calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 26 Ebrill 2024

TALWRN Y BEIRDD

18:30 (Am ddim)
Y Talwrn Yn recordio rowndiau cyn-derfynol 45 Tocynnau ar gael AM DDIM i’r cyhoedd Yn Y Stiwdio, Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth ar Orffennaf 6ed.  

Peint a Sgwrs

Hyd at 6 Gorffennaf 2022, 21:00 (Am ddim)
Cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg ac i bawb sy’n siarad Cymraeg helpu. Jyst dewch am sgwrs dros beint!

DyffrynNantlle360: galw am gefnogaeth

19:30
Ydych chi eisiau gweld darpariaeth DyffrynNantlle360 yn parhau? Ymunwch â ni i drafod dyfodol ein gwefan straeon lleol. zoom: 732 024 4782 | DN360

Dangos cynlluniau newydd i’r Vale

19:30
Sut gallwn ni ddatblygu’r dafarn i fod yn fwy hygyrch? Sut gall yr adeilad fod yn gynaliadwy? Sut gallwn ni ddefnyddio’r lle i redeg busnes llewyrchus?

Cofi’n Creu Busnes! Oed 15-18

Hyd at 7 Gorffennaf 2022, 16:00 (Am Ddim)
Wedi gorffen dy TGAU neu Lefel A a hefo diddordeb cychwyn busnes ?? Eisiau gwella dy sgiliau cyn y 6ed dosbarth neu Prif Ysgol ? ? Mae gennym ni’r digwyddiad perffaith i ti!

Mwy o Amser yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Hyd at 7 Gorffennaf 2022, 21:00 (Am ddim)
Dewch i fwynhau ac archwilio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod ein horiau agor estynedig nos Iau cyntaf bob mis.

Noson cwis

19:30
Y noson cwis cyntaf yn y Vale ers ailagor. Tybed a fydd yn troi’n ddigwyddiad misol? Timau o 4 – croeso i bawb

Dathlu Dau

19:30
Noson i ddathlu llwyddiant dau o bobol ifanc Llanwnnen yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dyddiau Dawns

Hyd at 10 Gorffennaf 2022, 17:00 (Am Ddim)
Mwynhewch ŵyl ddawns flynyddol Abertawe, sydd yn rhad ac am ddim i’w fwynhau, yr haf hwn wrth i Taliesin ddod â pherfformwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt, ynghyd â grwpiau dawns lleol, ynghyd yn yr …

Gŵyl Canol Dre

Hyd at 9 Gorffennaf 2022, 20:00 (Am ddim)
Mae’r ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant i bobl o Sir Gâr a thu hwnt wrth gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth byw, chwaraeon, …

Arddangosfa Ogwyn Davies

Hyd at 12 Medi 2022, 10:00 (Am ddim)
Ganwyd Ogwyn Davies ym 1925 yn Nhrebannos yng nghwm Tawe, lle datblygodd ddiddordeb brwd mewn arlunio, bod yn greadigol ac ymarfer llawysgrifen gain.

‘Nabod Nant y Moch

05:30
Dewch yn llu i noson llawn dop yng nghwmni disgyblion ysgol Syr John Rhys, Dafydd Morgan a Chôr Meibion y Mynydd.  Digon o hwyl i ddiddanu’r teulu cyfan.

Gwledda – garddio, barddoni a storïau gyda Hywel Griffiths a Ceri Phillip

Hyd at 12 Gorffennaf 2022, 13:00 (Am ddim)
Dewch i Ganolfan y Creuddyn dydd Mawrth 12fed Gorffennaf rhwng 10.00 ac 1.00 ar gyfer Sesiwn Arddio, Barddoni a Storïau gyda’r bardd Hywel Griffiths a’r chwedleuwr Ceri Phillip.

Sesiwn Sefydlu Gwefan Fro Dyffryn Aeron

Hyd at 13 Gorffennaf 2022, 20:00
 ❗ SEFYDLU GWEFAN FRO DYFFRYN AERON ❗ Mae cyfle wedi codi i Ddyffryn Aeron ymuno â rhwydwaith gwefannau Bro360.

Noson Agored Ysgol Pontrhydfendigaid

05:30
Noson agored Ysgol Gymunedol Pontrhydfendigaid! Croeso i bawb, rhieni hen a newydd a ffrindiau’r ysgol.

Noson Agored Ysgol Pontrhydfendigaid

05:30
Dewch i weld yr ysgol ar ei newydd wedd! Croeso cynnes i bawb, rhieni hen a newydd, ffrindiau’r ysgol a phawb yn y gymuned.

Taith gerdded i ymarfer Cymraeg

Hyd at 13 Gorffennaf 2022, 17:30
Tyrd am dro i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg. Mi fydd Dei Fôn yn mynd a ni am gylchdaith (tour) o amgylch ardal Bethesda.

Cofi’n Creu Busnes! Oed 18-25

Hyd at 14 Gorffennaf 2022, 16:00 (Am Ddim)
Hei chdi! Eisiau parhau gyda phrosiect o’r 6ed ddosbarth neu brifysgol, neu efallai creu un newydd ??

Lansiad I’r Hen Blant Bach gan Heiddwen Tomos

19:00 (Am ddim)
Dewch i ddathlu lansiad nofel newydd Heiddwen Tomos, I’r Hen Blant Bach. Dylan Iorwerth fydd yn holi Heiddwen – bydd yna ddarlleniadau a chopiau ar werth gan Siop y Smotyn Du.

Y Garth Newydd – Prynhawn Agored 16/07/2022 – 4.00-7.00

Hyd at 16 Gorffennaf 2022, 19:00 (Am ddim)
Dewch i’r Garth Newydd, Llanbed i weld datblygiad y ganolfan newydd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Cynhelir prynhawn agored Sadwrn 16eg Gorffennaf rhwng 4.00 a 7.00 o’r gloch.

Wonderfest 2022

Hyd at 17 Gorffennaf 2022, 16:00
Ar ddyd Sul 17 Gorffennaf, bydd Wonderfest yn cynnal gŵyl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.