calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 15 Ionawr 2025

Cwrdd Diolchgarwch Bethel Parc-y-rhos

19:00
Pregethir gan y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Cesglir tuag at Sefydliad y Galon a Diabetes UK.

Peint a sgwrs Pesda

19:00 (Am ddim)
Sesiwn sgwrsio Cymraeg

Peint a Sgwrs Pesda

Hyd at 12 Hydref 2023, 21:00 (Am ddim)
Cyfle i sgwrsio yn y Gymraeg i siaradwyr hen a newydd!

Bore Coffi Shwmae Shwmae

Hyd at 13 Hydref 2023, 11:30 (£2)
Cynhelir y bore coffi ar ddydd Gwener y 13eg o Hydref yn neuadd y campws cynradd am 10:00y.b- 11:30. Cyfle i ddod at ein gilydd fel cymuned i gael coffi, cacen a chlonc.

Llygod Bach yr Amgueddfa

Hyd at 13 Hydref 2023, 12:15 (Am ddim)
Cyfle i ddod i fwynhau crefft, stori a chân Cymraeg am ddim, yn ein grŵp misol Llygod Bach yr Amgueddfa, i blant o dan 5 mlwydd oed.

Eisteddfod Gadeiriol Llanarth

12:30
Ysgol Llanarth yn cystadlu am 12.30. Adran agored yn dechrau am 5.30. Rhaglenni ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru neu siopau Cymraeg lleol. Dewch i gefnogi! 

Cymdeithas yr Iaith yn Picedu

Hyd at 15 Hydref 2023, 13:00
Mae nifer o bobl yn Aberystwtyth wedi cwyno am y diffyg gwasanaethau Cymraeg yn Swyddfa Post Aberystwyth ac adroddidau am agweddau gwrth-Gymraeg yno.

Loompah Noson

19:00 (£15)
Mae Oktoberfest wedi cyrraedd Caernarfon! Ymunwch â Gŵyl Fwyd Caernarfon ar gyfer gŵyl gwrw Almaenig draddodiadol.

Pedwarawd Pete Stacey

20:00 (£10)
Jazz gwreiddiol o orllewin Cymru Tocynnau £10 / £8 : ar gael o Siop Ffab, Llandysul neu ar y drws

Awr Dawel yr Amgueddfa

Hyd at 15 Hydref 2023, 16:00 (Am Ddim)
Gall mannau cyhoeddus fod yn anorthrech ac yn straen mawr i unigolion ag anghenion ychwanegol ac anableddau, a all yn ei dro achosi gorlwytho synhwyraidd.

CIC Bang

Hyd at 16 Hydref 2023, 21:00
Clwb Ieuenctid Cristnogol i bobl ifanc dros 11 (oed uwchradd) yw CIC Bang.

Dewch i ddysgu Nyddu

Hyd at 17 Hydref 2023, 13:00 (Am ddim)
Galwch heibio a rhowch gynnig ar ddysgu nyddu yn yr Amgueddfa

Gofal ein Gwinllan

Hyd at 18 Hydref 2023, 20:30
Gofal ein Gwinllan seminarau yn trafod cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes, diwylliant Cymru a’r Iaith Gymraeg.

DYFODOL LLAMBED

Hyd at 19 Hydref 2023, 21:00
Dewch i drafodDYFODOL LLAMBED Mae Llambed yn dref unigryw gyda llawer i’w gynnig i ni sy’n byw yma ac hefyd i ymwelwyr.

Gwylnos heddwch

18:30
Gwylnos heddwch: heddwch a chyfiawnder yn y Dwyrain Canol.

Gwyl Lyfrau Aberaeron

Hyd at 22 Hydref 2023, 16:00 (Rhai sesiynau am ddim - eraill yn £5)
Dydd Sadwrn 10.00 Agoriad 10.15 Darlleniad gan Meleri Wyn James 10.45 Poetry Pause – Mari Ellis Dunning 11.00 Sut i Ysgrifennu Trosedd – Alun Davies 11.30 Poetry Pause Karen – …

Mia Lloyd ac Ifan Phillips: yn ysbrydoli

20:00
Mae noson arbennig yn cael ei chynnal yng nghwmni dau berson ifanc ysbrydoledig, sy’n goresgyn heriau ers colli coes.

Taith Gerdded er Budd Lles

Hyd at 20 Hydref 2023, 12:00
Cerddwch tuag at fywyd iachach. Teithiau cerdded byr, cyfeillgar ac am ddim, o fewn cyrraedd i chi, i’ch helpu i fod yn fwy heini.

Ymaelodi â Adran Bentre’ Talgarreg

Hyd at 20 Hydref 2023, 17:45
Tymor newydd Adran Bentre’ Talgarreg bron cychwyn. Croeso i aelodau hen ac newydd.Hoffwch, rhannwch a lledwch y neges. Gweler manylion yn y poster ar ddechrau’r fideo.

Sgwrs Gyda: Lleisiau’r Wal Goch

Hyd at 20 Hydref 2023, 22:30 (£12 | £10 Gostyngiad)
Ymunwch â ni am noson arbennig mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ffarwelio ag arddangosfa Lleisiau’r Wal Goch ac i ddathlu diwylliant unigryw cefnogwyr pêl-droed Cymru.

Dawnsio Dandiya

Hyd at 20 Hydref 2023, 21:30 (£3.50 Oedolion / £2 Plant)
Gŵyl boblogaidd o India yw Dussehra sy’n cael ei dathlu gan Hindŵaid ym mhedwar ban byd. Mae hyn yn dilyn naw diwrnod o ddathlu o’r enw Navratri (naw noson yn Sanskrit).

Cofio Peter Williams ‘yr Esboniwr’

19:15
Cylch Llyfryddol Caerdydd Sgwrs gan Eurig Davies ar y testun ‘Peter Williams yr Esboniwr (1723–96) – arwr cenedlaethol neu heretic ystyfnig?’. Trwy gyfrwng Zoom, nos Wener, 20 Hydref 2023, am 7.15pm.

Byd Dai – sgwrs gan Llinos Dafis

19:30
Noson agoriadol Cymdeithas Lenyddol y Garn – croeso cynnes i bawb

Perimenopause and Beyond: From Navigating to Mastering Midlife

18:30
Yn dwyn y teitl Perimenopause and Beyond: From Navigating to Mastering Midlife, mae’r sesiwn gyda Katharine Gale, sylfaenydd FluxState, yn addo cyflwyniad grymus sy’n helpu i ddeall …

Parti Calan Gaeaf

18:30 (£2.50 am oedolyn £1.50 i blant)
Mae Pwyllgor Pentref Llanybydder yn cynnal ein Parti Calan Gaeaf blynnyddol ar y 27fed o Hydref 2023 am 6.30yh yn Clwb Rygbi Llanybydder.