calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 16 Hydref 2024

Arddangosfa Mynachlog Fawr Yn Agor

Hyd at 22 Tachwedd 2024, 15:00 (Am ddim)
Yma yn Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, rydym yn paratoi ac yn gyffrous i groesawu ein hymwelwyr cyntaf yn 2024 i Arddangosfa Mynachlog Fawr.

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024

Gorwelion/Frontiers

19:30 (£8 - £16)
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno: Gorwelion/Frontiers Dewch i ddianc i fyd yn llawn cyffro trwy wylio dwy ddawns gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – profiad dawns cadarnhaol a …

Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024

Llygod Bach yr Amgueddfa – Tan Gwyllt

10:15–12:15 (Am ddim)
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein grwp misol i blant o dan 5 oed.

Tu ôl i’r Llenni: Bywyd môr Cymru a thu hwnt

11:00–11:45 (£8)
Cyfle i weld rhai o gasgliadau Amgueddfa Cymru o anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol megis mwydod môr, cregyn, crancod a chimychiaid, a dysgu am yr ymchwil sy’n cael ei wneud y tu ôl i’r …

Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00 hyd at 12:00, 24 Rhagfyr 2024 (AM DDIM)
Ymunwch â ni ar noson 08/11/24 am 18:00yh i agoriad Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn.Eleni mae’r Ffair Grefftau yn fwy cyffrous nac erioed gyda dros 40 o grefftwyr o bob cwr o Gymru’n arddangos a …

Sesiwn gyda Cleif Harpwood a Geraint Cynan

19:00 (£8 (Plant £4))
Noson o Ganeuon, atgofion a Chlasuron Edrward H Dafis gyda Cleif Harpwood a Geraint Cynan. Tocynnau £8 / £4 Plant oed cynradd gan meinir@cadyn.com 01559-384378

Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024

Ffair Aeaf Môn

Hyd at 10 Tachwedd 2024
Mae Ffair Aeaf Môn yn ei hôl eto eleni. Cyfle i fwynhau cystadlu ar draws yr adrannau a gwneud ychysig o siopa Nadolig. Mwy o fanylion i ddilyn.

SIOE AEAF MÔN 2024

09:00 hyd at 17:00, 10 Tachwedd 2024 (Tâl Mynediad - £5 / Plant dan 16 yn mynd i fewn am ddim / Aelodau CFfI 16 a throsodd £2 efo cerdyn aelodaeth)
Mae Sioe Aeaf Môn yn ôl, yn cynnig cyfle gwych i gefnogi ffermwyr, cynhyrchwyr, a chrefftwyr lleol wrth fwynhau amrywiaeth o weithgareddau ac arddangosfeydd.

Sgwrs am yr emynydd Nantlais

10:30 (Am ddim)
Bore Siarad Cymraeg (lefel ganolradd ac uwch) Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar Rhian Williams yn trafod yr emynydd W. Nantlais Williams, yn Hyb Rhiwbina, Caerdydd, CF14 6EH, am 10.30am.

A(AGOR)R inois ar agor sesiwn 5

12:00–15:00
Y pumed mewn cyfres o 6 stiwdio agored misol i bobl ifanc ac artistiad lleol fydd yn cael ei gynal gan Hedydd Ioan (SKYLRK) Cyfle i ddysgu, rhannu a chreu diwylliant y dyfodol .

Seckou Keita – Homeland Band

19:30 (£20)
Mae Seckou Keita yn chwaraewr penigamp ac enwog offeryn llinynnol y Kora ac mae’n uchel ei barch ymhlith cerddorion traddodiadol Affricanaidd.

Noson Gomedi a Chân

19:30 (£10)
Noson Gomedi a Chân efo Geth Robyns a’r Brodyr Magee.  Elw at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Gig: Morgan Elwy a’r band + Piod – Llandudno

20:30 (£5)
Yr ail gig o safon gan Griw Creu – bach o bach o reggae Cymraeg ac ‘alt-folk’ y tro hwn!

Dydd Llun 11 Tachwedd 2024

Gweithdy Torrwr Laser

18:30 (Am ddim)
Dysgwch Ddefnyddio’r Torrwr Laser Gweithdy am ddim!

Dydd Iau 14 Tachwedd 2024

Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-Groes 2024 – John Dilwyn Williams

19:30
Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-Groes 2024 Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy Cynllun Sychu Dyffryn Nantlle 1893 – John Dilwyn Williams – Capel Y Groes, Pen-y-Groes Nos Iau, 14eg …

Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024

Lif(T) yn cyflwyno: Semay Wu + Frise Lumiere

19:00–22:00 (£12.50)
Mae Llif(T) yn cyflwyno sesiwn gerddoriaeth arbrofol gyda’r perfformwyr, Semay Wu (sielydd ac artist electronig) a Frise Lumiere (basydd, archwiliadau mewn bas parod).

Atgof: Cerddi’r Goron 2024

19:15
Cylch Llyfryddol Caerdydd ‘Atgof: Cerddi’r Goron 2024’ – cyflwyniad gan y Prifardd Gwynfor Dafydd. Trwy gyfrwng Zoom am 7.15pm. Croeso cynnes i bawb.

Clwb Canna yn cyflwyno Huw Chiswell + Melda Lois

20:00 (£15)
Mae Clwb Canna yn cyflwyno i chi…Huw Chiswell + Melda Lois Nos Wener 15 Tachwedd 20248pm-10:30pmDrysau am 7:30pm Clwb LiberalsTregannaCaerdyddCF5 1JD Bydd bar ar y noson Tocynnau’n £15 o …

Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024

Marchnad Nadolig

Hyd at 17 Tachwedd 2024 (Am ddim)
Ymunwch â Chanolfan Mileniwm Cymru ar yr ymgyrch i gefnogi busnesau bach ac annibynnol y Nadolig yma, wrth i ni groesawu marchnadoedd Nadolig am y tro cyntaf yn ardal y Glanfa.

Darganfod Derwyddiaeth Cyfoes – Darlith gan Kristoffer Hughes

13:00–15:30 (Am Ddim)
Taith a sgwrs i ddarganfod natur ac ysbryd Derwyddiaeth a sut mae Cymru wedi ysbrydoli a gwybodi ymarferiadau Paganaidd cyfoes Gorllewinol. 

Cowbois Rhos Botwnnog + BBC NOW

20:00 (£15)
Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu pumed albwm Mynd A’r Tŷ Am Dro a thaith tu hwnt o boblogaidd yn y gwanwyn, bydd cerddoriaeth brydferth a hudolus Cowbois Rhos Botwnnog yn cael ei berfformio mewn …

Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024

Tu ôl i’r Llenni: Offer carreg cynhanesyddol o Ogofau Cymru

11:00–11:45 (£8)
Cyfle i weld offer carreg cynhanesyddol o gasgliad Amgueddfa Cymru, a dysgu am waith cloddio hanesyddol yn ogofau Cymru.  Bydd yr ymweliad hwn yn mynd â chi i’r ystafell astudio arteffactau …

Dydd Iau 21 Tachwedd 2024

Stori a Chân

13:30 (Am ddim)
Dewch i gymdeithasu a mwynhau stori a chân gyda ni yn Amgueddfa Wlân Drefach Felindre. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn yr Ystafell Addysg am 1.30yp. Nodwch y dyddiad a dewch i ymuno gyda ni!

Nightshade Mother: In Conversation with Gwyneth Lewis

17:00 (Am ddim)
Ymunwch â Gwyneth Lewis, un o feirdd mwyaf adnabyddus y Deyrnas Unedig, yn y digwyddiad arbennig hwn yn dilyn cyhoeddi ei hunangofiant Nightshade Mother.

Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno… Arfon Haines Davies, Caryl Parry Jones + Eden

19:30–22:00 (£15 / £12)
Noson o ddathlu oes aur adloniant HTV Cymru Wales a ITV Cymru Wales gyda dau o’u hwynebau mwyaf cyfarwydd; Arfon Haines Davies a Caryl Parry Jones.

Dydd Gwener 22 Tachwedd 2024

Cofio Ciliau Parc – Cyngerdd a Noson Ffilm 🎬🍿

Cofio Ciliau Parc –  Cyngerdd a Noson Ffilm 🎬🍿 Ydych chi’n cofio bod yn rhan o berfformiadau’r ysgol?

Culhwch ac Olwen (Cwmni Mega)

(£8)
Cwmni Mega yn cyflwyno Culhwch ac Olwen Mae Culhwch yn caru Olwen er nad ydi o wedi ei gweld hi erioed.

Cwis

19:30
Cwis i godi arian at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 – ardal Mechell.