calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 1 Mai 2024

Ioga | Yoga

Hyd at 16 Chwefror 2023, 20:00 (£39)
Dosbarth ioga gyda Laura Karadog. Am fanylion cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru Yoga class with Laura Karadog. For more information contact on betsan@mgsg.cymru

Croendena, Frân Wen

(£13-£15)
Drama newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun. Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion.

Penwythnos Garddio Llandysul

Hyd at 19 Chwefror 2023 (Am Ddim)
Mae Penwythnos Garddio Llandysul yn ôl eleni ac yn denu ymwelwyr o ardal eang, ac yn cynnig cyfle i arddwyr nofis ynghyd a rhai mwyaf profiadol i ddechrau paratoi ar gyfer y gwanwyn.

BBC 100 yng Nghymru: Uchafbwyntiau’r Newyddiadurwyr

19:00
Bethan Rhys Roberts, Felicity Evans a Wyre Davies Wrth i’r BBC yng Nghymru gyrraedd carreg filltir nodedig o ddarlledu i’r genedl ers canrif, bydd tri o newyddiadurwyr blaenllaw Cymru yn dod ynghyd …

CYD Llandysul

19:30 (Am Ddim)
Peint a Sgwrs yn Gymraeg i Ddysgwyr!

Perfformiad ‘Cranogwen’

19:30 (£12)
Hoffwn dynnu eich sylw at berfformiad o ‘Cranogwen’ gan gwmni theatr Mewn Cymeriad gynhelir yn Theatr Seilo, nos Iau, Chwefror 16 am 7.30 yh. Awdur y sgript yw Ffion Dafis.

Croendena, Frân Wen

(£13-£15)
Drama newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun. Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion.

Marchnad Cefn Gwlad

Bydd y Farchnad Cefn Gwlad yn ail ddechrau bore Gwener 17eg o Chwefror. Cynhelir yn Nhafarn Y Brenin Llandysul. Bwyd a chrefftau lleol at ddant pawb

Dathlu’r Gyfrol Rhaid i Bopeth Newid

19:00
Cynhelir noson i ddathlu cyfrol Cymdeithas yr Iaith Rhaid i Bopeth Newid yng Nghlwb y Bont, Pontypridd am 7 o’r gloch, nos Wener, 17 Chwefror.

Hwyrnos: QUEER

Hyd at 17 Chwefror 2023, 23:30 (£10)
Noson o ddathlu, cefnogi a chysylltu cymunedau LHDTQ+ Caerdydd. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi sylw i thema Mis Hanes LHDTQ+, sef ‘Tu ôl i’r lens’.

Noson yng nghwmni Nic Parry

Hyd at 17 Chwefror 2023, 21:00
Sgwrs gan y barnwr a’r sylwebydd pêl-droed ffraeth Nic Parry – trefnir gan Gymdeithas Lenyddol y Garn

Ffair Recordiau

10:00 (Am ddim)
Ffair Recordiau Dydd Sadwrn Chwefror 23ain, 2023 Canolfan y Morlan, SY23 2HH, Aberystwyth 10:00 – 3:30yp Amrywiaeth eang iawn o recordiau feinyl, CDs a chasetiau o bob math Amragor o fanylion …

Dysgu Cymraeg Trwy Garddio

Hyd at 18 Chwefror 2023, 14:00
Gweithdy ‘Dysgu Cymraeg Trwy Arddio’ gyda Adam yn yr ardd drwy prosiect Tyfu Ceredigion 🤩 📍Yr Ardd 🗓 18/02 🕙 10am-2pm 💰 Am Ddim 🎟 Eventbrite (neu/or) biodiversity@ceredigion.gov.uk Croeso i bawb

Marchnad Hen Bethau a Chreffau

Hyd at 18 Chwefror 2023, 16:00 (Am ddim)
Cymysgedd o nwyddau retro o’r 1930au i’r 1980au, a detholiad o grefftau gan wneuthurwyr lleol, dyma’r lle perffaith i ddod o hyd i drysorau unigryw.

Môrwelion

Hyd at 10 Medi 2023, 17:00 (Am ddim)
Mae Môrwelion yn arddangosfa newydd o ffotograffau gan yr artist Garry Fabian Miller – un o ffigurau mwyaf blaengar ffotograffiaeth gain.

Gwyl Gwrw a Seidr Llambed

Hyd at 18 Chwefror 2023, 23:00 (£4.50 gan gynnwys gwydr peint arbennig)
Gwyl Gwrw a Seidr gyda dewis eang o gwrw a seidr o bob rhan o Gymru. Pris mynediad £4.50 gan gynnwys gwydr peint arbennig neu £8.50 gyda thancard arbennig. Adloniant byw. Lluniaeth ar gael.

Sioe balŵn boncyrs

Hyd at 18 Chwefror 2023, 15:00 (Plant - £2.50)
Becky Kitter o CBeebies a Ha Ha Haires fydd yn cyflwyno sioe egnïol, ryngweithiol. Gyda balŵns, meim a llond trol o hwyl i’r teulu.

Croendena, Frân Wen

(£13-£15)
Drama newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun. Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion.

Cwrs Carlam Dysgu Nofio

Hyd at 24 Chwefror 2023 (£30)
Mae ein Cyrsiau Carlam Nofio yn rhoi cyfle i blant nofio bob dydd gyda’r nod o gyflymu eu cynnydd nofio a magu hyder yn y dŵr.

Gofod Gwneud – Sesiwn Torrwr Laser

Hyd at 20 Chwefror 2023, 20:00
Rhan o gyfres sesiynau agored pob nos Lun: Sesiwn torrwr laser

Adam yn yr Ardd… yn y Vale

19:30 (Am ddim)
Mae criw garddio’r Vale yn edrych mlaen i groesawu Adam yn yr Ardd i’r dafarn i drafod popeth yn ymwneud â garddio!

Croendena, Frân Wen

(£13-£15)
Drama newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun. Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion.

Bore Coffi

10:30
Te neu Goffi, Biegedi a Raffl yn Ysgol Tregroes. 3ydd bore Mawrth bob mis.

Stori a Chân

11:00 (Am Ddim)
Bydd sesiwn Stori a Chân ar Ddydd Mawrth, Chwefror 21ain, 2023 am 11yb. Mynediad am ddim. Addas i blant oed cyn-ysgol ac oed cynradd.  Dylai plant fod yng nghwmni eu rhieni, gofalwyr, neu warchodwyr.

Balwnau Crefftus!

Hyd at 21 Chwefror 2023, 15:30 (Am Ddim)
Stretsiwch e, chwythwch e, byrstiwch e – dewch i ddathlu’r hen falwn cyfarwydd trwy greu tair crefft cŵl gan gynnwys roced a pom-pom!

Paned a Phancos

19:00
Noson Gymdeithasol i godi arian i apel Hadau Gobaith. Croeso cynnes i bawb

Clwb Cynganeddu Caernarfon

20:00 (£2)
Eisoes yn deall rheolau’r gynghanedd? Yn awyddus i ymarfer eich crefft? Dewch i Glwb Cynganeddu Caernarfon!

Balwnau Crefftus!

Hyd at 22 Chwefror 2023, 15:30 (Am ddim)
Stretsiwch e, chwythwch e, byrstiwch e – dewch i ddathlu’r hen falwn cyfarwydd trwy greu tair crefft cŵl gan gynnwys roced a pom-pom!

Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs

13:00
‘Bywyd a marwolaethau Edmund Bernard Reece’ – Crwner Caerdydd & O Gymru Wyllt i Wlad y BasgYmunwch â ni yn y drydedd mewn cyfres o gyflwyniadau Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs, pan …

Peint a Sgwrs Pesda

Hyd at 22 Chwefror 2023, 21:00 (am ddim)
Sesiwn sgwrsio gymdeithasol i siaradwyr Cymraeg – hen a newydd

Balwnau Crefftus!

Hyd at 23 Chwefror 2023, 15:30 (Am ddim)
Stretsiwch e, chwythwch e, byrstiwch e – dewch i ddathlu’r hen falwn cyfarwydd trwy greu tair crefft cŵl gan gynnwys roced a pom-pom!

‘Te Bach’ efo Dafydd Iwan

Hyd at 23 Chwefror 2023, 17:00
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn yn STORIEL! Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mangor byddwn yn croesawu’r chwedlonol Dafydd Iwan am sgwrs a phaned.

Cwis Chwe Gwlad y Vale – Lloegr

20:00
Cwis byr am yr hen elyn, chwaraeon ac ambell beth arall! Owain Dafydd sy in charge o’r cwis yma – y trydydd mewn cyfres o cwisys ar nosweithi Iau cyn gemau rygbi Cymru.

Gwylnos Wcráin

Hyd at 24 Chwefror 2023, 19:00
Pan ddaw 24 Chwefror eleni, bydd yn flwyddyn ers i luoedd Rwsia ddechrau’r ymosodiad ar Wcráin. Byddwn yn cynnal gwylnos yn Festri Bronant y noson honno ac yn casglu arian at apêl DEC Wcráin.

Cyfres Caban 2

19:00
ADLONIANT; DIWYLLIANT; CHWYLDRO! YesCymru Bro Ffestiniog yn cyflwyno’r ail mewn cyfres o nosweithiau yng nghaffi Antur Stiniog.

Amgueddfa Syr Henry Jones

19:00 (am ddim)
Sgwrs yn Gymraeg gan Ann Vaughan – gyda chyfieithiad opsiynol Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yng nghanol pentref Llangernyw ar y brif ffordd A548 o Abergele i Lanrwst.

Noson o adloniant yng nghwmni Hogia’r Bonc

19:00 (£5)
Carnifal Bethesda yn cyflwyno’r noson

Twrnament Pool y Vale: noson gyntaf

19:30 (£5)
Y cyntaf yng Nghyfres Pool 2023 y Vale! Bob nos Wener ola’r mis bydd twrnament pool yn y Vale.

Gig Tecwyn Ifan

20:00
Dewch draw i Lle Arall ar lawr gwaelod Llety Arall, Caernarfon am noson o gerddoriaeth gan un o gewri’r genedl – Tecwyn Ifan!

Rhedeg Parkrun Penrhyn mewn Lliwiau Cymru

Hyd at 4 Mawrth 2023, 10:30
I ddathlu Gwyl Dewi yng nghanol yr wythnos mi rydan ni yn annog pobl i wisgo lliwiau Cymru i ddathlu Gwyl Deiw Bangor.

Dewch i Ganu – Dysgu’r Anthem Genedlaethol!

11:00 (Am ddim)
Mae’r digwyddiad poblogaidd yn ôl!   Sesiwn arbennig i rai sydd eisiau ychydig o help i forio canu’r anthem genedlaethol!

Gwneud a chymeryd Dewi Sant: Gwisgo’r Ddraig

Hyd at 25 Chwefror 2023, 15:30 (Am Ddim)
Galwch draw i wneud Penwisg y Ddraig drawiadol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Sgwrs am Dewi Sant

Hyd at 25 Chwefror 2023, 16:00 (Am ddim)
Sgwrs i Gymdeithas Africa Gogledd Cymru am Ddewi Sant, pwy oedd o pham ei fod mor bwysig i’r Cymru? Gwybodaeth i bobl sydd yn gwybod dim am Ddewi Sant. Ar agor i bawb dim angen cofrestru.

Hwyl Ddewi 2023

18:30 (£8 i oedolion £2 i blant)
Dewch i ddathlu HWYL DDEWI 2023 Nos Sadwrn 25 Chwefror Cawl a Chân yng nghwmni’r gerddorfa iwcalili IWCADWLI Gweinir Cawl o 6.30 ymlaen Adloniant 7.30 Tocynnau: £8 i oedolion£2 i blant E-bostiwch …

Arddangosfa Briodas

Hyd at 26 Chwefror 2023, 16:00 (Am ddim)
O 11 tan 4, fe fyddwn yn arddangos ein cyfleusterau priodas fforddiadwy yng nghalon Llambed: ystafelloedd hanesyddol i gynnal seremonïau sifil, neuadd fwyta i ddal hyd at 250 o fobl ac adeiladau …

Cinio Dydd Sul

Hyd at 26 Chwefror 2023, 14:30 (1 cwrs £10.95 | 2 gwrs £12.95)
Cinio Dydd Sul carferi gyda’r trimmins i gyd – yn ôl am un Sul yn unig! Dewch â’r teulu oll. I gadw lle, ffoniwch 01267 222252.

Parti Dydd Gŵyl Dewi

Hyd at 26 Chwefror 2023, 16:00 (Am Ddim)
O gorau a chrefftau i ddreigiau a chennin pedr, pa ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru

Gwneud a chymeryd Dewi Sant: Gwisgo’r Ddraig

Hyd at 26 Chwefror 2023, 15:30 (Am Ddim)
Galwch draw i wneud Penwisg y Ddraig drawiadol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Ffilm Dewi Sant: How To Train Your Dragon: The Hidden World (PG, 2019)

14:30 (Am ddim)
Ffilm am ddim i’r teulu.   Rhaid i Hiccup a Toothless chwilio am y ‘byd cudd’, utopia cudd i ddreigiau, cyn i’r dihiryn Grimmel ddod o hyd i’r lle.

Noson o sgyrsiau

19:30 (£10)
Alf Bodenham – cerdded o John O’Groats i Land’s End Mike Raine – Beic-bacio 550 Cymru Tocynnau wrth y drws, am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri Holl elw tuag at Gymdeithas …

Panad a Moidr

12:00 (Am ddim)
Cyfle i sgwrsio ac ymarfer Cymraeg mewn sefyllfa hamddenol. Addas ar gyfer siaradwyr newydd a rhugl. Gofynnwch am Mei o Fenter Iaith Bangor.