calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 16 Ionawr 2025

Crefftau Dydd San Ffolant gyda Jig-So

Hyd at 14 Chwefror 2024, 12:30 (Am ddim)
Byddwch yn greadigol a dathlwch bopeth San Ffolant gyda Jig-So!

Sinfonia Cymru, Patrick Rimes a Cerys Hafana

(Safonol: £16 Dros 60: £14 Plentyn (dan 18): £7.50 Myfyrwyr: £7.50)
Paratowch i gael eich cludo i dir lle mae pryderon yn pylu i ffwrdd a gadewch i synau lleddfol y feiolinydd traddodiadol Patrick Rimes a Sinfonia Cymru ysgubo drosoch chi.

Sefydlu Makumbusho ya Mikindani darlith gan Robert Williams

Hyd at 8 Chwefror 2024, 15:30 (Am Ddim)
Bydd Cyfeillion Storiel yn cynnal  dau sgwrs gyda Robert Williams am ei brofiadau yn sefydlu amgueddfa yn Tansanïa.

Peint a Sgwrs Pesda

Hyd at 8 Chwefror 2024, 21:00
Sesiwn hamddenol i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol.

Rhaglen Ystrad Fflur 2024

Hyd at 23 Tachwedd 2024 (Amrywiol)
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein rhaglen ar gyfer 2024! Mae’n llawn amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau newydd i’w dysgu.

Cystadleuaeth Cyrri

19:30 (£15)
Cystadleuaeth cyrri i godi pres at Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024. Mae croeso i unrhyw un gofrestru o flaen llaw i gystadlu.

Gig byw: Lowri Evans a Robin Rae

19:30
Gig byw yn y Vale gyda dwy o gantorion sy’n gwneud enw i’w hunain yn y Sîn Roc Gymraeg – Lowri Evans, a Robin Rae (aka y ferch leol, Danielle Lewis!) Diolch am gefnogaeth Dydd …

Clirio Eithin – Moel Faban

Hyd at 10 Chwefror 2024, 15:00 (Am ddim ond rhaid cyfrestru)
Mae olion aneddiadau hynafol wedi’u gwasgaru ar hyd y Carneddau. Fodd bynnag, gall tyfiant llystyfiant danseilio’r strwythurau archeolegol hyn, yn ogystal â chuddio eu bodolaeth.

Taith y Goedwig

Hyd at 18 Chwefror 2024, 16:00
Mwynhewch dro ffres gaeafol ym Mhenrhyn ar daith y goedwig wrth i chi ddarganfod rhyfeddod coed. Mae gan goed hanes hir o fod yn ffynhonnell i sawl chwedl yng Nghymru.

Sesiwn wybodaeth galw heibio Parc Meurig – dyddiad newydd

Hyd at 10 Chwefror 2024, 13:00
Cyfle i drafod cynlluniau i ddiogelu coeden 500 mlynedd oed ym Mharc Meurig efo swyddogion bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd.

Dathliadau Blwyddyn Y Ddraig

Hyd at 11 Chwefror 2024, 16:00 (Am ddim)
Ymunwch â ni i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a chroesawu blwyddyn y ddraig! Diwrnod llawn cerddoriaeth, perfformiadau, crefftau a dawns wych y ddraig Tsieineaidd.

Bob Delyn a’r Ebillion + Tant

Hyd at 11 Chwefror 2024, 22:00 (£13 o flaen llaw, £15 ar y drws)
Gig arbennig mewn lleoliad arbennig!

Gŵyl a Gwledd

Hyd at 16 Chwefror 2024, 16:00 (Am ddim)
Sesiynau galw heiebio: 11yb – 1yh & 2yh – 4yh Ymunwch â ni dros hanner tymor i ddysgu mwy am wyliau a gwleddoedd yn y byd Rufeinig. Beth sydd i’w wneud?

Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen

Hyd at 12 Chwefror 2024, 20:00 (£2 am un ddarlith)
Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen (Darlith wyneb yn wyneb, a rithiol drwy gyfrwng Zoom)   Cynrig Hughes ac Arwyn Oliver yn trafod ‘Helynt yn Rhiwlas, Pentir a Mynydd Llandygai – Streic Fawr Chwarel y …

Stori a Chân gyda Cymraeg i Blant

10:30 (Am ddim)
Ymunwch yn yr hwyl gyda storiau a chaneuon gyda Cymraeg i Blant.

Chwarae Meddal

Hyd at 13 Chwefror 2024, 16:00
Cyfle i’r Glowyr Bach cael hwyl a sbri! Ymunwch â ni am Chwarae Meddal AM DDIM yn y Pwll Chwarae. Noder bod y chwarae meddal yn addas i blant o dan 5 oed o dan reolaeth oedolyn.

Creu a Chadw – Pypedau Ffon Draig Tsieiniaidd

Hyd at 13 Chwefror 2024, 15:30 (Am ddim)
Dewch draw i greu pyped Draig papur consertina i ddathlu blwyddyn y ddraig.

Noson Pancos

19:00 (Am ddim)
Noson o gymdeithasu wedi ei drefni gan Gofalaeth Caron,bydd casgliad tuag at Uned Strôc Bronglais a’r Banciau bwyd lleol.

Arddangosfa Mynachlog Fawr Yn Agor

Hyd at 22 Tachwedd 2024, 15:00 (Am ddim)
Yma yn Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, rydym yn paratoi ac yn gyffrous i groesawu ein hymwelwyr cyntaf yn 2024 i Arddangosfa Mynachlog Fawr.

Creu a Chadw – Pypedau Ffon Draig Tsieiniaidd

Hyd at 14 Chwefror 2024, 15:30 (Am ddim)
Dewch draw i greu pyped Draig papur consertina i ddathlu blwyddyn y ddraig.

Paentio ar y Cyd Dydd San Ffolant

19:00 (£25 yp, neu dau am £45)
Rydyn ni wrth ein boddau o’n partneriaeth â The Paint Along Lady ac o gyflwyno’r digwyddiad Hwyrnos arbennig hwn.

Grwp Chreff Cymunedol

Hyd at 14 Chwefror 2024, 21:00 (Am ddim)
Noson gymdeithasol o grefftio – dewch ac unrhyw grefft dach chi’n gweithio arno fo. Fydd peiriannau gwnïo ar gael.

Penwythnos Garddio Llandysul

Hyd at 18 Chwefror 2024 (Am ddim)
Neuadd Tysul Hall, 10yb – 5yp  Dechrau Blwyddyn Newydd ac rydym yn edrych ymlaen at Penwythnos Garddio Llandysul a fydd unwaith eto yn atyniad cyffrous yn ardal Dyffryn Teifi.

Chwarae Meddal

Hyd at 18 Chwefror 2024, 10:00
Cyfle i’r Glowyr Bach cael hwyl a sbri! Ymunwch â ni am Chwarae Meddal AM DDIM yn y Pwll Chwarae. Noder bod y chwarae meddal yn addas i blant o dan 5 oed o dan reolaeth oedolyn.

Creu a Chadw – Pypedau Ffon Draig Tsieiniaidd

Hyd at 15 Chwefror 2024, 15:30 (Am ddim)
Dewch draw i greu pyped Draig papur consertina i ddathlu blwyddyn y ddraig.

Sgwrs Lenyddol

19:00 (Ymaelodi £10 y flwyddyn neu £2 y cyfarfod)
Cyfarfod o Gymdeithas Gymraeg Treforys a’r Cylch  Sgwrs rhwng dau o Brifeirdd Treforys a’r Cwm, y Prifardd Robat Powell a’r Prifardd Alan Llwyd  Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod …

Gŵyl Gerdd Bangor 2024

19:30 (Amrywiol)
Dros gyfnod o dri diwrnod bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn archwilio’r thema o ‘cerddoriaeth newydd, profiadau newydd’ lle ceir rhywbeth at ddant pawb o fewn yr amrywiol gyngherddau, gweithdai, sgyrsiau a …

Sesiwn Grefft

10:30 (Am ddim)
Dewch i fwynhau amrywiaeth o grefftau cŵl gyda chriw’r Fenter yn Amgueddfa Wlan Drefach Felindre. Byddwn yno rhwng 10:30 a 2:30. Croeso cynnes i bawb!

Crefftau Hwyliog gyda Menter Gorllewin Sir Gâr

Hyd at 16 Chwefror 2024, 12:30 (Am ddim)
Byddwch yn greadigol ac ymunwch â Menter Gorllewin Sir Gâr i wneud crefftau cŵl!

Gweithgaredd Mwsog i deuluoedd

Hyd at 16 Chwefror 2024, 16:00 (Am ddim)
Gweithgaredd celf Mwsog Dyffryn Ogwen i deuluoedd.  Dysgwch am mwsog trwy gelf. E-bostiwch Chris@ogwen.org i gadw lle.

Noson yng nghwmni Meleri Wyn James

19:15
Cylch Llyfryddol Caerdydd ‘Fi a Ti’ – noson yng nghwmni Meleri Wyn James, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

‘O Langeitho i’r Tŷ Gwyn’ – sgwrs gan Meg Elis am Ddeiseb Heddwch Merched Cymru 1924

19:30 (Rhaglen y flwyddyn £5; un sesiwn am £1)
‘O Langeitho i’r Tŷ Gwyn’: Deiseb Heddwch Merched Cymru 1924 – sgwrs gan Meg Elis am ei mam-gu, Annie Ellis, un o arweinwyr yr ymgyrch. Trefnir gan Gymdeithas Lenyddol y Garn 

Côr Cymru – Rowndiau Cynderfynol

Hyd at 18 Chwefror 2024, 21:00
Nos Wener am 7.30 o’r gloch – Corau Ieuenctid Pnawn Sadwrn am 2 o’r gloch – Corau Sioe Nos Sadwrn am 7.30 o’r gloch – Corau Cymysg Pnawn Sul am 1.30 o’r gloch – Corau Plant …

NOSON GOMEDI GYMRAEG

Hyd at 16 Chwefror 2024, 22:00 (£6)
NOSON GOMEDI GYMRAEG gydag Aled Richards, Gary Slaymaker, Steffan Evans a Fflur Pierce. 8pm-10pm. Dewch a’ch poteli eich hunain. Bydd cacs a the hefyd ar werth.

Marchnad Lleu

09:30
Marchnad fwyd, crefftau a cynnyrch lleol i Ddyffryn Nantlle. Stondinau o pob math, Caffi Tylluan yn gwerthu brecwast a chinio rhad, panad a chacennau. Stondin y Mis fydd Clwb Stroc Mon ac Arfon.

Diwrnod Agored Yr Hen Bost

Hyd at 17 Chwefror 2024, 14:00
Cyfle i’r gymuned glywed mwy am brosiect Yr Hen Bost! Byddwn yn cynnal digwyddiad ar Ddydd Sadwrn, Chwefror yr 17fed yn y Gorffwysfan gyda teithiau o amgylch safle Yr Hen Bost am 11yb a 1yh. 

Drag Queen Story Hour UK

11:00 (Am ddim (ond angen archebu tocyn))
Rydyn ni mor gyffrous i gyhoeddi y bydd @DragQueenStoryHourUK yn ymuno â ni!!  Bydd Aida H Dee – The Storytime Drag Queen yn darllen straeon anhygoel mewn sioe amser stori gyffrous, jyst i ni!   Mae …

Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed

12:00
Ymunwch â ni ar 17 Chwefror 2024 am ddiwrnod o gwrw, lager a seidr rhagorol yn ogystal â bwyd blasus, a cherddoriaeth fyw.

Dehongliadau LGBTQ+ gyda Dr DeAnn Bell

14:00
Ymunwch a ni am brynhawn difyr gyda Dr DeAnn Bell wrth iddi fynd a ni ar daith gyffroes trwy  ddehongliadau o arteffactau LGBTQ+.

Cyngerdd Côr Meibion Dyfnant

19:30 (£15)
Rhys Meirion yn unawdydd ac Elis Massarelli-Hughes (organ).  Tocynnau hefyd yn Awen Menai.