Cyfarfod cyntaf y tymor i Ferched y Wawr Cangen Llanbedr Pont Steffan, p’nawn Llun, Medi 9fed, yn Festri Brondeifi, Llanbed am 2.00 o’r gloch. Cwiltio Capeli yng nghwmni Rowena Mathew.
Mae Banc Bwyd Arfon yn fenter gymunedol drefnwyd gan Caernarfon Pentecostal Church (Canolfan Gwyrfai, Lon Cae Ffynnon, Caernarfon, LL55 2BD) mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Trussell, sefydliad …
Noson gymdeithasol o gemau hwyliog yn Neuadd Llanllyfni i groesawu aelodau presennol a newydd i’r clwb. Mae’r clwb yn agored i unrhyw bobl ifanc rhwng bl.9 a 30 mlwydd oed.
Fel ymateb i gynlluniau Bute Energy / Green Gen i adeiladu nifer o ffermydd gwynt enfawr yn yr ardal, mae cangen Ceredigion o YDCW ( Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig) wedi’i hatgyfodi.
Dewch i weithdy am ddim efo Erika Spence i ddysgu sut i ailddefnyddio hen grysau-t i greu bagiau newydd gan leihau gwastraff a’r angen i brynu o’r newydd.
Dewch draw i wrando ar gerddoriaeth Jazz, dawnsio, panad, cacen a raffl. Am ddim Croeso cynnes i bawb Rhagor o wybodaeth – gwenda@eryricoop.cymru 07999 453676
Ymunwch â Brownies Gerlan Mae gynnon ni leoedd yn Brownies Nant Ffrancon! Rydym yn cyfarfod ar nos Iau yn Gerlan, a byddwn yn cychwyn ar y 12fed o Fedi. Dewch i ymuno yn yr hwyl!
Ydy pobl Aberystwyth yn eistedd ar ffortiwn fach? Mae gan y Tîm celfyddyd gain yr ateb! A allai pobl sy’n byw yn ac o gwmpas Aberystwyth fod yn eistedd ar ffortiwn fach yn ddiarwybod?
Ymunwch â ni am sgwrs fanwl gyda’r artistiaid Kim Atkinson a Noelle Griffiths am eu harddangosfa ar y cyd, “Moss Garden,” sy’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yn Storiel.
Cynhelir taith gerdded Ysgol Gymunedol Talgarreg ar y cyd â Chylch Meithrin a Ti a Fi Talgarreg ar nos Wener, 13eg o Fedi (os bydd y tywydd yn caniatáu).
Wedi’i ffurfio’n wreiddiol yn Tyneside yn 2007, mae Lanterns on the Lake yn cyfuno roc Indie breuddwydiol, melancolaidd â haenau hardd o wead ac alawon nefol sy’n plethu o amgylch offeryniaeth …
Gŵyl i bawb ar dir Castell Aberystwyth!! Dewch â’r teulu cyfan i ymuno yn y gweithgareddau drwy’r dydd. Bwyd poeth, bar a digon o berfformiadau at ddant pawb!!
Yr trydydd mewn cyfres o 6 stiwdio agored misol i bobl ifanc ac artistiad lleol fydd yn cael ei gynal gan Hedydd Ioan (SKYLRK) Cyfle i ddysgu, rhannu a chreu diwylliant y dyfodol .
Ymunwch â Dysgu Bro i ddysgu sut i gysylltu eich ffon a dyfeisiau amrywiol megis cysylltu â Alexa, argraffwyr, a throsglwyddo Lluniau. Yn rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn, Medi 14eg 1.15yp-4-15yp.
Croesawn Jeffrey Howard i Eglwys y Santes Fair, Aberteifi, 7:30 o’r gloch nos Sadwrn 14 Medi i roi datganiad ar organ yr Eglwys – i gynnwys Bach, Vivaldi, Widor, Elgar, Cochereau a …
Cwis cyntaf pwyllgor newydd Criw Creu – Bydd Meirion Owen yn cwisfeistro yn nhafarn y Castle View, Deganwy. Dewch draw am noson hwyliog (ac efallai heriol?!)
Dewch i bori Archif Ddarlledu Cymru i weld sut mae hunaniaeth LHDTC+ yn bwysig i ardal Caernarfon a Chymru, a creu animeiddiad gyda’r cwmni animeiddio Winding Snakes
Bydd lansiad swyddogol Tegid360 yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Henblas ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr eleni. Dyma gyfle i weld sut all ein platfform digidol newydd gyfrannu tuag at eich busnes, clwb a …
Cyfarfod Diabetes Mi fyddwn yn cwrdd Nos Fawrth, 17 Medi 2024, am 7.30 y.h. Yn Festri Aberduar pan fydd Gwestai arbennig yn dod atom i siarad. Dewch i ymuno a ni. Te a bisgedi ar ddiwedd y noson.
Dewch i gymdeithasu a mwynhau stori a chân gyda ni yn Amgueddfa Wlân Drefach Felindre. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn yr Ystafell Addysg am 1.30yp. Nodwch y dyddiad a dewch i ymuno gyda ni!
Bydd Cymdeithas Tseiniaidd yng Nghymru (CTYN) yn cynnal digwyddiad i blant ysgol a’r cyhoedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o amgylch Gŵyl Canol Hydref Tsieineaidd neu Ŵyl y Lleuad.
Ffair Ysgol Abercaseg a Phenybryn Gemau, adloniant, gweithgareddau, bwyd, stondinau, castell neidio, raffl, tombola a mwy. Croeso i bawb o’r gymuned. Dewch yn llu am hwyl a sbri!
Bydd tymor 2024/25 Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn dechrau nos Iau 19 Medi yn Neuadd Llanystumdwy gyda darlith (yn Saesneg) gan yr Arglwydd Dafydd Wigley am ei gysylltiadau teuluol â’r …
Beth am fynd amdani a threfnu bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld á’r ardal i ddathlu 240 mlynedd ers i’r Eisteddfod gyntaf cyhoeddus cael ei chynnal yng Ngwesty’r Owain …