calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 16 Ionawr 2025

Ffair Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Glannau

Hyd at 10 Mawrth 2024, 16:00 (Am ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Beth yw cryfder ffurfio cymuned o gymunedau?

19:00 (Am ddim)
Bydd Sel Williams, un y sylfaenwyr Cymunedoli yn arwain sgwrs agored gyda pobol ardal Llandysul am gryfder cydweithio.

Gwyl Agor Drysau – Gwyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc

Hyd at 16 Mawrth 2024 (Yn ddibynnol ar y cynhyrchiad)
Gŵyl Agor Drysau yw gŵyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Caiff ei threfnu gan Gwmni Theatr Arad Goch.

Stori a Chân gyda Cymraeg i Blant

13:30 (Am ddim)
Dewch draw am sesiwn stori a chân llawn hwyl, gyda Cymraeg i Blant, yn ystafell addysg Amgueddfa Wlân Cymru

Clwb Crefft Gymunedol

Hyd at 13 Mawrth 2024, 21:00 (Am ddim)
Fydd sesiwn Crefft Gofod Gwnïo nesa ar ddydd Mercher 13 Mawrth o 7 tan 9 ar lawr uchaf Canolfan Cefnfaes.

Bingo Pasg Ysgol Llanllechid

17:30
Bingo Pasg Ysgol Llanllechid Clwb Criced a Bowlio Bethesda  Drysau yn agor 5:30yh Eyes down 6yh

Dathlu San Padrig efo Dylan a Neil

Hyd at 15 Mawrth 2024, 12:00 (Am ddim)
Dewch draw i Cae Garnedd, Penrhosgarnedd i ddathlu San Padrig efo Dylan a Neil.

Creigiau Geirwon- ffilm

19:15
Cyfle i wylio perfformiad Creigiau Geirwon gan Gwmni Pendraw (recordiwyd yn Pontio, Bangor yn 2023) ar y sgrîn fawr am un noson yn unig.

Sgwrs am ‘Hanes Cymru’ Carnhuanawc

19:15
Cylch Llyfryddol Caerdydd Sgwrs gan yr Athro Huw Pryce ar y testun ‘Ar drywydd “tynghedfen Cenedl y Cymry”: cyd-destunoli Hanes Cymru Carnhuanawc (1836–42)’, yn Ystafell 0.31, Adeilad John Percival, …

Marchnad Lleu

09:30
Marchnad o fwydydd, cynnyrch a chrefftau lleol yn Nyffryn Nantlle.

Trysorau Glan Y Môr : Gweithdy Argraffu Plât Gelli

Hyd at 16 Mawrth 2024, 13:00
Mae’r artist Jane Fellows yn arwain gweithdy argraffu plât gelli gan ddefnyddio gweadau naturiol. Nid oes angen unrhyw sgiliau arlunio.

Bangor Teifi Taith Tractorau

10:00
Dydd Sadwrn, Mawrth 16eg, am 10yb Cwrdd ar sgwar Bangor Teifi. Rôl Bacwn cyn dechrau. Gorffen yn Tafarn Ffostrasol am luniaeth. Elw at Eglwys Bangor Teifi

Gofal ein Gwinllan

Hyd at 16 Mawrth 2024, 11:30 (Am ddim)
Sesiwn Gofal ein Gwinllan yn trafod cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i Hanes a Diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Cyngerdd Dathlu 60 Côr Meibion Cwmann a’r Cylch

19:00
Cyngerdd dathlu 60 Côr Meibion Cwmann a’r Cylch, yng nghwmni Aled Hall, Gwawr Taylor, Kees Huysmans a Phlant Ysgol Carreg Hirfaen, dan arweiniad medrus Lena Jenkins.

Awr Dawel yn yr Amgueddfa

Hyd at 17 Mawrth 2024, 16:00 (Am ddim)
Gall mannau cyhoeddus fod yn anorthrech ac yn straen mawr i unigolion ag anghenion ychwanegol ac anableddau, a all yn ei dro achosi gorlwytho synhwyraidd.

Gweithdy Ffeltio

Hyd at 18 Mawrth 2024, 12:00 (Am ddim)
Gweithdy Ffeltio gyda Lora Morgan yn dysgu sut i ffeltio. Nifer llefydd cyfyngedig, rhaid archebu lle o flaen llaw. Cysylltwch gydag Anna i archebu lle – anna@ogwen.org neu 01248 602131

Sesiwn Stori

10:30 (Am ddim)
Mae ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin ac yn ardal Dyffryn Taf yn parhau bob pythefnos. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori yma. Cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Sgwrs a Panad – Dyfodol Siop Ogwen

17:30 (Am ddim)
Panad a sgwrs yng Nghanolfan Cefnfaes ar Fawrth 18fed. Gwahoddiad agored i’r gymuned i drafod dyfodol eich Siop Gymunedol. Gobeithio gwelwn ni chi yno.

Noson Agored Hyfforddiant Ceredigion Training a Dysgu Bro Ceredigion

Hyd at 19 Mawrth 2024, 19:00 (Am ddim)
Rydyn ni’n cynnal noson agored yn HCT, Llanbadarn ar 19eg o Fawrth rhwng 3yp a 7yh. Mae’n gyfle i chi ddod i ymweld â’n canolfan a gweld ein cyfleusterau.

Dod o Hyd i’ch Talent Busnes

Hyd at 19 Mawrth 2024, 19:30 (Am ddim ond mae angen archebu lle!)
A ydych yn meddwl am lwybr gyrfa newydd? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cychwyn busnes ond ddim yn siŵr beth yn union?