calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 16 Ionawr 2025

Encil Lles Undydd Llety Arall

Hyd at 13 Ionawr 2024, 16:30 (£48)
Ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig arbennig? Pa ffordd well o ddechrau 2024 na thrwy encil undydd i ganolbwyntio ar hunan-les?

Trafod cerdd gan Gwenallt

10:30
BORE SIARAD CYMRAEG (lefel ganolradd ac uwch).

Hen Galan yn y Vale

19:30
Dewch i ddathlu’r Hen Galan gyda’r Fari Lwyd yn y Vale! Defod sy’n gysylltiedig â’r Flwyddyn Newydd yw’r Fari Lwyd.

Awr Dawel yn yr Amgueddfa

Hyd at 14 Ionawr 2024, 16:00 (Am ddim)
Gall mannau cyhoeddus fod yn anorthrech ac yn straen mawr i unigolion ag anghenion ychwanegol ac anableddau, a all yn ei dro achosi gorlwytho synhwyraidd.

Stori a Chân gyda Cymraeg i Blant

13:30 (Am ddim)
Dewch draw am sesiwn stori a chân llawn hwyl, gyda Cymraeg i Blant, yn ystafell addysg Amgueddfa Wlân Cymru

Ymweliad â’r Ganolfan Arloesi

18:00
Croeso cynnes i bawb – enwau i ymholiadau@capelygarn.org. Trefnir gan Gymdeithas Lenyddol y Garn

Merched Peryglus

Hyd at 18 Ionawr 2024, 21:00 (Am ddim)
Gwenan Creunant yn holi Jane Aaron, Tasmin Davies, Sian Howys a Bethan Ruth. Digwyddiad Cymdeithas yr Iaith yn gysylltiedig gyda llyfr “Merched Peryglus” a gyhoeddwyd gan Gwasg Honno.

AGM Menter Tafarn y Vale

19:30
Croeso i aelodau’r fenter a’r cyhoedd.

Noson Bingo Ysgol Rhos Helyg

19:00 (Am ddim)
Dewch i gefnogi ein noson Bingo ar 19/01/24 i godi arian i brynu Ipads i’r plant neu gliciwch ar y linc isod i gyfrannu at yr achos; Come and support our Bingo night on 19/01/24 to raise money …

Sgwrs am enwau lleoedd

19:15
Cylch Llyfryddol Caerdydd Darlith i gofio’r Athro Gwynedd O. Pierce gan Dr Dylan Foster Evans ar y testun ‘Caerdydd, y wasg a diogelu enwau lleoedd Cymru’.

Hi Hi Hi

20:00
Ar ôl dwy noson lwyddiannus iawn, mae ‘Hi Hi Hi’ yn mynd ar daith! Dewch i fwynhau noson anffurfiol, llawn chwerthin yng nghwmni Sara, Tess ac Elliw.

Clwb Canna yn cyflwyno Bwncath + Dadleoli + Taran

Hyd at 19 Ionawr 2024, 23:00 (£15)
Mae Clwb Canna yn cyflwyno i chi… BwncathDadleoliTaran Nos Wener 19 Ionawr 20248pm-11pmDrysau am 7:30pm Ysgol Gyfun Gymraeg GlantafBridge RoadYstum TafCaerdyddCF14 2JL Bydd bar ar y noson

Gofal ein Gwinllan

Hyd at 20 Ionawr 2024, 12:00 (Am ddim)
Cyfres o seminarau ar-lein yn trafod cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i lenyddiaeth a hanes Cymru a’r Iaith Gymraeg.  Dyddiad:  Dydd Sadwrn 20 Ionawr Amser: 10.00 – 11.30 am (paned a chlonc i …

Ar Noson Fel Hon

19:30 (£17 | £16 | £15)
Dewch i fwynhau cyngerdd arbennig o fyd y Sioeau Cerdd a chaneuon ysgafn poblogaidd gan dri o unawdwyr blaenllaw Cwmni Theatr Maldwyn dros y blynyddoedd, sef Aled Wyn Davies, Sara Meredydd ac Edryd …

Hi Hi Hi Talgarreg

20:00 (£12)
Ar ôl dwy noson lwyddiannus iawn, mae ‘Hi Hi Hi’ yn mynd ar daith! Dewch i fwynhau noson anffurfiol, llawn chwerthin yng nghwmni Sara, Tess ac Elliw.

Atgofion ac alawon

Hyd at 22 Ionawr 2024, 15:00 (Am ddim)
Diwrnod o hwyl, sgwrsio, a trafod lyrics, gyda cinio a llyniaeth am ddim – rhaid bwcio o flaen llaw (er mwyn niferoedd a gwybodaeth alergedd ayyb.)

Blasu Cwrw

19:00 (£15)
Noson Blasu Cwrw yn Tŷ Mo, bar a bragdy ar Stryd Fawr Bethesda.

Peint a Sgwrs

Hyd at 24 Ionawr 2024, 21:00
Sesiwn hamddenol i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol.

Stori a Chân gyda Menter Gorllewin Sir Gâr

13:30 (Am ddim)
Ymunwch â Menter Gorllewin Sir Gâr ar gyfer sesiwn llawn hwyl o storiau a chaneuon.    I gofrestru, e-bostiwch nia@mgsg.cymru 

Laffwyl Ionawr

19:30 (£8 ymlaen llaw)
Gig comedi gyda Caryl Burke, Carwyn Blayney, Gethin Evans, Katie Gill-Williams ac Aled Richards wrth y llyw.  Dewch am bach o laff ym mis Ionawr!

Gwahoddiad i gynllunio Priodas

18:30
Ydach chi’n edrych ymlaen i drefnu eich priodas? Neu dathlu penblwydd priodas/adnewuddu addewidion…neu bendithio priodas sifil?

Noson Caban: Tecwyn Ifan ac Ifor ap Glyn

18:45
Noson o gerddoriaeth a chanu yng nghwmni Tecwyn Ifan ac Ifor ap Glyn. Croeso i bawb.

Twmpath Dawns gan Dawnswyr Talog

19:00 (£10 / £5)
Mae Pwyllgor y Carnifal Llandysul a Phont-tyweli yn cyflwyno Twmpath Dawns gyda Dawnswyr Talog i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen Ar Nos Wener, Ionawr 26ain, 7yh yn Neuadd Tysul, Llandysul.

Cyngerdd Côr Pam Lai?

19:30 (Oedolion £7 a Phlant £3)
Noson o hwyl gyda pherfformiadau gan: Côr Pam Lai? Band Tref Llandeilo Cysylltwch am docynnau. Yn cefnogi elusennau Diabetes a British Heart Foundation. Dewch yn llu!