Galwch draw i’r caffi i fwynhau hwyl yr ŵyl ac addurno eich Bisged Nadolig eich hun! Mae’n cynnwys tair bisged a diod poeth i blant. Dewisiadau fegan a di-glwten ar gael.
Gweithio gyda Clai Gwyllt Arweinir gan artist Erin Lloyd – Arbrofwch gyda deunyddiau naturiol o’n hamgylchoedd lleol. Mae Siarad i Greu, Creu i Siarad yn brosiect creadigol cymunedol.
Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o’r Brif Adeilad.
Hyd at 1 Rhagfyr 2024, 13:00 (£15 i aelodau Cymdeithas Eryri / £25 os nad yn aelod.)
Ymunwch â’r Gymdeithas Eryri am fore Nadoligaidd wrth i chi ddysgu sut i greu torch naturiol i’ch cartref y Nadolig hwn a gwella eich medrau adnabod planhigion! Ychydig o leoedd ar gael.
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa? Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.
Dewch i ddathlu’r Nadolig yng nghwmni Cantorion Ger y Lli, Band Pres Llaneurgain – Pencampwyr Adran 1 Prydain Fawr, Côr Meibion Aberystwyth, Côr Ysgol Gynradd Llanilar a’r …
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda Chantorion Ger y Lli a: Band Pres Llaneurgain – Pencampwyr Adran 1 Prydain Fawr Côr Meibion Aberystwyth Côr Ysgol Gynradd Llanilar Heledd Davies – …
Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy o hwyl yr ŵyl wrth i Gantorion Ger y Lli gyflwyno’u cyngerdd – Nadolig Cantorion Ger y Lli, yn Eglwys Llanbadarn Fawr ar Rhagfyr y 1af am 6.30.
Dewch i greu torch Nadolig allan PomPoms. Mae’r gweithdy rhad ac am ddim hwn yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 10 oed a throsodd. Archebu yn hanfodol.
Ymunwch â ni ar nos Lun 2il o Ragfyr am 6yh yn Galeri, Caernarfon, am weithdy unigryw gyda Gwilym Dwyfor – cyn-olygydd Y Selar – lle byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu adolygiadau cerddoriaeth o …
Nos Lun, 2 Rhagfyr 2024, am 7.00 o’r gloch, cynhelir Plygain traddodiadol yng Nghapel y Coleg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn yn Yr Hedyn Mwstard.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Nos Fercher 4 Rhagfyr 2024 Ymunwch â ni i fwynhau naws yr Ŵyl!Bydd cyfle i siopa am nwyddau chwaethus yn ein ffair grefftau ac yn siop y Llyfrgell a mwynhau lluniaeth …
Gweithdy Sylwebu Pêl Droed gyda Mei Emrys o Sgorio!05/12/24 – 16:00-18:00 – M-SParc – Y Bala Dewch i ddysgu sut i sylwebu ar gem bêl droed drwy gyfrwng y Gymraeg, ’dan arweiniad …
Cyd-gynhyrchiad gaeafol newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. gan Casi Wyn Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi.
Lansiad cyfrol newydd o farddoniaeth gan Christine James Bydd yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood, yn holi’r cyn-Archdderwydd Christine James am ei chyfrol newydd o farddoniaeth, rhwng …
Diwrnod Agored – Cofio Ysgol Ciliau Parc Dewch i grwydro o amgylch yr ysgol am dy tro olaf i rannu straeron ac edrych ar hen ffotograffau a lluniau. 💙Arddangosfa ffotograffau a ffilmiau …
Ymunwch â Chanolfan Mileniwm Cymru ar yr ymgyrch i gefnogi busnesau bach ac annibynnol y Nadolig yma, wrth i ni groesawu marchnadoedd Nadolig am y tro cyntaf yn ardal y Glanfa.
Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o’r Brif Adeilad.
Ymunwch â Siân Corn! Dyma gyfle arbennig i blant brofi ysbryd y Nadolig drwy greadigrwydd. Sesiwn arbennig stori a symud, ble mae’r Seren? Mwynhewch crefftau Nadoligaidd hefyd!
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa? Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.
Ymunwch â ni i ddathlu Saturnalia, gŵyl Rufeinig y gaeaf. Dewch i gyfrafod llengfilwr, dysgu sut fyddai’r Rhufeiniaid yn dathlu, a mynd i hwyl yr ŵyl. Rhowch gynnig ar wneud …
Edrych ymlaen at tymor y Nadolig gyda Ffair ’Dolig Eglwys Glanogwen Stondinau Gweithgareddau & chrefftau plant- gan gynnwys creu Angel Anferth atr gyfer yr Wyl Angylion!
Dewch i ddarganfod trysorfa o swynion, defodau, ac ymarferion hudolus i ddefnyddio o ddydd i ddydd. Wedi ei hysbrydoli gan hanes hudoliaeth werinol Cymru, ond wedi cael ei sefydlu yn y byd modern.
14:00 (Am ddim ond bydd raffl a lluniaeth ar werth)
P’nawn Nadoligaidd o garolau ac eitemau gan unigolion, gyda raffl, gemau a lluniaeth yn neuadd Eglwys Llansadwrn. Pŵy a ŵyr…efallai bydd y dyn mewn coch ei hun yn dod i ddweud helo!
Mae Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen yn siomedig iawn i rannu ein bod, oherwydd y gwyntoedd cryfion a’r glaw a ragwelir, wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo Ffair Nadolig Llandysul a drefnwyd …
Dysgwch sut i greu torch Nadolig o ddefnyddiau tymhorol i fynd gartref gyda chi. Cyfle i ddysgu sgiliau newydd, defnyddio eich Cymraeg a mwynhau gwin poeth a mins pei gyda ffrindiau.
7 + 9-14/12/2024 Mae cymdogaethau Dyffryn Aeron yn wynebu heriau fel bob ardal arall – ond mae presenoldeb tywyll Mr Ŵr a’i gynorthwywyr yn creu helynt bob blwyddyn wrth iddynt drio rhoi plet yng …
Canllaw Oedran: Addas i bawb Trefn Amseri: 135 munud gyda toriad 20 munud Sgwrs cyn y sioe am 6.30pm yn y Neuadd Fawr, i gyflwyno plant yn y gynulleidfa i’r offerynnau.
Oedfa Nadolig Deulol yng nghapel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, CF14 1DD, ddydd Sul, 8 Rhagfyr 2024, am 10.00am. Fe’i trefnir gan Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd.
Bydd Siôn Corn yn ymweld â Sain Ffagan unwaith eto eleni, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â’n digwyddiad arbennig mewn groto hudolus mewn ardal breifat o’r Brif Adeilad.
Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa? Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd.
Amrywiaeth o stondinau. Mynediad am ddim ond cyfle i brynu raffl gyda gwobrau a roddwyd gan y stondinwyr. Bydd cawl, cacs, te a choffi ar werth. Bydd plant yr Ysgol Sul yn dechrau’r digwyddiad.
Ambell i Garol ac Ambell i Gân yng nghwmni Côr CardiGân ac Aelodau CFfI Pontsian Arweinydd – Siw Jones, Felinfach Organydd – Martin Griffiths, Llandysul
Cyngerdd Nadolig Eglwys Sant Iago, Cwmann. Gyda Bois y Gilfach a Trystan Bryn Dydd Sul Rhagfyr 8fed am 6.00yh. Tocynnau – £10 Elw tuag at Arch Noa – Elusen Ysbyty Plant.
Dewch i greu cymeriad Nadolig trwy ffeltio nodwydd. Mae’r gweithdy rhad ac am ddim hwn yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant 10 oed a throsodd. Archebu yn hanfodol.
Cynhelir cyfarfod nesaf Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen ar nos Lun, Rhagfyr 9fed, am 7 o’r gloch wyneb-yn-wyneb yn Festri Capel Jerusalem a thrwy gyfrwng Zoom.
7 + 9-14/12/2024 Mae cymdogaethau Dyffryn Aeron yn wynebu heriau fel bob ardal arall – ond mae presenoldeb tywyll Mr Ŵr a’i gynorthwywyr yn creu helynt bob blwyddyn wrth iddynt drio rhoi plet yng …
Bydd BBC Radio Cymru yn recordio cyfres newydd o’r Talwrn a hynny o Festri Capel Disgwylfa. Mae’r mynediad am ddim ond cynhelir raffl er budd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.