calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 20 Medi 2024

Arddangosfa Mynachlog Fawr Yn Agor

Hyd at 22 Tachwedd 2024, 15:00 (Am ddim)
Yma yn Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, rydym yn paratoi ac yn gyffrous i groesawu ein hymwelwyr cyntaf yn 2024 i Arddangosfa Mynachlog Fawr.

Dydd Mawrth 29 Hydref 2024

Nosweithiau Calan Gaeaf

17:30 hyd at 21:00, 31 Hydref 2024 (£14)
Mae Calan Gaea’n agosáu, ac mae’n bryd dod â’ch coblynnod a’ch bwganod bach i’r Amgueddfa am noson OFNadwy o ddifyr i’r teulu cyfan! Crwydrwch yr Amgueddfa i ddod o hyd i’n gwesteion annaearol.

Dydd Iau 31 Hydref 2024

Paent Naturiol Calan Gaeaf

(£3 y plentyn)
Yn y sesiwn yma byddwch yn gallu gwneud eich paent eich hun drwy ddefnyddio cynhwysion naturiol bydd yr artist Rhiannon Rees wedi casglu ar eich cyfer.  Bydd gennych restr gynhwysion i ddewis o’u …

Gweithdy Pypedau Calan Gaeaf gyda Elen Williams

11:00–13:00 (Am Ddim)
Ymunwch a ni yn Storiel am weithdy hwyl gyda Elen Williams i greu detholiad o bypedau a creadyriad calan gaeaf a golygfa hydrefol wedi ei wneud hefo papur . Addas i oedran 5 i 11

Gweithdy Pypedau Calan Gaeaf gyda Elen Williams

14:00–16:00 (Am Ddim)
Ymunwch a ni yn Storiel am weithdy hwyl gyda Elen Williams i greu detholiad o bypedau a creadyriad calan gaeaf a golygfa hydrefol wedi ei wneud hefo papur . Addas i  blant oedran 5 i 11

Calan

19:30 (Safonnol: £21.50)
Profiad Cerddorol Chwedlonol gyda CALANYmgollwch mewn byd hudolus wrth i’r pedwarawd hudolus CALAN ddod ar ein llwyfan gyda’u brand unigryw o gerddoriaeth werin rymus.

Clwb Comedi Hydref

20:00 (£9 - £12)
Ymunwch â tri comedïwr yn ein Stiwdio am noson wych o gomedi! Frances Keyton, Jack Campbell, Eva Bindeman.  16+

Dydd Gwener 1 Tachwedd 2024

Gweithdy “Parti Arlunio” gyda Catrin Williams

11:00–13:00 (Am Ddim)
Gweithdy plant – oedran 5-11 ai teuluoedd Sesiwn gweithdy byw gyda’r artist Catrin Williams i ddysgu sgiliau newydd mewn llyfr braslunio.

Gweithdy “Parti Arlunio” gyda Catrin Williams

14:00–16:00 (Am Ddim)
Gweithdy plant – oedran 5-11 ai teuluoedd Sesiwn gweithdy byw gyda’r artist Catrin Williams i ddysgu sgiliau newydd mewn llyfr braslunio.

Mimosa

18:30 (£12 | £10 | £6)
Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn cyflwyno’r Sioe Gerdd: Mimosa gan | by Tim Baker a Dyfan Jones Dyma stori ein cyndeidiau a ymfudodd i Dde America ar y cliper te, Mimosa, o dociau Lerpwl yn 1865 …

Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 2024

Sgwrs Bür Aeth #5 Eleri Llwyd : Atgofion trwy ganeuon

14:00–15:30
Bydd yr ail sgwrs yn ymwneud hefo’r gantores Eleri Llwyd wrth iddi rhannu ei atgofion o sin byrlymus bandiau Aberystwyth., cyfrannu i’r bandiau roc a pop cynnar Y Nhw a’r Chwyldro .

LANSIAD EP C E L A V I + GWESTAI ARBENNIG

19:00–23:00
C E L A V I + GWESTAI ARBENNIG DIVINITAS A REDWOOD AVENUE NOSON METAL  Lansiad EP newydd y band nu-metal C E L A V I o Fangor Mynediad am ddim!

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024

Gorwelion/Frontiers

19:30 (£8 - £16)
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno: Gorwelion/Frontiers Dewch i ddianc i fyd yn llawn cyffro trwy wylio dwy ddawns gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – profiad dawns cadarnhaol a …

Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024

Llygod Bach yr Amgueddfa – Tan Gwyllt

10:15–12:15 (Am ddim)
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein grwp misol i blant o dan 5 oed.

Sesiwn gyda Cleif Harpwood a Geraint Cynan

19:00 (£8 (Plant £4))
Noson o Ganeuon, atgofion a Chlasuron Edrward H Dafis gyda Cleif Harpwood a Geraint Cynan. Tocynnau £8 / £4 Plant oed cynradd gan meinir@cadyn.com 01559-384378

Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024

Ffair Aeaf Môn

Hyd at 10 Tachwedd 2024
Mae Ffair Aeaf Môn yn ei hôl eto eleni. Cyfle i fwynhau cystadlu ar draws yr adrannau a gwneud ychysig o siopa Nadolig. Mwy o fanylion i ddilyn.

A(AGOR)R inois ar agor sesiwn 5

12:00–15:00
Y pumed mewn cyfres o 6 stiwdio agored misol i bobl ifanc ac artistiad lleol fydd yn cael ei gynal gan Hedydd Ioan (SKYLRK) Cyfle i ddysgu, rhannu a chreu diwylliant y dyfodol .

Seckou Keita – Homeland Band

19:30 (£20)
Mae Seckou Keita yn chwaraewr penigamp ac enwog offeryn llinynnol y Kora ac mae’n uchel ei barch ymhlith cerddorion traddodiadol Affricanaidd.

Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024

Darganfod Derwyddiaeth Cyfoes – Darlith gan Kristoffer Hughes

13:00–15:30 (Am Ddim)
Taith a sgwrs i ddarganfod natur ac ysbryd Derwyddiaeth a sut mae Cymru wedi ysbrydoli a gwybodi ymarferiadau Paganaidd cyfoes Gorllewinol. 

Cowbois Rhos Botwnnog + BBC NOW

20:00 (£15)
Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu pumed albwm Mynd A’r Tŷ Am Dro a thaith tu hwnt o boblogaidd yn y gwanwyn, bydd cerddoriaeth brydferth a hudolus Cowbois Rhos Botwnnog yn cael ei berfformio mewn …

Dydd Iau 21 Tachwedd 2024

Stori a Chân

13:30 (Am ddim)
Dewch i gymdeithasu a mwynhau stori a chân gyda ni yn Amgueddfa Wlân Drefach Felindre. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn yr Ystafell Addysg am 1.30yp. Nodwch y dyddiad a dewch i ymuno gyda ni!

Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024

Cofio Ciliau Parc – Cyngerdd a Noson Ffilm 🎬🍿

Cofio Ciliau Parc –  Cyngerdd a Noson Ffilm 🎬🍿 Ydych chi’n cofio bod yn rhan o berfformiadau’r ysgol?

Culhwch ac Olwen (Cwmni Mega)

(£8)
Cwmni Mega yn cyflwyno Culhwch ac Olwen Mae Culhwch yn caru Olwen er nad ydi o wedi ei gweld hi erioed.

Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024

Sesiynau Storiel #2 Tristwch y Fenywod

14:00–16:00 (Am Ddim)
Bydd ail berfformiad Sesiynau Storiel yn cynnwys Tristwch Y Fenywod , triawd o Leeds fydd sydd wedi dal dychymyg gyda ei cerddoriaeth gwerinol gothig arallfydol .