Hyd at 31 Awst 2024, 16:00 (Digwyddiad am ddim, codir tal mynediad arferol i'r ardd.)
Dewch i weld y byd trwy lygaid pryfyn gyda Prys a’r Pryfed gan Aardman! Ymunwch â ni am haf o hwyl gyda Prys â’r Pryfed, cyfres gomedi wedi’i hanimeiddio gan Aardman.
Ar yr 20fed a 21ain o Awst bydd Cwrs Theatr Technegol yn cael ei redeg yng Nghanolfan Arad Goch yn Stryd Y Baddon, Aberystwyth, lle bydd cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan yn cael dysgu am y byd …
Nos Wener 23ain, 7.30 o’r gloch, yng Nghlwb Rygbi Llanbed cynhelir Talwrn y Beirdd a’r Babell Lên, dan ofal y Prifardd Mererid Hopwood a’r Prifardd Aneurin Karadog.
Dydd Sadwrn Awst 24ain 8:50yb Gorsaf fws Aberystwyth Gan ddal y bws i Eisteddfa Gurig, fe fyddwn yn cerdded i bwynt uchaf Ceredigion a’r Elenydd – Pen Pumlumon Fawr sy’n 752m.
Dydd Sadwrn 24ain, 1.30 o’r gloch, yn Ysgol Bro Pedr agorir yr Eisteddfod gan y Cadeirydd newydd, Emlyn Davies, Llanybydder. Dewch i gefnogi a mwynhau diwrnod cyntaf yr Eisteddfod.
Yr olaf o sesiynau ‘gwerin ar y cei’ Pwyllgor Ardal Aberconwy 2024 (byddent yn dychwelyd mis Mai 2025) Dewch draw i fwynhau’r gerddoriaeth a’r naws mewn lleoliad arbennig neu …
Nos Sul, 25ain, 6.00 o’r gloch, yn Ysgol Bro Pedr, cynhelir rownd derfynol Llais Llwyfan Llanbed tan arweiniad Rhiannon Lewis. Dyma ‘gyngerdd’ yr Eisteddfod gan edrych ymlaen at glywed rhaglenni’r …
Sioe amaethyddol lleol i’r teulu gyfan ! Yn cynnwys cystadlaethau coginio, garddio, ffotograffiaeth, adran i’r plant , yn ogystal ag adran gwartheg a defaid, Sioe Gŵn a Mabolgampau hefyd !
Mae mwy i fywyd na gwaith! Dysgwch am hamdden a hobïau cymunedau mwyngloddio mewn cyfres o weithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf. Oes awydd gyda chi i droi eich llaw at rasio colomennod?
Ymunwch gyda ni ym mis Awst am deithiau cerdded o amgylch Cwm Idwal. Bydd bws am ddim gan PartneriaethOgwen yn gadael o flaen yr Hên Bost ym Methesda am 9.30am.
Mae mwy i fywyd na gwaith! Dysgwch am hamdden a hobïau cymunedau mwyngloddio mewn cyfres o weithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf. Oes awydd gyda chi i droi eich llaw at rasio colomennod?
Yr ail mewn cyfres o 6 stiwdio agored misol i bobl ifanc ac artistiad lleol fydd yn cael ei gynal gan Hedydd Ioan (SKYLRK) Cyfle i ddysgu, rhannu a chreu diwylliant y dyfodol .