calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 19 Medi 2024

Gweithdy Animeiddio gyda Winding Snakes + Llyfrgell Genedlaethol

Hyd at 17 Medi 2024, 18:00 (Am ddim)
Dewch i bori Archif Ddarlledu Cymru i weld sut mae hunaniaeth LHDTC+ yn bwysig i ardal Caernarfon a Chymru, a creu animeiddiad gyda’r cwmni animeiddio Winding Snakes

Edward Jones: Bardd y Brenin – Elinor Bennett

13:00 (Am ddim)
Ymunwch ag Elinor Bennett i glywed hanes arbennig Edward Jones, mab ffarm o Wynedd, a esgynnodd i fod yn delynor i’r Brenin George IV.

Diabetes Cymru – Cangen Llanybydder

19:30 (Am ddim)
Cyfarfod Diabetes Mi fyddwn yn cwrdd Nos Fawrth, 17 Medi 2024, am 7.30 y.h. Yn Festri Aberduar pan fydd Gwestai arbennig yn dod atom i siarad. Dewch i ymuno a ni. Te a bisgedi ar ddiwedd y noson.

Stori a Chân

13:30 (Am ddim)
Dewch i gymdeithasu a mwynhau stori a chân gyda ni yn Amgueddfa Wlân Drefach Felindre. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn yr Ystafell Addysg am 1.30yp. Nodwch y dyddiad a dewch i ymuno gyda ni!

Gŵyl Canol Hydref Tsieiniaidd

15:00 (Am ddim)
Bydd Cymdeithas Tseiniaidd yng Nghymru (CTYN) yn cynnal digwyddiad i blant ysgol a’r cyhoedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o amgylch Gŵyl Canol Hydref Tsieineaidd neu Ŵyl y Lleuad.

Gwyl Caseg

17:00–19:00
Ffair Ysgol Abercaseg a Phenybryn Gemau, adloniant, gweithgareddau, bwyd, stondinau, castell neidio, raffl, tombola a mwy. Croeso i bawb o’r gymuned. Dewch yn llu am hwyl a sbri!

A wnaeth Cymro gynllwynio i ladd JFK?

19:00 (£5)
Bydd tymor 2024/25 Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn dechrau nos Iau 19 Medi yn Neuadd Llanystumdwy gyda darlith (yn Saesneg) gan yr Arglwydd Dafydd Wigley am ei gysylltiadau teuluol â’r …

Eisteddfod Corwen ac Edeyrnion 2029??!!

19:00
Beth am fynd amdani a threfnu bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld á’r ardal i ddathlu 240 mlynedd ers i’r Eisteddfod gyntaf cyhoeddus cael ei chynnal yng Ngwesty’r Owain …

Noson Agoriadol

19:00–21:30 (Am ddim)
Dewch draw am noson hamddenol at griw hwyliog! Paned a bwyd bys a bawb am ddim. Os yn dymuno mae posib i chi ymuno gyda cangen y Bala! 

Yfory 20 Medi 2024

Penwythnos Gerdded Llandysul a Phont-Tyweli

Hyd at 22 Medi 2024
RhaglenDydd Gwener, Medi 20ain, 5.45yp1. Taith Gerdded Hanes Lleol. Hawdd.

Bwrw bol ym Maesgeirchen

15:00 (Am ddim)
Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa, a’r mis nesaf bydd Siân Gwenllian AS yn cynnal sesiwn ym Maesgeirchen.

Holi’r Prifardd Carwyn Eckley

19:15
Cylch Llyfryddol Caerdydd Bydd y Prifardd Carwyn Eckley, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2024, yn cael ei holi gan Dr Dylan Foster Evans yn Ystafell 0.31, Adeilad John Percival, Safle Rhodfa …

Olion Rhan I: Arianrhod

19:30 hyd at 21:00, 28 Medi 2024 (£10 - £18)
Sioe theatr fyw sy’n ail-ddychmygu stori Ariarnhod o’r Mabinogi.  Dyma gynhyrchiad theatr bwerus am hedoniaeth, brad, trais anesboniadwy a storm oruwchnaturiol sy’n suddo Caer Arianrhod a’i phobl i …

Clwb Canna’n cyflwyno I Fight Lions + Dagrau Tân

20:00–22:30 (£15)
Mae Clwb Canna yn cyflwyno i chi…I Fight Lions a Dagrau Tân Nos Wener 20 Tachwedd 20248pm-10:30pmDrysau am 7:30pm Clwb LiberalsTregannaCaerdyddCF5 1JD Bydd bar ar y noson Tocynnau’n £15 …

Dydd Sadwrn 21 Medi 2024

Gŵyl Fwyd y Fenni

Hyd at 22 Medi 2024 (£16-£25)
 Gŵyl Fwyd y Fenni yw un o’r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr bwyd y DU. Mae arddangoswyr o Gymru a thu hwnt.

Taith gerdded Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Cilgwyn

10:00
Mae taith gerdded nesa Yr Orsaf ar ddydd Sadwrn, Medi 21. Dewch am dro efo ni drwy Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Cilgwyn a gweld golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Nantlle!

Bore Coffi Macmillan

10:00
Bore Coffi Macmillan 10 tan 12. Cyfle am baned a chlonc. Dewch yn llu. 

Marchnad Lleu

10:00
Marchnad leol i dyfwyr a chynhyrchwyr adral Dyffryn Nantlle. Caffi yn gwerthu bwyd rhâd a maethlon. Bydd Sesiwn Dawnsio Llinell am 10:00 ac am 12:00.

Gweithdy Celf a Cerdd gyda Elin Alaw

11:00–13:00 (Am Ddim)
Mae iechyd a diwylliant wrth galon gwaith Elin Alaw. Yn y gweithdy yma, bydd Elin yn ein tywys i ddewis lliwiau a geiriau sy’n gweddu i’w gilydd i’r dim.

Te Mefus gyda Band Biwmaris

14:00 (£5 i oedolion a £2.50 i blant)
Digwyddiad codi arian at Eisteddfod yr Urdd ym Môn 2026  Tocyn yn cynnwys diod oer/poeth, cacen a mefus. Adloniant gan Fand Biwmaris a phlant Ysgol Llangoed.

Gweithdy Celf a Cerdd gyda Elin Alaw

14:00–16:00 (Am Ddim)
Mae iechyd a diwylliant wrth galon gwaith Elin Alaw. Yn y gweithdy yma, bydd Elin yn ein tywys i ddewis lliwiau a geiriau sy’n gweddu i’w gilydd i’r dim.

Taith Cof Llanberis

14:30
Ymunwch ni am daith hamddenol o oddeutu 1 milltir ar hyd Lon Las Peris i godi arian at Gymdeithas Alzheimer’s Bydd y taith yn dechra am 14.30 yng nghwmni Wynne Elvis ac yn hytgych i bawb Dolen …

Ynys

19:00 (£8)
Menter Iaith Abertawe yn cyflwyno Ynys + Mojo JNR. Elysium Gallery & Bar, Abertawe, SA1 1PE Drysau: 7pmTocynnau: £8

Y Llyn

19:30 (£12 | £10 | £8)
Cariad, colled, hud a lledrith yn nhirwedd Cymru Fersiwn newydd o hen glasur Perfformiad chwedl, cerddoriaeth a dawns yw Y Llyn wedi’i hysbrydoli gan chwedl Llyn y Fan Fach ac wedi’i hadrodd wrth …

Sŵn Swtan

19:30 (£10)
Ymunwch â chriw Swtan, Y Cefn Glas All Stars a’r Moniars i ddathlu diwedd tymor yr haf yng Nghilmaenan, Llanfaethlu!

Dydd Sul 22 Medi 2024

IRONMAN – Dinbych-y-pysgod

🏅 Mae’n bron yn amser am Ironman Cymru 2024! 🏊‍♂🚴‍♀🏃‍♂ Ymunwch â ni yn Ninbych-y-pysgod ar y 22/9/24 am un o’r digwyddiadau mwyaf heriol ac ysbrydoledig yn y calendr chwaraeon!

Merched Y Bala V Abergele

14:30
Cofiwch am y gêm gyffrous yma brynhawn ddydd Sul

Awr Dawel yr Amgueddfa

15:00–16:00 (Am ddim)
Gall mannau cyhoeddus fod yn anorthrech ac yn straen mawr i unigolion ag anghenion ychwanegol ac anableddau, a all yn ei dro achosi gorlwytho synhwyraidd.

Swper GRAFT – Cyhydnos yr Hydref

18:30–21:30 (£22.50 yp)
Ymunwch â ni yng ngardd GRAFT ar 22 Medi ar gyfer swper tymhorol, wedi’i goginio yn y ffwrn goed, gan defnyddio cynnyrch a dyfir yn yr ardd.  Peidiwch â cholli’r noson arbennig yma o …

Cymanfa Ganu

19:00 (Casgliad tuag at Tir Dewi)
Dewch i ddathlu pen-blwydd Cor Cwmann yn 60 oed! Arweinydd – Delyth Hopkins-Evans Organydd – Meirion Wynn Jones Llywydd – Yr Hybarch Eileen Davies Casgliad tuag at Tir Dewi

Dydd Llun 23 Medi 2024

Cyfarfod Blynyddol CFFI Meirionnydd

19:30
Cynhelir cyfarfod blynyddol Sir Feirionnydd yn Neuadd Brithdir pryd bydd cyfle i gynrychiolydd o bob clwb rhoi trosolwg o ddigwyddiadau’r clwb yn ystod y flwyddyn ynghyd ag ethol swyddogion am …

Dydd Mawrth 24 Medi 2024

Bore coffi Macmillan

10:00–12:00 (Am ddim)
Bydd bore coffi Macmillan yn cael ei gynnal yn Canolfan Bro Tegid fore dydd Mawrth nesaf er mwyn casglu arian i’r elusen Macmillan.  Croeso i bawb

Rhodri Jones : Bardd hefo Camera (Darlith Cyhoeddus)

14:00–15:30 (Am Ddim)
Ymunwch a ni yn Storiel , Amgueddfa Gwynedd am sgwrs anffurfiol gyda’r ffotograffydd dogfennol, Rhodri Jones.

“Dy Werth” Sgwrs a Gweithdy efo Rebecca F Hardy

18:30–20:30 (Am ddim)
Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda’r artist lleol Rebecca F Hardy – bydd yn siarad am ei phrofiadau o ddefnyddio’r Gofod Gwneud a sut mae wedi dylanwadu ar ei gwaith a’i chynllun cynnyrch.

Dydd Mercher 25 Medi 2024

Dysgu mwy mewn Clwb Rygbi

(Am ddim)
Cyfres o sesiynau mewn cydweithrediad â Undeb Rygbi Cymru.

Gweithdy Gwnïo

14:00–16:00 (Am ddim)
Gweithdy Gwnïo – Dewch i ddysgu sgiliau gwnïo wrth ail-bwrpasu deunyddiau i greu eitemau newydd e.e scrunchies, bandiau gwallt, bagiau, pyrsiau ac ati.

Dydd Iau 26 Medi 2024

Gweithdai ‘Mincemeat’

13:00 (£2 yr un)
2 gyfle i wneud ‘mincemeat’ a cael phaned a sgwrs tra’n paratoi at y Nadolig.

Dydd Gwener 27 Medi 2024

Gŵyl Elvis Porthcawl

Hyd at 29 Medi 2024 (£15-£25)
🎸 Ydych chi’n barod ar gyfer Gŵyl Elvis Porthcawl 2024? 🎤 Mae’r ŵyl i gefnogwyr Elvis yn dychwelyd i Borthcawl rhwng 27ain a’r 29ain o Fedi!

Bore Coffi Macmillan

10:00–13:00
Bore coffi yn Eglwys Sant Pedr Llanybydder ar fore Dydd Gwener, Medi 27ain 10yb – 1yp Holl elw yn mynd at Fore Coffi MACMILLAN.

Bore Coffi Macmillan

11:00
Dewch draw i Theatr Felinfach ar y 27ain o Fedi am glonc dros goffi a chacen wrth i ni godi arian tuag at Gymorth Canser Macmillan!Croeso mawr i chi gyfrannu cacen neu wobr raffl …

Darlith Waldo 2024

16:00–18:00
Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo Williams a drefnir ar y cyd ag Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Aberystwyth. Bardd y Lleiafrif Aneirif Darlithydd: Menna Elfyn

Cyngerdd yr Hydref

18:30 (£5 i oedolion, £3 i blant ysgol uwchradd)
Côr Dyffryn Arth Mali Gerallt (Ffliwt) Lleisiau Llanon Ysgol Gynradd Llannon Neuadd Bentref Llan-non, Stryd y Neuadd, Llan-non, Ceredigion

KATE

19:00 (£8)
Cynhyrchiad Mewn Cymeriad. Portread cofiadwy Sera Cracroft o fywyd Kate Roberts.

“Kate”

19:00 (£8)
Portread Sera Cracroft – Theatr “Mewn Cymeriad” o fywyd a gwaith Kate Roberts. Awr o brofi’r Gymru wledig uniaith Gymraeg

Gig: Dafydd Iwan a Lucie Chivers

19:30
Cyfle i wahodd Dafydd Iwan yn ôl i’r Clwb. Cyfle hefyd i glywed set gan Lucie Chivers. Bydd y tocynnau’n siwr o werthu’n gyflym.