Dewch i ymuno gyda ni mewn te prynhawn i ddathlu cyhoeddi 500 rhifyn Y DDOLEN! Edrychwn ymlaen at gael eich cwmni wrth i ni hel atgofion a mwynhau ychydig adloniant.
Tir Glas yn cyflwyno Noson yng nghwmni’r cogydd enwog Nathan Davies Bydd Simon Wright yn sgwrsio gyda Nathan Davies am ei yrfa, sydd yn cynnwys ennill seren Michelin Neuadd y Celfyddydau campws …
Awydd cystadlu yn yr adran lenyddol yn Eisteddfod yr Urdd eleni? Eisiau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol? Awydd cystadlu yn eich eisteddfodau lleol?
Dewch i fwynhau ac archwilio Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod ein horiau agor estynedig ar ddydd Iau cyntaf bob mis. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor ei drysau tan 7:30pm ar …
Siaradwyr Cymraeg ardal Bae Colwyn o unrhyw lefel – dyma chi ble (a pryd) gallwch gerdded fewn i far yn y Bae a gwybod yn sicr y gallwch falu awyr yn Gymraeg! o 7pm ymlaen Iau cyntaf pob mis …
Ymunwch gyda ni yn ein noson Siôn a Siân i ddarganfod pwy sy’n nabod eu partneriaid orau?Pwy sy’n gwybod dim amdanynt?Yr hyn ni’n gwybod yw bod hi’n mynd i fod yn noson a …
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu. Dydd Sad 03 Chwefror Dydd Sad 02 Mawrth Dydd Sad 06 Ebrill Dydd Sad 04 Mai Gyda Menter Iaith Abertawe.
Dathliad creadigol o’r Wyl arbennig yma, sy’n cloi tymor y Nadolig ac yn edrych tua’r Gwanwyn…dewch i greu eich cannwyll eich hun a chael bendith am y flwyddyn.
Gwasanaeth anffurfiol i deuluoedd, yr hen a’r ifanc..i ddod ynghyd a chreu’ Christingle’ a cael hwyl wrth ddysgu am ei hystyr. Panad ar ol y gwasanaeth a chroeso cynnes iawn i bawb
Dydd Mawrth, Chwefror 6ed, 202410.15yb-11yb. Mynediad am ddim Addas i blant oed cyn-ysgol ac oed cynradd. Dylai plant fod yng nghwmni eu rhieni, gofalwyr, neu warchodwyr.
Allwch chi helpu Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur i drwsio ffermdy Mynachlog Fawr? Yn 2024 mae’r Ymddiriedolaeth yn anelu at gynnal gwaith brys ac arolygon o’r ffermdy.