calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Dydd Sul 1 Rhagfyr 2024

Panto Theatr Fach

Hyd at 7 Rhagfyr 2024
Criw Theatr Fach Llangefni yn cyflwyno ‘Jac a’r Jareniym’.

Dydd Llun 2 Rhagfyr 2024

Gweithdy Torch PomPom Nadolig

17:00–19:00 (Am ddim)
Dewch i greu torch Nadolig allan PomPoms. Mae’r gweithdy rhad ac am ddim hwn yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 10 oed a throsodd. Archebu yn hanfodol.

Plygain traddodiadol

19:00
Nos Lun, 2 Rhagfyr 2024, am 7.00 o’r gloch, cynhelir Plygain traddodiadol yng Nghapel y Coleg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn yn Yr Hedyn Mwstard.

Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024

Taith ARFOR: CYMRIX

16:30–18:00 (AM DDIM)
Mae Cymrix yn gynhyrchiad sydd wedi ei anelu at blant 9+ ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer deuluoedd a siaradwyr Cymraeg Newydd o bob oedran.

Ffair Nadolig Ysgol Gymraeg Aberystwyth

17:30–19:30 (£2 - £1 i blant Uwchradd - Plant YGA am ddim)
Stondinau cynnyrch amrywiol, crefftau, gemau, bwyd a diod, peintio gwyneb, perfformiadau Nadoligaidd ac ymweliad bach gan Siôn Corn…

Ho ho ho…Beth m Barti!Sioe Nadolig Ysgol Rhos Helyg

18:00
Sioe Nadolig Ysgol Rhos Helyg… Ho ho ho…Beth am barti? Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni!

Naw Llith a Charol

19:00
Gwasanaeth Naw Llith a Charol i’w gynnal yn Eglwys St Vitalis, Dihewyd ar Nos Fercher, 4ydd o Ragfyr am 7:00yh.

Dydd Iau 5 Rhagfyr 2024

Creu Addurniadau Nadolig Origami

15:30–17:00 (Am ddim)
Gweithdy am ddim! Ymunwch â ni i wneud addurniadau Nadolig papur gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu! Addas i deuluoedd.

Gweithdy Sylwebu Pêl Droed

16:00–18:00 (Am ddim)
Gweithdy Sylwebu Pêl Droed gyda Mei Emrys o Sgorio!05/12/24 – 16:00-18:00 – M-SParc – Y Bala Dewch i ddysgu sut i sylwebu ar gem bêl droed drwy gyfrwng y Gymraeg, ’dan arweiniad …

Cyngerdd Nadolig Cylch Meithrin Llanarth

18:30 (Mynediad yn £3. Plant meithrin a chynradd am ddim)
Cyngerdd Nadolig Cylch Meithrin Llanarth. Drysau yn agor am 6. Plant y cylch yn canu am 6.30. Raffl a stondinau amrywiol. Dewch yn llu! 

Dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024

Dawns y Ceirw

13:10–14:10 (£5)
Cyd-gynhyrchiad gaeafol newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. gan Casi Wyn Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi.

Ffair Nadolig a Groto Cylch Meithrin Llanfarian

16:00–19:00 (£5 y plentyn yn cynnwys anrheg gan Sion Corn)
Ffair Nadolig flynyddol Cylch Meithrin Llanfarian. Dydd Gwener 6ed o Ragfyr 2024 yn Neuadd Bentref Llanfarian 4yp – 7yp.

Ffair Nadolig a Groto

16:00–19:00 (£5)
Llunniaeth, raffl, stondinau a mwy! Bydd yr holl elw yn mynd at Gylch Meithrin Llanfarian.

Ffair Nadolig

16:00–20:00
Stondinau, cerddoriaeth, mins pei, gwin cynnes a mwy!

Taith ARFOR: CYMRIX

18:00–19:30 (AM DDIM)
Mae Cymrix yn gynhyrchiad sydd wedi ei anelu at blant 9+ ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer deuluoedd a siaradwyr Cymraeg Newydd o bob oedran.

Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024

Diwrnod Agored – Cofio Ciliau Parc

Diwrnod Agored – Cofio Ysgol Ciliau Parc Dewch i grwydro o amgylch yr ysgol am dy tro olaf i rannu straeron ac edrych ar hen ffotograffau a lluniau. 💙Arddangosfa ffotograffau a ffilmiau …

Marchnad Nadolig

Hyd at 8 Rhagfyr 2024
Ymunwch â Chanolfan Mileniwm Cymru ar yr ymgyrch i gefnogi busnesau bach ac annibynnol y Nadolig yma, wrth i ni groesawu marchnadoedd Nadolig am y tro cyntaf yn ardal y Glanfa.

Cwrdd â Siôn Corn

10:00–17:30 (£10)
Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o’r Brif Adeilad.

Gŵyl Hwyl Nadolig!

10:15–12:15 (Am ddim)
Ymunwch â Siân Corn! Dyma gyfle arbennig i blant brofi ysbryd y Nadolig drwy greadigrwydd. Sesiwn arbennig stori a symud, ble mae’r Seren? Mwynhewch crefftau Nadoligaidd hefyd!

Canu yn y Capel

11:00–15:00 (£6)
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa? Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.

Saturnalia

11:00–16:00 (Am ddim)
Ymunwch â ni i ddathlu Saturnalia, gŵyl Rufeinig y gaeaf.  Dewch i gyfrafod llengfilwr, dysgu sut fyddai’r Rhufeiniaid yn dathlu, a mynd i hwyl yr ŵyl. Rhowch gynnig ar wneud …

Sesiwn Stori a Symud – Ble Mae’r Seren?

13:00 (£3 y plentyn dros 12 mis)
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 7fed am 1yp yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel-ar-Arth I gofrestru cysylltwych â nia@mgsg.cymru

Ble mae’r seren

13:00 (£3)
Sioe Nadolig i’r teulu.  Ble mae’r seren.  Ymunwch â’r fenter i ddathlu’r Nadolig.  nia@mgsg.cymru

Gŵyl Werin Geltaidd Llanybydder

13:00 (£15)
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Gŵyl Geltaidd gyntaf Llanybydder yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr.

Swyngyfaredd Cyfoes Cymraeg : sesiwn gyda Mhara Starling

13:00–15:30 (Am Ddim)
Dewch i ddarganfod trysorfa o swynion, defodau, ac ymarferion hudolus i ddefnyddio o ddydd i ddydd. Wedi ei hysbrydoli gan hanes hudoliaeth werinol Cymru, ond wedi cael ei sefydlu yn y byd modern.

Hosan Dolig Llansadwrn

14:00 (Am ddim ond bydd raffl a lluniaeth ar werth)
P’nawn Nadoligaidd o garolau ac eitemau gan unigolion, gyda raffl, gemau a lluniaeth yn neuadd Eglwys Llansadwrn. Pŵy a ŵyr…efallai bydd y dyn mewn coch ei hun yn dod i ddweud helo!

Ffair Nadolig Llandysul

14:00–18:00
Dewch i Landysul i fwynhau’r Ffair Nadolig. Bydd y brif stryd ar gau i draffig felly bydd yn hawsach i ymweld â’r siopau, a’r Stondinau bwyd a chrefft.

Kiri Pritchard Mc-Lean: Peacock

19:30 (£14 / £16)
Mae seren 8 out of 10 Cats Does Countdown , Have I Got News For You a QI , Kiri Pritchard-McLean wedi bod yn brysur iawn.

Dydd Sul 8 Rhagfyr 2024

Ambell i Garol ac Ambell i Gân

02:00 (£4)
Ambell i Garol ac Ambell i Gân yng nghwmni Côr CardiGân ac Aelodau CFfI Pontsian Arweinydd – Siw Jones, Felinfach  Organydd – Martin Griffiths, Llandysul 

Taith Gerdded a Brecwast efo Siôn Corn

09:30 (£4)
Taith gerdded a brecwast efo Sion Côrn. Dechrau o Faes Martin i Ysgol Llanfechell. Bydd crefftau hefyd i’r plant a nwyddau ar werth.

Cwrdd â Siôn Corn

10:00–17:30 (£10)
Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o’r Brif Adeilad.

Canu yn y Capel

11:00–15:00 (£6)
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa? Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.

Taith gerdded Yr Orsaf – Dinas Dinlle

14:00
Taith gerdded nesaf Yr Orsaf brynhawn dydd Sul, 8 Rhagfyr, am 2pm.

Cyngerdd Nadolig

18:00
Cyngerdd Nadolig Eglwys Sant Iago, Cwmann. Gyda Bois y Gilfach a Trystan Bryn Dydd Sul Rhagfyr 8fed am 6.00yh. Tocynnau – £10 Elw tuag at Arch Noa – Elusen Ysbyty Plant.

Dydd Llun 9 Rhagfyr 2024

Gweithdy Ffeltio Nadolig

17:00–19:00 (Am ddim)
Dewch i greu cymeriad Nadolig trwy ffeltio nodwydd. Mae’r gweithdy rhad ac am ddim hwn yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 10 oed a throsodd. Archebu yn hanfodol.

Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024

Gig Nadolig Dylan a Neil Penygroes

14:30
Ymunwch ein dathliad Nadolig efo Dylan a Neil Adloniant Panad a Mins Pei Raffl Croeso cynnes i bawb

Talwrn y Beirdd

19:00
Bydd BBC Radio Cymru yn recordio cyfres newydd o’r Talwrn a hynny o Festri Capel Disgwylfa. Mae’r mynediad am ddim ond cynhelir raffl er budd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024

Carolau Cymuned Bronant

19:00
Noson o ganu carolau cymunedol yn neuadd Bronant. Perfformiadau gan; Ysgol Rhos Helyg Parti Camddwr  Clwb CFFI Lledrod Gwin twym a mins peis. Dewch yn llu i ddathlu’r Nadolig gyda ni!

Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024

Sgwrs Artist gyda Bedwyr Williams

14:00–16:00 (Am Ddim)
Sgwrs Artist  Bedwyr Williams  Ymuwch â Bedwyr Williams wrth iddo drafod ei waith ai yrfa oi waith yn casgliad Saachi i cynrychioli Cymru yn Biennale  Venice yn 2005.