calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 19 Hydref 2024

Gwyl Daniel Owen

Hyd at 25 Hydref 2024 (Am ddim / £5 - £15)
Gŵyl wythnos o hyd i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am fywyd a gwaith Daniel Owen,yr awdur enwog o’r Wyddgrug, a ystyrir fel tad y nofel Gymraeg.

Dydd Llun 21 Hydref 2024

DEFNYDDIO’R GYMRAEG AR EICH CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

18:30
Ydych chi angen mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol yn llwyddiannus?Mae Clwb Rygbi Llanbed yn trefnu sesiwn ar ddefnyddio Cymraeg ar y Cyfryngau Cymdeithasol mewn …

Dydd Mawrth 22 Hydref 2024

Arddangosfa 50 mlwyddiant Llais Ogwan

10:00 hyd at 16:00, 26 Hydref 2024
Cyfle i weld arddangosfa o ôl-rifynnau’r papur bro lleol dros yr hanner canrif diwethaf yn neuadd Ogwen rhwng 10am a 4pm bob dydd o ddydd Mawrth, 22 Hydref tan ddydd Sadwrn, 26 Hydref 2024.

ARDDANGOSIAD COGINIO

19:00 (£15 yn cynnwys diod a Bwrdd Pigo)
Arddangosiad Coginio gyda Gareth Richards. Mae’r pris mynediad yn cynnwys Bwrdd Pigo a diod, a chyfle prynu’r bwyd ar y diwedd.Ychydig o docynnau ar ol gan Shan Llether 07968077242

Arddangosiad Coginio gan Gareth Richards

19:30 (£15 yn cynnwys Bwrdd Pigo a Diod)
Arddangosiad Coginio gan Gareth Goedwig, a’r bwyd yn cael ei werthu ar y diwedd.

Dydd Mercher 23 Hydref 2024

Gweithdy Brodwaith

10:00–12:00 (Am ddim)
Gweithdy rhad ac am ddim. Dewch i ddysgu sgiliau sylfaenol brodwaith llaw. Nid oes angen profiad blaenorol – darperir yr holl ddeunyddiau. Cysyllwch efo gofod@ogwen.org i archebu lle. 

Y Grefft o Rwydweithio

10:30–12:30 (Am ddim)
Ymunwch â ni am ddigwyddiad arbennig yn Yr Albion, Aberteifi.

Dydd Iau 24 Hydref 2024

Gardd a Natur

10:00–17:00
Dewch i Tŷ Mawr Wybrnant ar 24 Hydref i gymryd rhan mewn sesiynau difyr, hwyliog ac amrywiol gyda natur a phlanhigion yn ganolbwynt i bopeth.

Sgyrsiau Hanes Chwaraeon Gwynedd Dr Meilyr Emrys #3 Cymru Gemau Olympaidd Paris 1900 a 1924

14:00–16:00 (Am Ddim)
’Roedd tîm Olympaidd Prydain ar gyfer Paris 2024 yn cynnwys mwy o aelodau Cymreig nag erioed o’r blaen ac enillodd athletwyr ‘Gwlad y Gân’ fwy o fedalau eleni nag mewn unrhyw Olympiad blaenorol.

Gweithdy Meddalwedd Inkscape

18:30 (Am ddim)
Gweithdy rhad ac am ddim! Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio’r feddalwedd hanfodol hon sy’n gydnaws â thorrwr laser, torrwr finyl ac argraffydd sychdarthiad.

Cicio’r Bar 24 Hydref

19:45 (£10 / gostyngiad £8 / UMCA £5)
Wedi saib dros yr haf, mae Cicio’r Bar yn ei ôl gyda leinyp a hanner: dau o enillwyr mawr y flwyddyn.

Dydd Gwener 25 Hydref 2024

Gwyl Fwyd

(Am ddim)
Bydd Gwyl Fwyd yn cael ei chynnal yn y Ganolfan i gyd-fynd gyda ffair y Bala

Hel Hanes Gerlan dros baned a sgwrs

16:00
Dewch i’r Caban i rannu eich straeon am y pentref, Ysgol Gerlan a’r neuadd. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Dewch ac unrhyw luniau sydd gennych yn cuddio’n y tŷ efo chi.

Hywel Pitts a Llio Maddocks, Cyfres Caban

18:45
Adloniant, diwylliant, chwyldro… a lot fawr o hwyl! Noson arall yng nghyfres Caban, gan Yes Cymru Bro Ffestiniog. Rhybudd Iaith Gref! Cyfieithu ar y pryd ar gael.

GIATIAU GRACELAND – Noson gyda John ac Alun a’r Band

19:00 (£8 (plant £4))
Noson o Ganu Gwlad gyda John ac Alun a’r Band yn fyw yn Nyffryn Teifi. Noson i ddechrau am 7pm. Drysau a’r caffi’n agor am 6.15pm.

JOHN AC ALUN A’R BAND

19:00 (£8)
john ac alun a’r band yn fyw !Tocynnau ar gael am £8 gamn meinir@cadwyn.com 01559-384378

Gig Al Lewis

19:30
Gig arbennig yng nghwmni Al Lewis a’r band. Mae Al Lewis yn ganwr-gyfansoddwr Cymreig sy’n enwog am ei delynegion twymgalon a’i lais cyfoethog.

Gig Jac-do: Candelas + Tew Tew Tennau

20:00 (£12)
Gig Jac-do arall gan griw Pwyllgor Aberconwy – ac mae hi’n glincar! Candelas a Tew Tew Tennau – bandiau gwych, dewch draw!

Dydd Sadwrn 26 Hydref 2024

Stwff! Sut ar y ddaear? gyda Maddie Moate

(£4yp)
Ymunwch â’r cyflwynydd teledu plant poblogaidd a’r seren You Tube Maddie Moate wrth iddi gyflwyno ffeithiau anhygoel a straeon diddorol am rai o’r ffyrdd rhyfeddol mae pobl ledled …

Creu syllwr enfys

(£3 y plentyn)
Ydych chi erioed wedi ystyried pam mae pethau o liwiau gwahanol? Wyddech chi fod rhai lliwiau’n anweledig?

Gwyl Ffos Davies

YN Y DYDD: I blant a phobl ifainc – sesiwn storiau a chwedlau lleol – gweithdy canu gwerin /offerynnau gwerin / cyfansoddi caneuon gwerin GYDA’R NOS: Noson Lawen Iawn – noson …

Taith ARFOR – Sioe ‘Cymrix’ yn Yr Egin

(AM DDIM)
Ar y cyd â Chwmni Theatr Arad Goch, mae Llwyddo’n Lleol wedi trefnu sioeau cymunedol ar gyfer teuluoedd siroedd ARFOR, sef Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn.

Diwrnod Genod Grymus

09:00–15:30 (£39)
Ydych chi’n dymuno cael yr ysbrydoliaeth i newid eich bywydau? Dyma gyfle unigryw i ferched yr ardal i gael diwrnod iddyn nhw eu hunain a derbyn ychydig o gyngor ar sut i fyw eich bywyd gorau.

Diwrnod Genod Grymus

09:30–15:00
Diwrnod Genod Grymus – diwrnod i bob merch, oedran 16+ Wyt ti’n mynd drwy gyfnod trawsnewidiol ar hyn o bryd? Fyse ti’n hoffi agor dy feddylfryd a datblygu dy hyder?

Diwrnod Genod Grymus

09:30–15:30 (£39)
Diwrnod i ti! Siaradwyr gwadd, cyfle i fwynhau cwmni merched eraill, rhannu profiadau, magu hunan hyder, meithrin meddylfryd positif, a gorffen gyda sesiwn hunan ymlacio dwfn.

Hel Hanes Gerlan dros baned a sgwrs

10:00
Dewch i’r Caban i rannu eich straeon am y pentref, Ysgol Gerlan a’r neuadd. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Dewch ac unrhyw luniau sydd gennych yn cuddio’n y tŷ efo chi.

Bore Coffi

10:00–12:00
Bore Coffi yng Nganolfan Cwmann Dydd Sadwrn, Hydref 26, 10 – 12 Stondinau, Raffl Llywydd Mr Cyril Davies Holl elw yn mynd at Ymchwil Canser UK Cancer Research UK

Marchnad Llambed

10:00–13:00 (Am ddim, yn gynnwys parcio ar y campws)
Mae Marchnad Llambed yn digwydd ddwywaith y mis ar yr ail a phedwerydd bore Sadwrn, yn gwerthu bwyd a chrefftau o safon uchel wedi’u cynhyrchu’n lleol.

Cow & Ghost Vintage yn cyflwyno: Marchnad Gwneuthurwyr Gwlanog

10:00–16:00 (Am ddim)
Dathliad Mis Gwlân Cenedlaethol yn Amgueddfa Wlân Cymru.

Cefnforoedd campus – taith i’r dyfnderoedd

11:00 (£3yp)
Wrth i ni fentro’n ddyfnach i waelod y môr, rydyn ni’n oedi i edrych ar rai o’r anifeiliaid y down ar eu traws ar y ffordd, gan astudio eu dulliau anhygoel o addasu sy’n eu …

Cefnforoedd campus – morfilod mawreddog!

13:00 (£3yp)
Morfilod a dolffiniaid yw’r anifeiliaid mwyaf cŵl, heb os, felly byddwch yn barod am ffeithiau anhygoel wrth i ni edrych ar addasiadau mwyaf anhygoel y cewri cefnforol sy’n …

Cefnforoedd campus – arddangosiad dyrannu pysgod

15:00 (£3yp)
Ymunwch â’r Dr Russell Arnott, Biolegydd Morol, i ddarganfod pa addasiadau biolegol anhygoel sy’n gwneud pysgodyn yn bysgodyn, wrth iddo gynnal dyraniad gwyddonol.

WiFi Wars

15:30 (£7.50 - £10)
Mae WiFi Wars yn dychwelyd gyda’r sioe gêm gomedi fyw lle rydych chi i gyd yn chwarae!

ZAP!

15:30 (£3yp)
Profwch bŵer trydan fel erioed o’r blaen yn ein sioe wyddoniaeth gyffrous!  Dewch i edrych ar yr wyddoniaeth y tu ôl i wreichion, a darganfod y ffyrdd rhyfeddol mae trydan yn siapio ein byd.

OGTOBERFEST

19:00 (£10.00)
Noson gymdeithasol o fwynhau chydig o fwyd, diod a cherddoriaeth

Gig: Al Lewis Band + Sara Davies

19:30
Gig arbennig gyda’r cerddor dawnus Al Lewis a’i fand talentog. Yn agor y noson bydd Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni.

Bingo Boncyrs!

19:30
Noson o hwyl Bingo Boncyrs gydag Owain Llŷr – DJ Bustach! Noson hwyliog a chroeso cynnes i bawb.

Guy Davis

20:00 (£20 / £18)
Mae’r aml-offerynnwr Guy Davies wedi cael ei enwebu am Grammy ddwywaith yn olynol am y Best Traditional Blues, mae’n gerddor, actor, awdur, ysgrifennwr caneuon, cymaint mwy na dim ond ‘bluesman’, …

Dydd Sul 27 Hydref 2024

Parti Gwyddoniaeth Sbarc

(Am ddim)
Ymunwch â Sbarc, gwyddonydd hwyliog Cyw S4C sydd wrth ei fodd yn archwilio a chynnal arbrofion o bob lliw a llun.

Taith Gerdded Meddwlgarwch

09:30–12:30
Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gyda arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.

Taith Meddwlgarwch Cwm Idwal

09:30–13:00
Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gyda arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.

Sioe Wyddoniaeth Swigod a Balwns!

10:30 (£3yp)
Hwyl a sbri glân gloyw i’r teulu cyfan!  All swigen bara am byth? Oes y fath beth â swigen sgwâr? Ydych chi’n ddigon dewr i roi pin mewn balŵn?

Gweithgareddau i deuluoedd yn Arad Goch

11:00–15:00 (Am ddim)
Ydych chi a’ch plant eisiau gweithgaredd i gymryd rhan ynddo drwy gyfrwng y Gymraeg?

Sioe Wyddoniaeth Dŵr Ffrwydrol!

12:30 (£3yp)
Allwn ni wasgu dŵr? Ei ffrwydro? Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n ei ferwi yn y gofod?

Gwyddoniaeth am y gorau! gyda Big Manny

13:30 (£3yp)
Iawn BŴM!  Ymunwch â’r seren TikTok Big Manny, wrth iddo drafod ei lyfr sydd ar y gweill, Science is Lit.  Dysgwch sut i fod yn wyddonydd go iawn a chreu arbrofion anhygoel gartref gan …

Gweithdy Gwyddoniaeth a Rapio: nabod ein gofod

14:30 (£3 y plentyn)
Dysgwch bopeth am y gofod a’n perthynas ag e trwy gyfrwng rap ac arddangosiadau.  Beth sy’n achosi’r planedau i droi mewn cylch? Beth yw diben y tymhorau?

PEJIC Magic – ffordd o feddwl

15:00 (£3yp)
Ymunwch â’r dewin a’r actor enwog Stefan Pejic mewn sioe unigryw sy’n cyfuno hud a lledrith â gwyddoniaeth niwrowyddoniaeth.  Dyma daith fythgofiadwy trwy ddirgelion gwybyddiaeth, …

RAY MEARS – Remote People & Remote Places, The Search for Hope in the Wilderness.

16:00 (£4 yp)
Does neb yn adnabod y diffeithwch yn well na Ray Mears. ‘Beth yw diffeithwch?’, Pam y mae mor bwysig?

Dydd Llun 28 Hydref 2024

Chwedlau a Chreaduriaid y Pwll Glo

11:00–16:00 (£6.50 y plentyn)
Ymunwch â’n Storïwr Goruwchnaturiol yn ei fwthyn clyd i fwynhau chwedlau gwerin hynafol am fwystfilod pyllau glo Cymru.  Dewch i ddysgu am y Tylwyth Teg cyfriniol gyda straeon am y Coblynau …

Gweithdy Torrwr Finyl

18:30 (Am ddim)
Gweithdy am ddim! Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio’r torrwr finyl a chael cyfle i wneud sticeri finyl i fynd adref gyda chi.

Dydd Mawrth 29 Hydref 2024

Paent Naturiol Calan Gaeaf

(£3 y plentyn)
Yn y sesiwn yma byddwch yn gallu gwneud eich paent eich hun drwy ddefnyddio cynhwysion naturiol bydd yr artist Rhiannon Rees wedi casglu ar eich cyfer.  Bydd gennych restr gynhwysion i ddewis …

Creu a Chadw Gwlanog gyda Menter Gorllewin Sir Gâr

10:30–12:30 (Am ddim)
Dewch draw i ddathlu Mis Gwlân Cenedlaethol yma yn Amgueddfa Wlân Cymru gyda Menter Gorllewin Sir Gâr. Rhowch gynnig ar greu creadigaethau gwlanog gwych!

Cymrix

11:00–11:55 (Am Ddim)
Drama gan Alun Saunders i blant oed 9 i fyny syn ymdrin a hunaniaeth ai Iaith Gymraeg trwy lygaid 3 person ifanc “Mae tyfu fyny ’n ddigon o her: darganfod pwy wyt ti, pwy allet ti fod yn ogystal a …

Cymrix (Perfformiad Ddwyieithog)

13:30–14:30 (Am Ddim)
Drama newydd gan y dramodyddAlun Saunders i blant oed 9 i fyny syn ymdrin a hunaniaeth ai Iaith Gymraeg trwy lygaid 3 person ifanc “Mae tyfu fyny ’n ddigon o her: darganfod pwy wyt ti, pwy allet ti …

Tu ôl i’r Llenni: Cadwraeth celc o’r ganrif 1af OC

14:00–14:45 (£8)
Dewch ar daith i’r labordy cadwraeth archaeoleg i weld y gwaith diweddaraf ar y celc o lestri Oes Haearn a Rhufeinig o’r ganrif gyntaf OC.

Cymrix

15:45–16:45 (Am Ddim)
Drama gan Alun Saunders i blant oed 9 i fyny syn ymdrin a hunaniaeth ai Iaith Gymraeg trwy lygaid 3 person ifanc “Mae tyfu fyny ’n ddigon o her: darganfod pwy wyt ti, pwy allet ti fod yn ogystal a …

Many Roads: Women’s Personal Stories of Courage and Displacement in Wales

17:00 (Am ddim)
“Yn sydyn aeth popeth yn ddu.” Yn 11 oed, cafodd Faaeza Jasdanwalla-Williams ei tharo gan lori laeth wrth gerdded ym Mumbai.

Nosweithiau Calan Gaeaf

17:30 hyd at 21:00, 31 Hydref 2024 (£14)
Mae Calan Gaea’n agosáu, ac mae’n bryd dod â’ch coblynnod a’ch bwganod bach i’r Amgueddfa am noson OFNadwy o ddifyr i’r teulu cyfan! Crwydrwch yr Amgueddfa i ddod o hyd i’n gwesteion annaearol.

Dydd Mercher 30 Hydref 2024

Paent Naturiol Calan Gaeaf

(£3 y plentyn)
Yn y sesiwn yma byddwch yn gallu gwneud eich paent eich hun drwy ddefnyddio cynhwysion naturiol bydd yr artist Rhiannon Rees wedi casglu ar eich cyfer.  Bydd gennych restr gynhwysion i ddewis o’u …

Traed Bach Mwdlyd- Clwb Gwyllt gydag Ellie: Gweithgareddau Calan Gaeaf Gwlanog Gwyllt!

10:30–12:30 (£3 am bob plentyn)
Ymunwch ag Ellie o Traed Bach Mwdlyd yn yr ysgol goedwig Clwb Gwyllt. Mwynhewch nifer o weithgareddau gwlanog hwyliog ar ddôl  yr Amgueddfa!

Melltithion, Iachâd a Gladiatoriaid

10:30 hyd at 15:30, 1 Tachwedd 2024 (£2.50)
Ymwelwch ag un o feddygon Byddin Rhufain a dysgu am y planhigion a’r technegau a ddefnyddiwyd i drin milwyr Rhufeinig dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.   Dewis ar hap o restr o salwch a …

Sesiwn creu a chrefft ar thema hydref a Chalan Gaeaf gyda Y Pethau Bychain

11:00–13:00 (Am Ddim)
Cwmni bach wedi’i ffurfio gan ddwy addysgwr sy’n angerddol am gelf a chrefft ym myd natur ydy Y Pethau Bychain.

Chwedlau a Chreaduriaid y Pwll Glo

11:00–16:00 (£6.50 y plentyn)
Ymunwch â’n Storïwr Goruwchnaturiol yn ei fwthyn clyd i fwynhau chwedlau gwerin hynafol am fwystfilod pyllau glo Cymru.  Dewch i ddysgu am y Tylwyth Teg cyfriniol gyda straeon am y Coblynau …

Mimosa

14:00 (£12 | £10 | £6)
Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn cyflwyno’r Sioe Gerdd: Mimosa gan | by Tim Baker a Dyfan Jones Dyma stori ein cyndeidiau a ymfudodd i Dde America ar y cliper te, Mimosa, o dociau Lerpwl …

Sesiwn creu a chrefft ar thema hydref a chalan Gaeaf gyda Y Pethau Bychain

14:00–16:00 (Am Ddim)
Cwmni bach wedi’i ffurfio gan ddwy addysgwr sy’n angerddol am gelf a chrefft ym myd natur ydy Y Pethau Bychain.

Arad Goch: CYMRIX

14:30–15:30 (AM DDIM)
Drama ddwyieithog newydd gan y dramodydd Alun Saunders sydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri person ifanc.

Mimosa

18:30 (£12 | £10 | £6)
Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn cyflwyno’r Sioe Gerdd: Mimosa gan | by Tim Baker a Dyfan Jones Dyma stori ein cyndeidiau a ymfudodd i Dde America ar y cliper te, Mimosa, o dociau Lerpwl yn 1865 …

Gig Jonny Thomas a’r band a Chwaer

19:30 (£5 (wrth y drws))
Mae Jonny Thomas yn grwt lleol a Cwaer yn fand ifanc newydd – dewch i glywed y ddau yn Y Seler yn Aberteifi