calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 18 Ionawr 2025

Gŵyl y Felinheli

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 17:00 (Amrywiol)
Mae Gŵyl y Felinheli’n ôl! 9 diwrnod o weithgareddau i’r teulu cyfan ar lannau’r Fenai, yn cynnwys mwy o weithgareddau i blant nag erioed o’r blaen.

Carnifal Llandysul a Phont-Tyweli 2024

Hyd at 6 Gorffennaf 2024
Mae wythnos y Carnifal yn dechrau ar ddydd Sul y 30ain o Fehefin, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau yn arwain at ddiwrnod y Carnifal, sydd yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 6ed o Orffennaf yn …

Bore Cymdeithasol (Bingo)

Hyd at 2 Gorffennaf 2024, 12:30 (Am ddim)
Bore cymdeithasol lle bydd cyfle i ymuno ar sesiwn bingo rhwng 10:15-11am. Neu os yw’n well gennych chi eistedd a sgwrsio, bydd lluniaeth ysgafn ar gael rhwng 11 a 12:30 i bawb eu mwynhau!

Dewch i Ganu!

11:00 (Am ddim)
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu.

Dylan a Neil adra yn Felin

14:00 (Am ddim)
Dewch draw i Shed i gael eich diddanu gan Dylan a Neil yn canu o flaen eu cyneulleidfa lleol yn Y Felinheli. Canu gwlad, panad a raffl.

10K Y Felinheli

17:45 (£17.00)
Un o rasys 10K mwyaf heriol Gogledd Cymru. Cofrestru Mae cofrestru’n dechrau am 5.45pm ar Ffordd Lan y Môr, Y Felinheli. Mae rhifau’n cael eu rhoi ar y noson o’r man cofrestru.

Ffair Haf 

Hyd at 4 Gorffennaf 2024, 20:00 (Byrgyrs a cŵn poeth ar werth!)
Dewch draw am noson o hwyl! Bwyd, paned, gemau a castell bownsio i’r plant bach! Geam golff a llawer mwy! 

Ffair Haf 

Hyd at 4 Gorffennaf 2024, 20:30 (Am ddim)
Ewch draw i Ffair Haf ysgol OMEdwards, stondinau a byrger, cwn poeth, te a choffi. 

Gwibdaith Gwybodaeth Dementia Gwynedd

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 14:00 (Am ddim)
Mae sawl mudiad sy’n gweithio o fewn y maes am fod yn bresennol gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, Cynnal Gofalwyr, Dementia Actif Gwynedd, Y Gymdeithas Alzheimer’s, Cyngor Gwynedd, …

“Brangwyn Y Gwneuthurwr Printiau” Darlith gan Jeremy Yates

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 16:00 (Am Ddim)
I cyd fynd hefo arddangosfa MEWN PRINT: SYR FRANK BRANGWYN RA (1867 – 1956) bydd cyfres o dair darlith fydd yn rhoi golwg manwl ar fywyd a gwaith y dyluniwr Frank Brangwyn.

Paentio ar y Cyd Haf

19:00 (£25 yp neu ddau ar gyfer £45)
Rydyn ni wrth ein boddau o’n partneriaeth â The Paint Along Lady ac o gyflwyno’r digwyddiad Hwyrnos arbennig hwn.

Cerdd Llambed: Cyngerdd Cerddorion Ifanc Dyfed

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 21:00 (Am ddim: croesewir rhoddion)
Mae Cerddorion Ifanc Dyfed yn elusen sy’n annog pobl ifanc i berfformio neu gyfansoddi cerddoriaeth – neu’r ddau! Maen nhw’n trefnu cystadleuaeth blynyddol Cerddor Ifanc Dyfed.

CELAVI gyda gwestai arbennig Leatherback a Maines

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 23:00 (Am ddim)
MERAKI yn cyflwyno noson o fiwsig mawr! CELAVI (cefnogwyd gan BBC Radio 1) Band lleol o Fangor – Metal | nu-metal | goth  Leatherback  Industrial | Metal Maines Post punc | Post roc 

Mynediad am Ddim yn dathlu y 50

19:30 (£15)
Mae Mynediad am Ddim yn dathlu 50 mlynedd  eleni! ‘Hanner canfed Mynediad O adael hwyl hyd y wlad’. Ymunwch â’r parti yn y Bala!

Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan

(£10 (£2 dan 14 oed))
Trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan.

Sioe Amaethyddol Llanbed

09:00 (£10 / £2 i blant dan 14 (arian parod yn unig))
Cynhelir Sioe Amaethyddol Llanbed ar y 06/07/2024 ar gaeau Pontfaen, Llambed drwy ganiatad Mr a Mrs Aeron Hughes, Pontfaen. Diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan. Croeso cynnes i bawb! 

Printio Botaneg

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 16:00 (£80 | £65 Gostyngiad)
Dewch i ddysgu am fyd printio botaneg lle caiff lluniau o ddail a blodau eu creu drwy ddefnyddio lliwiau naturiol y planhigion eu hunain.  Byddan nhw’n cael eu gosod ar bapur neu ddefnydd cyn cael …

Gweithdy Crefft Hannah Coates Shea

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 13:00 (Am Ddim)
Ymunwch a ni yn Storiel am weithdy creadigol  gyda’r artist Hannah Coates Shea wrth iddi ymateb i waith arddangosfa KIM ATKINSON AND NOËLLE GRIFFITHS, Gardd Mwsog .

Gŵyl Canol Dre

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 21:00 (Am ddim)
Bydd ein gŵyl Gymraeg yng Nghaerfyrddin, Gŵyl Canol Dre yn ei ôl eleni eto! Cynhelir yr ŵyl ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin ar y 6ed o Orffennaf!

Gig Canol Dre

21:00 (£5)
Ar nos Sadwrn y 6ed o Orffennaf yn dilyn Gŵyl Canol Dre, cynhelir Gig Canol Dre yn Cwrw, Heol y Brenin, Caerfyrddin. Yno bydd Eadyth a Dadleoli’n diddanu.

Dangosiad o raglen ddogfen ‘Dyddiau Dyn – Newid Tŷ’

Hyd at 7 Gorffennaf 2024, 16:00
Bydd rhaglen ddogfen hynod ddifyr o’r enw ‘Dyddiau Dyn – Newid Tŷ’ (S4C) o 1988 sydd yn cofnodi’r adfer sylweddol a fu yn Tŷ Mawr Wybrnant yn cael ei ddangos ar y safle.

Sesiwn Stori

10:30 (Am ddim)
Canu, stori, cymdeithasu, ymlacio a mwynhau! Ymunwch gyda ni yn y sesiwn stori yma yn Llyfrgell Caerfyrddin. Cysylltwch gyda mari@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Gwyrfai Gwyrdd

Hyd at 8 Gorffennaf 2024, 19:30
Gwyrfai Gwyrdd – sesiwn taro heibio yn y Cwellyn Arms 4.00pm – 7.30pm nos Lun 8fed Gorffennaf. Dewch i ddeall rhagor a cyfrannu eich syniadau. YN POENI AM EICH BILIAU YNNI?

Taith Gerdded Llyn y Gadair

18:00
Mae taith gerdded Llyn y Gadair wedi cael ei aildrefnu ar gyfer dydd Llun 8fed o Orffennaf.

Bore Cymdeithasol (Cymru Gynnes)

Hyd at 9 Gorffennaf 2024, 12:30 (Am ddim)
Bore cymdeithasol lle bydd cyfle i ymuno ar sesiwn gydag Aled o ‘Cymru Gynnes’ i ddysgu mwy am ei gwaith, a sut i leihau biliau ynni rhwng 10:15-11am.

Gwyrfai Gwyrdd – sesiwn taro heibio Waunfawr

Hyd at 9 Gorffennaf 2024, 19:30
Gwyrfai Gwyrdd – menter ynni cymunedol newydd. Dewch i’n gweld ni i deall rhagor a chyfrannu. Sesiwn taro heibio yn y Ganolfan, Waunfawr rhwng 4.00pm a 7.30pm. POENI AM EICH BILIAU YNNI?

Gyrfa Chwist

Hyd at 9 Gorffennaf 2024, 21:00
Croeso i bawb

Gwyrfai Gwyrdd – sesiwn taro heibio Caeathro

Hyd at 10 Gorffennaf 2024, 19:30
Sesiwn Taro Heibio i ddeall rhagor am Gwyrfai Gwyrdd a chyfrannu eich syniadau. POENI AM EICH BILIAU YNNI? PENDRONI AM NEWID HINSAWDD? CREDU MEWN CYDWEITHIO CYMUNEDOL I NEWID PETHAU ER GWELL?

Lansiad | Cofio Dai – gol. Beti Griffiths

19:00
Noson o adloniant i ddathlu a chofio Dai Jones Llanilar gyda John Davies Cwmbetws yn llywio’r noson. Adloniant yng nghwmni Aled Wyn Davies, Ifan Tregaron, Linda Griffiths, Nest Jenkins a mwy!

Sesiwn Stori

13:30 (Am ddim)
Canu, stori, cymdeithasu, ymlacio a mwynhau! Ymunwch gyda ni yn y sesiwn stori yma yn Y Llyfrgell yn Y Gât yn San Clêr. Cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Clwb Comedi Gorffennaf

20:00 (£10.50 / £8.50)
Ymunwch â tri comedïwr yn ein Stiwdio am noson wych o gomedi!

Dragwyl

Hyd at 11 Gorffennaf 2024, 22:30 (£15 / £12)
Ydyn, maen nhw nôl!

CreAdiGol – Gweithdai amrywiol yng Nghanolfan Arad Goch

09:30 (£100 y plentyn / £90 y pen am blant o’r un teulu)
Ydych chi ym mlwyddyn 2-6, ac yn chwilio am rywbeth creadigol a chyffrous i wneud yn y Gymraeg yn ystod gwyliau’r Haf? 30/07/24 i 02/08/2024 9:30 – 3:30 £100 y plentyn neu £90 y pen am blant …