WEDI’I OHIRIO OHERWYDD Y TYWYDD Dewch am dro efo ni i ben Mynydd Cilgwyn! Bore dydd Iau, Awst 15 am 10 o’r gloch! Taith gerdded i deuluoedd efo gweithgareddau a snacs i blant.
Dewch i weld ni bore dydd Iau yma o 10 -12 yng Nghae Chwarae Tal y Bont. Byddwn yno gyda’n Feics a sgwtera newydd i chi drio allan, ag am sgwrs anffurfiol. Gweithgareddau addas i deuluoedd.
Dewch i weld ni prynhawn dydd Iau yma o 2 – 4yp yng Nghanolfan Tregarth. Byddwn yno gyda’n Feics a sgwtera newydd i chi drio allan, ag am sgwrs anffurfiol.
Mae Cymdeithas Hanes Lleol LLANDYSUL a’r Fro yn cyflwyno arddangosfa hanes lleol newydd: AMSER HAMDDEN YN LLANDYSUL Diwrnod Agored Dydd Sadwrn, 17 Awst, 2024, 11yb—4 yp Llawr 1af Llyfrgell …
Dydd Sadwrn 17 Awst fe fydd tîm cyntaf Clwb Rygbi Aberystwyth yn herio Clwb Rygbi Pwllheli mewn gêm gyfeillgar gartref. Fe fydd y clwb ar agor o un o’r gloch y prynhawn.
Gall mannau cyhoeddus fod yn anorthrech ac yn straen mawr i unigolion ag anghenion ychwanegol ac anableddau, a all yn ei dro achosi gorlwytho synhwyraidd.
Dewch i ymarfer eich Cymraeg yn anffurfiol ar daith gerdded natur fer gyda Alun Jones a Judith Kaufmann (Gwreiddiau Gwyllt) O du allan i Gaffi’r Pafiliwn, Llanfairfechan i Glan y Mor Elias a …
Dros yr haf, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal dau ddiwrnod cyfan o amlgampau gydag OT Coaching. Bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal yn Ysgol Griffith Jones rhwng 10yb a 4yp.
Mae mwy i fywyd na gwaith! Dysgwch am hamdden a hobïau cymunedau mwyngloddio mewn cyfres o weithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf. Yr wythnos hon dewch i ddylunio a chreu mwgwd reslwr.
Digwyddiad Beics a Sgwtera dydd Llun yn Neuadd Goffa, Mynydd Llandygai . Byddwn yno am sgwrs anffurfiol, gwirio a diogelu eich beics rhag gael ei ddwyn!
Ymunwch â ni am brynhawn o hwyl yn ein sesiwn Sgwtera a Sglefrfyrddio dydd Mawrth yma o 2-4yp yn “Bowl Bethesda”.Bydd sgwteri ar gael i’w ddefnyddio ar y diwrnod.
Ymunwch gyda ni ym mis Awst am deithiau cerdded o amgylch Cwm Idwal. Ar y daith yma bydd storïwraig lleol o gwmni Anadlu yn ymuno ac adrodd a rhannu storiau a chwedlau lleol.
Ar yr 20fed a 21ain o Awst bydd Cwrs Theatr Technegol yn cael ei redeg yng Nghanolfan Arad Goch yn Stryd Y Baddon, Aberystwyth, lle bydd cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn cael dysgu am y byd …
Sesiwn 2 o 2 Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi: cynyddu eich dealltwriaeth o’r cysyniad o gadernid ieithyddol; cynyddu eich ymwybyddiaeth o’r dylanwadau seicolegol a chymdeithasol ar eich dewisiadau …
Mae mwy i fywyd na gwaith! Dysgwch am hamdden a hobïau cymunedau mwyngloddio mewn cyfres o weithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf. Yr wythnos hon dewch i ddylunio a chreu mwgwd reslwr.
Sesiwn Blasu BOCSWN Dydd Mercher 21 Awst 2-4pm, Canolfan Trinity Centre, Llandudno Oed: 10ish-16ish Am ddim Mae Bocswn yn cynnal gweithdai cerddoriaeth anffurfiol ble ma tiwtoriaid yn gweithio efo …
Nos Wener 23ain, 7.30 o’r gloch, yng Nghlwb Rygbi Llanbed cynhelir Talwrn y Beirdd a’r Babell Lên, dan ofal y Prifardd Mererid Hopwood a’r Prifardd Aneurin Karadog.
Dydd Sadwrn Awst 24ain 8:50yb Gorsaf fws Aberystwyth Gan ddal y bws i Eisteddfa Gurig, fe fyddwn yn cerdded i bwynt uchaf Ceredigion a’r Elenydd – Pen Pumlumon Fawr sy’n 752m.
Dydd Sadwrn 24ain, 1.30 o’r gloch, yn Ysgol Bro Pedr agorir yr Eisteddfod gan y Cadeirydd newydd, Emlyn Davies, Llanybydder. Dewch i gefnogi a mwynhau diwrnod cyntaf yr Eisteddfod.
Yr olaf o sesiynau ‘gwerin ar y cei’ Pwyllgor Ardal Aberconwy 2024 (byddent yn dychwelyd mis Mai 2025) Dewch draw i fwynhau’r gerddoriaeth a’r naws mewn lleoliad arbennig neu …
Nos Sul, 25ain, 6.00 o’r gloch, yn Ysgol Bro Pedr, cynhelir rownd derfynol Llais Llwyfan Llanbed tan arweiniad Rhiannon Lewis. Dyma ‘gyngerdd’ yr Eisteddfod gan edrych ymlaen at glywed rhaglenni’r …
Yr ail mewn cyfres o 6 stiwdio agored misol i bobl ifanc ac artistiad lleol fydd yn cael ei gynal gan Hedydd Ioan (SKYLRK) Cyfle i ddysgu, rhannu a chreu diwylliant y dyfodol .