calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 18 Hydref 2024

Bore Coffi Ymchwil Cancr

10:00
Stondinau Raffl Agorir gan Cyril Davies Trefnir gan Gangen Ymchwil Cancr DU Llanybydder / Llanbed.

Diwrnod Agored Dysgu Bro

10:00 (Am ddim)
Ymunwch â Dysgu Bro Ceredigion ar Fai 4ydd yn Llyfrgell Llandysul i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gweld gwaith celf heb ei arddangos, mynychu sgyrsiau, a thaith o amgylch y …

Clwb Crefft i Blant

Hyd at 4 Mai 2024, 12:00 (£5)
Ymunwch â Clwb Crefft misol  Amgueddfa Wlân Cymru. Cyfle i fod yn greadigol gan ddysgu a chreu amryw o grefftau.Y mis hwn mae cyfle i chi roi cynnig ar wau. Cyfle i arbrofi gyda gwahanol dulliau.

Dewch i ganu ‘Africa’

Hyd at 4 Mai 2024, 15:00 (£10, talu ar y drws)
Canu i Godi Calon! Bydd croeso cynnes yn eich aros. Gweithdy hwyliog yn dysgu trefniant corawl o Africa, agored i bawb. Nid oes angen profiad o ganu mewn côr, dewch draw i fwynhau.

Dewch i Ganu!

11:00 (Am ddim)
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu. Dydd Sad 03 Chwefror Dydd Sad 02 Mawrth Dydd Sad 06 Ebrill Dydd Sad 04 Mai Gyda Menter Iaith Abertawe.

Eisteddfod Capel y Fadfa

13:30 (Oedolion £4 plant Dan 16 oed£1)
Eisteddfod Capel y Fadfa Talgarreg Cystadleuthau newydd eleni sef Dweud joc/jocs Perffomio mewn cymeriad (amodau ar steddfota.cymru) Testun y gadair: emyn (geiriau un unig) ar y testun cynhaeaf.

Eisteddfod Capel y fadfa Talgarreg 

13:30 (Oedolion £4 plant £1)
Dydd Sadwrn 4ydd o Fai 2024 Dalier sylw, mae cyfeiriad beirniad llên ac adrodd yn anghywir.

Rali Nid yw Cymru ar Werth

14:00
Gorymdaith yn dechrau o faes parcio Diffwys dros ffordd i orsaf drên Blaenau Ffestiniog am 14:00, gyda cherddoriaeth yn dechrau am 13:30. Rali i ddilyn yn ôl yn y maes parcio. 

Parti Cam Olaf Ysgol Cribyn!

16:30 (Am ddim)
Dewch i ddathlu gyda ni ym Mharti Cam Olaf Ymgyrch Ysgol Cribyn! Nos Sadwrn, 4ydd o Fai, 4.30yp ymlaen!

Gig rali Nid yw Cymru ar Werth: Morgan Elwy

18:00 (£5)
Gig gyda Morgan Elwy i ddod â rali Cymdeithas yr Iaith i ben, tocynnau’n £5 ar y drws.

Morgan Elwy ym Mlaenau

18:00
Gig cynnar fydd hwn – drysau am 6pm a Morgan Elwyn yn chwarae yn fuan wedi hynny. Mwy o fanylion – bethan@cymdeithas.cymru

Y Dewis

19:30 (£14/£12)
Gêm lawn dewisiadau yw bywyd. Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Gwyn Emberton. Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd, yng nghanol Bangor.

Taith Gerdded Natur Tŷ Mawr

5 Mai Taith gerdded yn cael ei arwain gan Ioan Davies, Warden Parc Cenedlaethol Eryri mewn partneriaeth gyda Gŵyl Natur Cwm Penmachno.

Gwyl Calan Mai

Hyd at 6 Mai 2024, 19:00 (Am Ddim ar y Sul. £8 (£4 i Blant tan 12) Nos Lun)
GWYL CALAN MAI – Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel-ar-arth11.00 SUL 5/5 – Oedfa Flynyddol i’r Gymuned yng ngofal Coda Ni a’r Eglwys yng Nghymru – “Hoff yw’r …

Gŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

Hyd at 6 Mai 2024, 16:00 (Am ddim)
Mae criw o Aelodau Cynulliad Cymunedol Dyffryn Ogwen wedi bod wrthi’n galed yn trefnu Gŵyl Hinsawdd – un o’r syniadau yn y Cynllun Gweithredu Cymunedol.

Ffenast Siop (Theatr Bara Caws)

Hyd at 7 Mai 2024, 21:30 (£14)
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn …

Theatr Bara Caws yn cyflwyno Ffenast Siop

Hyd at 25 Mai 2024
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn …

Cyfarfod Cynllunio Yr Ardd

18:30 (Am ddim)
Cyfarfod Cynllunio Dydd Mawrth, Mai 7fed, 6.30 – 8yh Beth hoffech chi ei weld yn digwydd yn Yr Ardd? Allwch chi ein helpu gyda’n cynlluniwr plannu?

Cwis!

19:00
Cwis hwyliog yng nghwmni Idris Morris Jones a chyfarfod blynyddol (byr iawn) Yes Cymru Bro ffestiniog.

Llygod Bach yr Amgueddfa

Hyd at 10 Mai 2024, 12:15 (Am ddim)
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein grwp misol i blant o dan 5 oed.

ffenast siop

19:30
Theatr Bara Caws yn cyflwyno sioe gomedi un ddynes ‘Ffenast Siop’.

Sesiwn Greu

Hyd at 11 Mai 2024
Sesiwn greu gyda Stampwyr Eryri 2 le ar ôl2 spaces left Cyfle i ddysgu am amryw o dechnegau gwahanol e.e. stampio, blendio, die cutting, alcohol markers a mwy!

Ffair Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Glannau

Hyd at 11 Mai 2024, 16:00 (Am ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024

Hyd at 11 Mai 2024, 17:00 (Am ddim)
Mae gŵyl fwyd fwyaf Cymru yn ôl. Stondinau bwyd Cwrw lleol Cerddoriaeth fyw Ardal i’r Teulu Cynnyrch artisan Arddangosiadau coginio Bwyd Môr A MWY! Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Cerbydau Cymru

Hyd at 11 Mai 2024, 16:00 (Am ddim)
Bydd cerbydau o bob lliw a llun yn ymgasglu o gwmpas yr Amgueddfa i ddathlu eu hanes yng Nghymru. O feiciau modur, bysiau a thryciau i locomotif stêm anhygoel yr Amgueddfa.

Ffair Egin

12:00
Ffair Amgylcheddol Y Dref Werdd

Sibrydwyr Cymraeg

19:00 (£5)
Dewch ynghyd a gwrandewch ar STRAEON a chwedleu traddodiadol Gwynedd, yn cael eu hadrodd gan griw o storiwyr y Ddraig ei hun. Cyflwynir gan y storiwr meistr Daniel Morden.

Côr-tastig

19:30 (£10 i oedolion a plant am ddim)
Cystadleuaeth Gorawl ysgafn yn y Moody Cow, Llwyncelyn. Oedolion £10. Plant am ddim. Tocynnau ar gael o Theatr Felinfach. Elw tuag at Ganolfan Therapi Ocsigen Aberteifi.

Cystadleuaeth Côr-tastig 2024

Hyd at 11 Mai 2024, 23:00 (£10)
Nos Sadwrn yma bydd Côr Cardi-Gân yn cynnal Cystadleuaeth Côr-tastig yn y Moody Cow yn Llwyncelyn.

Taith Gerdded noddedig Cymorth Cristnogol wedi ei threfnu gan Gapeli Undodiaid Aeron Teifi

Hyd at 12 Mai 2024 (Rhoddion tuag at waith elusen Cymorth Cristnogol)
Taith Gerdded noddedig wedi ei threfnu gan Gapeli Undodiaid Aeron Teifi. Ceir ychwaneg o fanylion ar eu tudalen Facebook: www.facebook.com/UndodiaidAT/

Ffair Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Glannau

Hyd at 12 Mai 2024, 16:00 (Am ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gwasanaeth Cymorth Cristnogol a Chinio Bara a Chaws

10:30
Gwasanaeth arbennig ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol, a chinio Bara a Chaws i ddilyn – casgliad tuag at Gymorth Cristnogol

Oedfa Wythnos Cymorth Cristnogol Pwyllgor Llanbed a’r Cylch

Hyd at 12 Mai 2024, 12:00 (Rhoddion at waith elusen Cymorth Cristnogol)
Oedfa (yn Saesneg) gyda chyfle wedi’r oedfa i gymdeithasu yn mwynhau paned a croissants gyda’r casgliad er budd Cymorth Cristnogol.

Pedwarawd Llinynnol

11:30
Perfformiad am ddim yng nghalon y gymuned! Mae Sinfonia Cymru’n angerddol am wneud cerddoriaeth safonol yn hygyrch i bawb yng Nghymru

Gŵyl Cymru-Llydaw

Hyd at 18 Mai 2024 (am ddim)
13/05 19:30 Bank Vaults Aberystwyth Noson Ffilm ‘An alc’hwez aour’ Mikael Baudu+ trafodaeth ymgyrchu iaith Llydaweg dan arweiniaeth Gwenole Cornec.

Bore Coffi Cymorth Cristnogol

Hyd at 13 Mai 2024, 12:00 (Am ddim)
Cacennau Pethau newydd Planhigion Raffl Yr elw tuag at Gymorth Cristnogol.

Bore Coffi Cymorth Cristnogol drefnir gan Eglwysi Plwyf Pencarreg a Chapel Bethel, Parc-y-rhos.

Hyd at 13 Mai 2024, 12:00 (Rhoddion tua at waith elusen Cymorth Cristnogol)
Bore Coffi drefnir gan Eglwysi Plwyf Pencarreg a Chapel Bethel, Parc-y-rhos. Cynhelir raffl a bydd stondinau yn gwerthu cacennau, nwyddau a phlanhigion.

Taith Gerdded noddedig Cymorth Cristnogol – WEDI’I GOHURIO

17:30 (Rhoddion tua at waith elusen Cymorth Cristnogol)
GOHURIWYD OHERWYDD Y GLAW Taith Gerdded noddedig hamddenol o tua 5 millitr drefnwyd gan Bedyddwyr Cylch Gogledd Teifi.

Map Dwfn Dyffryn Nantlle

18:00
Sgennych chi stori i rannu am Ddyffryn Nantlle? Lle mae eich hoff lle yn yr ardal? Sut mae llefydd wedi newid.

Dysgu Nyddu

Hyd at 14 Mai 2024, 12:00 (Am ddim)
Rhowch gynnig ar ddysgu nyddu yn yr Amgueddfa!   Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd angen i chi archebu tocyn. 

Bore Coffi Cymunedau Cynaliadwy

Hyd at 14 Mai 2024, 13:00
Cyfres o foreau coffi am ddim i gwrdd â phobl eich ardal leol, sgwrsio dros ddiod poeth ac ymuno mewn gweithgareddau!  Dewch yn llu!

Ffair Recordiau

10:00 (Am Ddim)
Ffair Recordiau Canolfan y Morlan, Aberystwyth, SY23 2HH Dydd Sadwrn Mai 18fed, 10:00-3:30 Recordiau o bob math o Gymru ac yn Rhyngwladol Croeso cynnes i bawb

Aduniad GwyrddNi

18:30 (Am ddim)
Noson i sgwrsio, rhannu straeon, rhannu llwyddiannau a chynllunio mwy o weithgarwch mudiad GwyrddNi yn ardal Dyffryn Peris.