedolion / £3 plentyn)
Sesiwn llawn chwerthin, gweithgareddau, miwsig a hud y Nadolig i blant meithrin a cynradd, yng nghwmni cast talentog Cynyrchiadau Lalala. @ 12:30 / 14:30 / 16:30

Diwrnod Agored Nadoligaidd

14:00 (Am ddim)
Ar ddydd Sadwrn yr 21ain o Ragfyr rhwng 2 – 5yp, byddwn yn cynnal prynhawn agored yn y ddistyllfa.

Ras Sion Corn

Hyd at 21 Rhagfyr 2024, 16:30
Ras Sion Corn, er budd y Carnifal

Dros Heddwch

15:30 (am ddim)
Dewch i ganu carolau wrth y Bandstand yn Aberystwyth bnawn Sadwrn 21ain Rhagfyr 3.30pm – 4.30pm. Bydd Côr Gobaith yn canu caneuon heddwch ac Eurig fardd yn cyflwyno cerdd neu ddwy.

Cyngerdd Elusennol

19:30 (£10 i oedolion, £5 i'r rhai 18 oed ac iau)
Nos Sadwrn, yr 21ain o Ragfyr, am 7.30pm, cynhelir noson o eitemau cerddorol amrywiol yn Eglwys Crist, Y Bala, er budd Cerebral Palsy Cymru a Shelter Cymru.

Cwrdd â Siôn Corn

Hyd at 22 Rhagfyr 2024, 17:30 (£10)
Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o’r Brif Adeilad.

Canu yn y Capel

Hyd at 22 Rhagfyr 2024, 15:00 (£6)
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa?Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.

Taith gerdded Dinas Dinlle

13:00
Taith gerdded i Dinas Dinlle wedi cal ei ail-drefnu ar gyfer prynhawn dydd Sul, 22 Rhagfyr, am 1pm. Taith o tua awran yn mynd am dro o amgylch Dinas Dinlle.

Drama Nadolig

14:00
Drama Nadolig aelodau Clwb Sul Tabernacl Pencader, gyda te i ddilyn. Croeso i bawb. 

Noson Garolau Eglwys Efengylaidd Aberystwyth

16:00
Gwasanaeth carolau Eglwys Efengylaidd Aberystwyth. Oedfa Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd, a phaned i ddilyn. Croeso cynnes i bawb! 

Carol-oki

17:00 (Am ddim)
‘Carol-oki’ – cyfle i ymuno i ganu carolau o’ch dewis – yng nghapel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD, ddydd Sul, 22 Rhagfyr 2024, am …

Carolau Llanddaniel

17:00
Noson gymunedol o ganu carolau. Gwin cynnes, mins pei a chyfle i brynu bwyd gan Mŵg yr Ynys. Yr elw at gronfa Eisteddfod yr Urdd 2026.

Al Lewis ag Osgled

17:30 (£16 ar y drws)
AL LEWIS AC OSGLED NOS WENER 20 RHAGFYR drysau’n agor 7.30yh Dechreuwch eich dathliadau Nadolig gyda ffrindiau a theulu yn y Coliseum cain yng nghwmni’r talentog Al Lewis.

Noson Garolau a Chofio’r Parch. Alun Wyn Dafis

19:00 (Casgliad tuag at Latch, Capel Brondeifi a ChFfI Cwmann)
Noson o ganu dan arweiniad Manon Richards yng nghwmni Côr Pam Lai?, Corisma, Côr Cwmann a ChFfI Cwmann.  Lluniaeth i ddilyn yn y festri! Dewch yn llu er mwyn mwnhau naws y Nadolig!

Cymanfa Ganu Nadolig CFfI Mydroilyn

19:30 (£5 i oedolion, £3 i blant ysgol uwchradd, £1 i blant ysgol gynradd)
Eitemau gan Bois y Gilfach a CFfI Mydroilyn

Yfory 24 Rhagfyr 2024

Plygain Rhos-Y-Gad

07:00
Cynhelir Gwasanaeth Plygain Eglwys Unedig Rhos-y-Gad, Llanfairpwllgwyngyll ar Nos Fawrth, Noswyl Nadolig, 24ain Rhagfyr 2024 am 7.00yh. Eitemau gan unigolion a phartion lleol.

Wrth y Preseb

16:00
Gwasanaeth anffurfiol i blant mawr a bach…Stori’r Geni o gwmpas y Preseb, Noswyl Nadolig.  Croeso i bawb

Plygain Rhos – y – Gad

19:00
Cynhelir Gwasanaeth Plygain Eglwys Unedig Rhos-y-Gad, Llanfairpwllgwyngyll ar Nos Fawrth, Noswyl Nadolig, 24ain Rhagfyr 2024 am 7.00yh.

Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024

Taith Gerdded Llandysul

10:00 (Am ddim)
Taith Lansio “Taith Dyffryn Teifi” Gadewch i’r Antur Ddechrau! Dydd Sadwrn, Rhagfyr 28ain Taith Gerdded Gylchol Tua 4.5 milltir Cyfarfod am 10 yb yn Iard Fferm Abercerdin SA44 4PA.

Dawns y Frenhines a’r Ffermwr Ifanc

23:00 (£10 ar y drws)
Ymunwch â chlybiau ffermwyr ifanc Ceredigion ar gyfer Dawns y Frenhines a’r Ffermwr Ifanc. 18+ yn unig.

Dydd Sul 5 Ionawr 2025

Plygain

17:00 (Am ddim)
Plygain yng nghapel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD, ddydd Sul, 5 Ionawr 2025, am 5.00pm. Fe’i trefnir gan Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd.

Dydd Llun 6 Ionawr 2025

Hoffi Trafod Tiwns?

(AM DDIM)
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy unigryw gyda Gwilym Dwyfor – cyn-olygydd Y Selar – lle byddwch chi’n dysgu sut i ysgrifennu adolygiadau cerddoriaeth o safon.

Dydd Mawrth 7 Ionawr 2025

Pantomime: Dick Whittington and the Pi-Rats of the Caribbean

Hyd at 25 Ionawr 2025 (£23 (£17 plant) (£68 teulu))
Mae’r Wardeniaid yn ôl gyda’u pantomeim arobryn blynyddol!

Dydd Mercher 8 Ionawr 2025

Creuwch Het Wlanog

10:30–12:30 (£30)
Chwilio am anrheg Nadolig arbennig wedi’i wneud â llaw i’ch anwylyd neu ffrind?  Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn cynnig cyfle unigryw i greu het wlân eich hun gydag un o staff talentog ein …