calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 19 Hydref 2024

BABI ACTIF – GYMNASTEG

14:00 (£3.00)
Dewch i Ganolfan Hamdden Plas Silyn i gefnogi sesiynau gymnasteg i’r un fach. Mae sesiynau hwyliog ar gael i blant oed cropian hyd at 3 oed.

MYW Talgarreg

19:30
Sgwrs a nwyddau Oxfam gyda MYW Talgarreg. Dewch i gefnogi’r mudiad pwysig yma. Croeso cynnes i bawb.

Malu Awyr – Bae Colwyn

19:00
(nos Iau cyntaf pob mis yn Oriel Ink, Bae Colwyn) Cyfle i siaradwyr Cymraeg o bob lefel ddo ynghyd i sgwrsio dros beint, panad neu goctêl.

Bore coffi a chacen Ysgol Gynradd Felinfach

09:30
Dewch i ymuno a ni am goffi a chacen yn Ysgol Gynradd Felinfach. Mae’n  dechrau am 9:30yb hyd at 11:00yb. Bydd yr elw yn cael ei rannu rhwng MacMillan a Wear it Pink.  Dewch yn llu!

Mannau Croeso Cynnes

Hyd at 4 Hydref 2024, 16:00
Galwch heibio i Festri Bronant prynhawn Gwener nesa (4 Hydref) i roi’r byd yn ei le!

Cwis Ysgol Hwyl – Cofio Ciliau Parc 💙

18:30 (Oedolion £4 / Plant £1)
Gwell ichi ddechrau gloywi eich gwybodaeth am Giliau Aeron a’r Ysgol! Rydym yn trefnu Cwis Ysgol HWYL a DŴL fel ein digwyddiad cyntaf i ddathlu Ysgol Ciliau Parc!

Dathliad 10 Ysgol Rhos Helyg

19:00
Dathliad 10 Ysgol Rhos Helyg Tafarn y Bont, Bronant, gyda Newshan

Tregaroc Bach @ YHR

19:00
Nos wener 4ydd Hydref am 7yh bydd penllanw i ddathliadau TregaRoc yn dathlu’r 10 gyda gig i bawb yn Neuadd yr Ysgol.

Noson yng nghwmni Jo Heyde

Hyd at 4 Hydref 2024, 21:30 (Am ddim i aelodau (aelodaeth £10), neu £5)
Noson yng nghwmni Jo HeydeNos Wener 4ydd Hydref am 7.30pmCymdeithas Ceredigion, Caffi Emlyn, Tanygroes, Ceredigion SA43 2JEDaw Jo Heyde i gyflwyno ei phamffled cyntaf o gerddi dan yr enw Cân y …

Taith Cof Llanberis – Yr Wyddfa

07:30
Ymunwch ni fyny copa’r Wyddfa i godi arian at Gymdeithas Alzheimer’s Bydd y taith yn dechra am 07.30 o maes parcio Gwesty’r Royal Fictoria yng nghwmni criw MonFM ac yn dilyn Llwybr …

Sesiwn ‘galw draw’ prosiect Creu Cof (Llandudno)

Hyd at 5 Hydref 2024, 15:00
Creu Cof: Llandudno yn ystod ar Ail Rhyfel Byd / Memories of Llandudno during WW2 Pnawn ‘galw heibio’ prosiect Creu Cof Ystafell gyfarfod Llyfrgell Llandudno (llawr gwaelod) Dydd Sadwrn yma 5ed …

Cenedl Cydweithio gyda Mr Kobo – Gweithdy Celf am Ddim Mewn 2 Ran

Hyd at 12 Hydref 2024, 16:00 (Am ddim)
Cenedl Cydweithio gyda Mr Kobo – Gweithdy Celf am Ddim Mewn 2 Ran Bydd y gweithdy 2 ran rhad ac am ddim hwn gyda’r artist lleol Mr Kobo yn cynnwys ystod o wahanol ymarferion creadigol gan …

Sgwrs Bür Aeth #4 Atgofion Cerddorol Arfon Wyn

Hyd at 5 Hydref 2024, 16:00 (Am Ddim)
Bydd Storiel yn ail gychwyn sgyrsiau gan arloeswyr yn sin cerddoriaeth Cymru yn mis Medi.

Gwreiddiau Mabon Roots

Hyd at 5 Hydref 2024, 23:00 (£5)
Dewch i ddathlu Mabon efo ni yn y mynyddoedd. “Mabon / Cyhydnos yr Hydref: gŵyl paganaidd sy’n dathlu diwedd yr haf a dechrau’r hydref, amser o gynhaeaf a gwledda gyda’ch …

Dathlu Ysgol Dihewyd

17:30 (Disgyblion cynradd am ddim ac oedolion yn £5)
Mae Ysgol Gynradd Dihewyd yn cynnal digwyddiad er mwyn dathlu ei bodolaeth cyn iddi gau’r drysau am y tro olaf adeg y Nadolig.

PARTI FFARWEL ELLIW

18:00 (Am ddim)
Parti agored i ddiolch i Elliw Dafydd, Swyddog Datblygu cynta’r ysgol, am ei gwaith dros y flwyddyn fisi a aeth heibio a dymuno’n dda iddi yn ei gwaith newydd yn Swyddog Datblygu’r …

Tecwyn Ifan 

19:00 (£8 oedolyn £4 plant)
Rydym yn gyffrous iawn i groesawu Tecwyn Ifan i Neuadd yr Hafod Gorsgoch. Mae’n argoeli i fod yn noson wych. I brynu tocyn cysylltwch a Margaret Wilson – 07854 417 267. 

Ynys + Sybs

19:00 (£5-10)
Gigs Cantre’r Gwaelod yn cyflwynoYnysSybs Y Cŵps AberystwythDrysau: 7pmTocynnau: £5-10

Cyngerdd Côr y Penrhyn

19:30 (£10)
Cyngerdd Côr y Penrhyn yng nghwmni Ensemble Pres Ysgol Syr Hugh Owen, Alwen Derbyshire, a Jonathan Davies. Bydd drysau’n agor am 6:30 a’r noson yn dechrau am 7:30 Bydd bar ar y noson.

Gig: Gai Toms + Dafydd Owain

20:30 (£5)
Gig acwstic o’r safon uchaf a gig Cymraeg neilltuol cyntaf Llandudno ers oes pys!

Diolchgarwch: Mawl & Chawl

11:00
Dathliad o Ddiolchgarwch…canu, stori, rhoi diolch…rhannu bwrdd gyda’n gilydd wedyn – Cawl & Crymbl Cystadleuaeth Cacen Afal! Croeso cynnes i bawb

Lleuwen – Tafod Arian

17:00
Nos Sul, 6 Hydref Noddfa, Llanbedr Pont Steffan Lleuwen Steffan EMYNAU COLL Y WERIN Does dim tocynnau Casgliad ar gartref Glyn Nest Dewch yn llu mewn da o bryd

Caffi Colled

13:00
Mae’r Caffi Colled (grwp galar) yn cwrdd dwywaith a mis: Llun 1af  a 3ydd bob mis, 1-3pm. Ar y Llun 1af, rydym yn cwrdd am banad, sgwrs a chwmni ein gilydd.

Dysgu Nyddu

Hyd at 8 Hydref 2024, 12:30 (Am Ddim)
Dathlwch Mis Gwlân Cenedlaethol! Rhowch gynnig ar ddysgu nyddu yn yr Amgueddfa!  Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd y cwrs hwn yn ddwyieithog.

Hapus i Siarad – Hybu’r Gymraeg ar y stryd Fawr

Hyd at 8 Hydref 2024, 19:30 (Am ddim)
Gall ychydig ddefnydd o’r Gymraeg gael effaith mawr ar eich busnes!

Gwyneth Lewis ac Angharad Price

Hyd at 8 Hydref 2024, 20:00 (Am ddim)
Noson i ddathlu cyhoeddi Nightshade Mother, A Disentangling, cyfrol diweddaraf Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis.

Torri Tir -Grŵp theatr newydd i oedolion ardal Aberystwyth

Hyd at 9 Hydref 2024, 21:00 (10 sesiwn cyntaf am ddim)
Cysylltwch â gruff@aradgoch.org os oes diddordeb ganddoch mewn dod i’s sesiwn blasu ar 09.10.24 Mae’r 10 sesiwn cyntaf am ddim, diolch i Bwrlwm Arfor

Cwis a Chân – Abergele

19:30 (£1)
Noson cwis a chân (gyda Lauren Frost yn cwisfeistro ac Osh Gierke yn canu ambell gân) Tafarn y Bull, Abergele Nos Fercher 9 Hydref 7.30 £1 y pen

Sgyrsiau Hanes Chwareuon Gwynedd Dr Meilyr Emrys #1 Cymdeithas Bel-Droed’Genedlaethol’ 1879-86

Hyd at 10 Hydref 2024, 16:00 (Am Ddim)
Gwta dair blynedd wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gael ei sefydlu yn Wrecsam, penderfynodd Bangor – a nifer o glybiau eraill – adael y corff llywodraethol eginol a mynd ati i ffurfio eu cymdeithas …

Showstopper! The Improvised Musical

19:30 (£20 - £24)
Comedi gerddorol fyrfyfyr ar ei gorau – yn syth o’r West End ac yn awr yn mynd i Pontio! Gyda phedair blynedd ar ddeg fel ffenomen y mae’n rhaid ei gweld yng ngŵyl Fringe Caeredin, …

Y Grefft o Rwydweithio

09:30
Ymunwch â ni am ddigwyddiad arbennig yn Ganolfan Tabor.

Dydd Sul 3 Tachwedd 2024