calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 15 Ionawr 2025

Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Môn

Bydd digon o ganu, actio, dawnsio, meimio a chodi hwyl yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Môn eto eleni. Dewch i gefnogi pobl ifanc y mudiad!

Gwyl Daniel Owen

Hyd at 25 Hydref 2024 (Am ddim / £5 - £15)
Gŵyl wythnos o hyd i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am fywyd a gwaith Daniel Owen,yr awdur enwog o’r Wyddgrug, a ystyrir fel tad y nofel Gymraeg.

Pen-blwydd Mawr Bodnant!

Hyd at 3 Tachwedd 2024, 16:00 (Digwyddiad am ddim, codir pris mynediad arferol i'r ardd. Am ddim i aelodau o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.)
I nodi dau ben-blwydd ‘mawr’ arbennig iawn ym mis Hydref a Thachwedd 2024, rydym yn eich gwahodd i ymuno yn y dathliadau gyda llwybr arbennig iawn drwy’r ardd yr hydref hwn.

Marchnad Lleu

10:00
Stondinau bwyd, crefftau a cynnyrch lleol. Caffi Tylluan yn gweini bwyd rhâd a maethlon. Dewch i ddysgu y grefft o blygu llyfrau am 10:30 tan 11:00.

Taith llwybrau Rhostryfan a Rhosgadfan

10:30
Taith gerdded Yr Orsaf dydd Sadwrn, Hydref 19 ar hyd llwybrau Rhostryfan a Rhosgadfan. 7.5km/ychydig llai na 5 milltir o daith (tua 2 awr). Cyfarfod yn maes parcio hen orsaf Rhostryfan am 10:30yb.

Cyflwyniad i Nyddu: O’r Cnu i’r Brethyn

Hyd at 19 Hydref 2024, 16:00 (£85 | £70)
Ymunwch â Non Mitchell, Crefftwraig yn Amgueddfa Wlân Cymru, am Gyflwyniad i Nyddu Gwlân.  Bydd y cwrs undydd yn cynnwys didoli, cribo a chyfuno’r gwlân, cyn rhoi cynnig ar wahanol ddulliau o nyddu, …

CYFARFOD MISOL NINTENDO GOGLEDD CYMRU

Hyd at 19 Hydref 2024, 16:30 (Am Ddim)
Mae’n fraint croesawy mudiad Nintendo North Wales ynol i Storiel am pnawn o Gemau, Gwobrau a Gweithio ar y Cyd.

Addurniadau Diwali

Hyd at 19 Hydref 2024, 15:00 (Am ddim)
Ymunwch â Sarita i ddefnyddio powdwr lliw i greu patrymau Rangoli prydferth a dysgu am wahanol symbolau Diwali.

ESPERARTO(Huw Aaron yn holi Jac Jones )

Hyd at 19 Hydref 2024, 15:30
Mae’n fraint cael croesawu dau o ddylunwyr mwyaf blaengar Cymru i Storiel, i drafod gwaith yr artist Jac Jones. I  gyd fynd hefo arddangosfa o waith Jac Jones.

Gig: Al Lewis Band + Alis Glyn

18:30 (Am ddim!)
Pwyllgor Ardal Aberconwy a Gigs y Gaeaf/Winter Sounds yn cyflwyno: Al Lewis Band Alis Glyn yn Eglwys Santes Fair, Conwy Nos Sadwrn 19 Hydref Gig am ddim, ond rhaid archebu tocynnau drwy’r ddolen

Cofio Ciliau Parc – Plannu Bwlbiau

Digwyddiad i Ddathlu Ysgol Ciliau Parc. 💙 Byddwn yn dod at ein gilydd fel cymuned i blannu bwlbiau cennin pedr a chlychau’r gog o gwmpas yr ardal.

Cwrdd Diolchgarwch a Chinio Ysgafn

10:00
Ymunwch â ni am oedfa ddiolchgarwch ddwyieithog o dan arweiniad y Parch Judith Morris, gyda chinio ysgafn i ddilyn. Gwneir casgliad tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Croeso cynnes i bawb!

DEFNYDDIO’R GYMRAEG AR EICH CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

18:30
Ydych chi angen mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol yn llwyddiannus?Mae Clwb Rygbi Llanbed yn trefnu sesiwn ar ddefnyddio Cymraeg ar y Cyfryngau Cymdeithasol mewn …

Arddangosfa 50 mlwyddiant Llais Ogwan

Hyd at 26 Hydref 2024, 16:00
Cyfle i weld arddangosfa o ôl-rifynnau’r papur bro lleol dros yr hanner canrif diwethaf yn neuadd Ogwen rhwng 10am a 4pm bob dydd o ddydd Mawrth, 22 Hydref tan ddydd Sadwrn, 26 Hydref 2024.

ARDDANGOSIAD COGINIO

19:00 (£15 yn cynnwys diod a Bwrdd Pigo)
Arddangosiad Coginio gyda Gareth Richards. Mae’r pris mynediad yn cynnwys Bwrdd Pigo a diod, a chyfle prynu’r bwyd ar y diwedd.Ychydig o docynnau ar ol gan Shan Llether 07968077242

Arddangosiad Coginio gan Gareth Richards

19:30 (£15 yn cynnwys Bwrdd Pigo a Diod)
Arddangosiad Coginio gan Gareth Goedwig, a’r bwyd yn cael ei werthu ar y diwedd.

Gweithdy Brodwaith

Hyd at 23 Hydref 2024, 12:00 (Am ddim)
Gweithdy rhad ac am ddim. Dewch i ddysgu sgiliau sylfaenol brodwaith llaw. Nid oes angen profiad blaenorol – darperir yr holl ddeunyddiau. Cysyllwch efo gofod@ogwen.org i archebu lle. 

Y Grefft o Rwydweithio

Hyd at 23 Hydref 2024, 12:30 (Am ddim)
Ymunwch â ni am ddigwyddiad arbennig yn Yr Albion, Aberteifi.

Gardd a Natur

Hyd at 24 Hydref 2024, 17:00
Dewch i Tŷ Mawr Wybrnant ar 24 Hydref i gymryd rhan mewn sesiynau difyr, hwyliog ac amrywiol gyda natur a phlanhigion yn ganolbwynt i bopeth.

Sgyrsiau Hanes Chwaraeon Gwynedd Dr Meilyr Emrys #3 Cymru Gemau Olympaidd Paris 1900 a 1924

Hyd at 24 Hydref 2024, 16:00 (Am Ddim)
’Roedd tîm Olympaidd Prydain ar gyfer Paris 2024 yn cynnwys mwy o aelodau Cymreig nag erioed o’r blaen ac enillodd athletwyr ‘Gwlad y Gân’ fwy o fedalau eleni nag mewn unrhyw Olympiad blaenorol.

Gweithdy Meddalwedd Inkscape

18:30 (Am ddim)
Gweithdy rhad ac am ddim! Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio’r feddalwedd hanfodol hon sy’n gydnaws â thorrwr laser, torrwr finyl ac argraffydd sychdarthiad.

Cicio’r Bar 24 Hydref

19:45 (£10 / gostyngiad £8 / UMCA £5)
Wedi saib dros yr haf, mae Cicio’r Bar yn ei ôl gyda leinyp a hanner: dau o enillwyr mawr y flwyddyn.

Gwyl Fwyd

Hyd at 25 Hydref 2024 (Am ddim)
Bydd Gwyl Fwyd yn cael ei chynnal yn y Ganolfan i gyd-fynd gyda ffair y Bala

Hel Hanes Gerlan dros baned a sgwrs

16:00
Dewch i’r Caban i rannu eich straeon am y pentref, Ysgol Gerlan a’r neuadd. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Dewch ac unrhyw luniau sydd gennych yn cuddio’n y tŷ efo chi.

Hywel Pitts a Llio Maddocks, Cyfres Caban

18:45
Adloniant, diwylliant, chwyldro… a lot fawr o hwyl! Noson arall yng nghyfres Caban, gan Yes Cymru Bro Ffestiniog. Rhybudd Iaith Gref! Cyfieithu ar y pryd ar gael.

GIATIAU GRACELAND – Noson gyda John ac Alun a’r Band

19:00 (£8 (plant £4))
Noson o Ganu Gwlad gyda John ac Alun a’r Band yn fyw yn Nyffryn Teifi. Noson i ddechrau am 7pm. Drysau a’r caffi’n agor am 6.15pm.

JOHN AC ALUN A’R BAND

19:00 (£8)
john ac alun a’r band yn fyw !Tocynnau ar gael am £8 gamn meinir@cadwyn.com 01559-384378

Lawnsiad ’ti’n gweld yn glir¿’

Hyd at 25 Hydref 2024, 21:30 (£3.00)
Dewch i glywed albwm cyntaf skylrk. yn cael ei berfformio yn fyw am y tro cyntaf gyda cefnogaeth gan Tai Haf Heb Drigolyn a barddoniaeth i agor y noson.

Kedma a Mo

Hyd at 25 Hydref 2024, 23:00 (£15)
Cerddoriaeth byw gan Kedma a Mo. Cantores â llais phwreus sydd wedi perfformio gyda enwogion bydeang.

Gig Al Lewis

19:30
Gig arbennig yng nghwmni Al Lewis a’r band. Mae Al Lewis yn ganwr-gyfansoddwr Cymreig sy’n enwog am ei delynegion twymgalon a’i lais cyfoethog.

Gig Jac-do: Candelas + Tew Tew Tennau

20:00 (£12)
Gig Jac-do arall gan griw Pwyllgor Aberconwy – ac mae hi’n glincar! Candelas a Tew Tew Tennau – bandiau gwych, dewch draw!

Stwff! Sut ar y ddaear? gyda Maddie Moate

(£4yp)
Ymunwch â’r cyflwynydd teledu plant poblogaidd a’r seren You Tube Maddie Moate wrth iddi gyflwyno ffeithiau anhygoel a straeon diddorol am rai o’r ffyrdd rhyfeddol mae pobl ledled …

Creu syllwr enfys

(£3 y plentyn)
Ydych chi erioed wedi ystyried pam mae pethau o liwiau gwahanol? Wyddech chi fod rhai lliwiau’n anweledig?

Gwyl Ffos Davies

YN Y DYDD: I blant a phobl ifainc – sesiwn storiau a chwedlau lleol – gweithdy canu gwerin /offerynnau gwerin / cyfansoddi caneuon gwerin GYDA’R NOS: Noson Lawen Iawn – noson …

Gŵyl Ffos Davies

(£5.00 / £2.50)
Gweithdy straeon a chaneuon lleol i blant yn y prynhawn a Noson Lawen go iawn gyda’r nos!

Taith ARFOR – Sioe ‘Cymrix’ yn Yr Egin

Hyd at 26 Hydref 2024 (AM DDIM)
Ar y cyd â Chwmni Theatr Arad Goch, mae Llwyddo’n Lleol wedi trefnu sioeau cymunedol ar gyfer teuluoedd siroedd ARFOR, sef Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn.

Diwrnod Genod Grymus

Hyd at 26 Hydref 2024, 15:30 (£39)
Ydych chi’n dymuno cael yr ysbrydoliaeth i newid eich bywydau? Dyma gyfle unigryw i ferched yr ardal i gael diwrnod iddyn nhw eu hunain a derbyn ychydig o gyngor ar sut i fyw eich bywyd gorau.

Diwrnod Genod Grymus

Hyd at 26 Hydref 2024, 15:00
Diwrnod Genod Grymus – diwrnod i bob merch, oedran 16+ Wyt ti’n mynd drwy gyfnod trawsnewidiol ar hyn o bryd? Fyse ti’n hoffi agor dy feddylfryd a datblygu dy hyder?

Diwrnod Genod Grymus

Hyd at 26 Hydref 2024, 15:30 (£39)
Diwrnod i ti! Siaradwyr gwadd, cyfle i fwynhau cwmni merched eraill, rhannu profiadau, magu hunan hyder, meithrin meddylfryd positif, a gorffen gyda sesiwn hunan ymlacio dwfn.

Hel Hanes Gerlan dros baned a sgwrs

10:00
Dewch i’r Caban i rannu eich straeon am y pentref, Ysgol Gerlan a’r neuadd. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Dewch ac unrhyw luniau sydd gennych yn cuddio’n y tŷ efo chi.

Taith Cerdded Calan Gaeaf i blant

10:00 (£2)
Taith Cerdded Calan Gaeaf i blant (rhaid fod rhiant / warcheidwad yn ymuno). Dydd Sadwrn, Hydref 26ain.Cwrdd yn Y Porth am 10yb.£2 bob plentyn.Gwobr gwisg ffansi orau!

Bore Coffi

Hyd at 26 Hydref 2024, 12:00
Bore Coffi yng Nganolfan Cwmann Dydd Sadwrn, Hydref 26, 10 – 12 Stondinau, Raffl Llywydd Mr Cyril Davies Holl elw yn mynd at Ymchwil Canser UK Cancer Research UK

Marchnad Llambed

Hyd at 26 Hydref 2024, 13:00 (Am ddim, yn gynnwys parcio ar y campws)
Mae Marchnad Llambed yn digwydd ddwywaith y mis ar yr ail a phedwerydd bore Sadwrn, yn gwerthu bwyd a chrefftau o safon uchel wedi’u cynhyrchu’n lleol.

Cow & Ghost Vintage yn cyflwyno: Marchnad Gwneuthurwyr Gwlanog

Hyd at 26 Hydref 2024, 16:00 (Am ddim)
Dathliad Mis Gwlân Cenedlaethol yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Cefnforoedd campus – taith i’r dyfnderoedd

11:00 (£3yp)
Wrth i ni fentro’n ddyfnach i waelod y môr, rydyn ni’n oedi i edrych ar rai o’r anifeiliaid y down ar eu traws ar y ffordd, gan astudio eu dulliau anhygoel o addasu sy’n eu …

Cefnforoedd campus – morfilod mawreddog!

13:00 (£3yp)
Morfilod a dolffiniaid yw’r anifeiliaid mwyaf cŵl, heb os, felly byddwch yn barod am ffeithiau anhygoel wrth i ni edrych ar addasiadau mwyaf anhygoel y cewri cefnforol sy’n …

Calan Gaeaf

Hyd at 26 Hydref 2024, 20:00 (Am ddim)
Gwyl ar hyd y stryd i gynnwys stondiau crefft, paentio gwyneb, cerddoriaeth byw, diodydd a bwyd. 

Cefnforoedd campus – arddangosiad dyrannu pysgod

15:00 (£3yp)
Ymunwch â’r Dr Russell Arnott, Biolegydd Morol, i ddarganfod pa addasiadau biolegol anhygoel sy’n gwneud pysgodyn yn bysgodyn, wrth iddo gynnal dyraniad gwyddonol.

WiFi Wars

15:30 (£7.50 - £10)
Mae WiFi Wars yn dychwelyd gyda’r sioe gêm gomedi fyw lle rydych chi i gyd yn chwarae!

ZAP!

15:30 (£3yp)
Profwch bŵer trydan fel erioed o’r blaen yn ein sioe wyddoniaeth gyffrous!  Dewch i edrych ar yr wyddoniaeth y tu ôl i wreichion, a darganfod y ffyrdd rhyfeddol mae trydan yn siapio ein byd.

OGTOBERFEST

19:00 (£10.00)
Noson gymdeithasol o fwynhau chydig o fwyd, diod a cherddoriaeth

Gig: Al Lewis Band + Sara Davies

19:30
Gig arbennig gyda’r cerddor dawnus Al Lewis a’i fand talentog. Yn agor y noson bydd Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni.

Bingo Boncyrs!

19:30
Noson o hwyl Bingo Boncyrs gydag Owain Llŷr – DJ Bustach! Noson hwyliog a chroeso cynnes i bawb.

Guy Davis

20:00 (£20 / £18)
Mae’r aml-offerynnwr Guy Davies wedi cael ei enwebu am Grammy ddwywaith yn olynol am y Best Traditional Blues, mae’n gerddor, actor, awdur, ysgrifennwr caneuon, cymaint mwy na dim ond ‘bluesman’, …

Parti Gwyddoniaeth Sbarc

(Am ddim)
Ymunwch â Sbarc, gwyddonydd hwyliog Cyw S4C sydd wrth ei fodd yn archwilio a chynnal arbrofion o bob lliw a llun.

Taith Gerdded Meddwlgarwch

Hyd at 27 Hydref 2024, 12:30
Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gyda arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.

Taith Meddwlgarwch Cwm Idwal

Hyd at 27 Hydref 2024, 13:00
Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gyda arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.

Sioe Wyddoniaeth Swigod a Balwns!

10:30 (£3yp)
Hwyl a sbri glân gloyw i’r teulu cyfan!  All swigen bara am byth? Oes y fath beth â swigen sgwâr? Ydych chi’n ddigon dewr i roi pin mewn balŵn?

Gweithgareddau i deuluoedd yn Arad Goch

Hyd at 27 Hydref 2024, 15:00 (Am ddim)
Ydych chi a’ch plant eisiau gweithgaredd i gymryd rhan ynddo drwy gyfrwng y Gymraeg?

Sioe Wyddoniaeth Dŵr Ffrwydrol!

12:30 (£3yp)
Allwn ni wasgu dŵr? Ei ffrwydro? Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n ei ferwi yn y gofod?

Gwyddoniaeth am y gorau! gyda Big Manny

13:30 (£3yp)
Iawn BŴM!  Ymunwch â’r seren TikTok Big Manny, wrth iddo drafod ei lyfr sydd ar y gweill, Science is Lit.  Dysgwch sut i fod yn wyddonydd go iawn a chreu arbrofion anhygoel gartref gan …

Gweithdy Gwyddoniaeth a Rapio: nabod ein gofod

14:30 (£3 y plentyn)
Dysgwch bopeth am y gofod a’n perthynas ag e trwy gyfrwng rap ac arddangosiadau.  Beth sy’n achosi’r planedau i droi mewn cylch? Beth yw diben y tymhorau?

PEJIC Magic – ffordd o feddwl

15:00 (£3yp)
Ymunwch â’r dewin a’r actor enwog Stefan Pejic mewn sioe unigryw sy’n cyfuno hud a lledrith â gwyddoniaeth niwrowyddoniaeth.  Dyma daith fythgofiadwy trwy ddirgelion gwybyddiaeth, …

RAY MEARS – Remote People & Remote Places, The Search for Hope in the Wilderness.

16:00 (£4 yp)
Does neb yn adnabod y diffeithwch yn well na Ray Mears. ‘Beth yw diffeithwch?’, Pam y mae mor bwysig?

Chwedlau a Chreaduriaid y Pwll Glo

Hyd at 28 Hydref 2024, 16:00 (£6.50 y plentyn)
Ymunwch â’n Storïwr Goruwchnaturiol yn ei fwthyn clyd i fwynhau chwedlau gwerin hynafol am fwystfilod pyllau glo Cymru.  Dewch i ddysgu am y Tylwyth Teg cyfriniol gyda straeon am y Coblynau …

Gweithdy Torrwr Finyl

18:30 (Am ddim)
Gweithdy am ddim! Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio’r torrwr finyl a chael cyfle i wneud sticeri finyl i fynd adref gyda chi.