Mae Sali’r Wylan wedi cuddio rhywbeth gwerthfawr yn yr Amgueddfa …alli di gasglu’r geiriau o’r llefydd ar y map a’u rhoi at ei gilydd i ddarganfod lle mae’r trysor?
Dyma gyfle i gymdathasu yn y Gymraeg a helpu i ddysgwyr Cymraeg groesi’r bont i fod yn siaradwyr hyderus. Dowch am sgwrs dros beint a hanesion difyr pobl.
Ysgol Berfformio Theatr Felinfach Sesiynau hwyl a chreadigol ar gyfer phobl ifanc ar ôl ysgol ar ddyddiau Iau. Hefyd yn gyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a theithiau amrywiol.
Ymunwch â ni yng ngardd gymunedol GRAFT ar 9 Medi fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan, am bryd o fwyd tymhorol wedi’i goginio yn ein popty tân coed a adeiladwyd gan y gymuned.
Croeso cynnes i aelodau presennol, cyn-aelodau, darpar aelodau a ffrindiau i fwynhau noson cymdeithasol i ddathlu llwyddiant C.Ff.I Felinfach yn 2021 Bydd bwyd ar gael ar y noson!
Agorir gan Ceris a Philip Lodwick. Cyfraniadau i gyd tuag at MacMillan gyda stondinau Sefydliad y Merched Coedmor fel raffl, llyfrau, tombola, planhigion,enwi’r ddraig a mwy.
Yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i lawer, mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 10 ac 11 Medi, gyda gwledd o gynhyrchwyr lleol, cerddoriaeth a hwyl …
Dewch i weld y Welsh Whisperer yn Llanbed. Diddanwr canu gwlad â chomedi a chyflwynydd radio a theledu o bentref Cwmfelin Mynach, ydy’r Welsh Whisperer.
Taith gerdded gyda Rhys Mwyn er mwyn casglu arian ar gyfer Eisteddfod Llýn ac Eifionydd 2023. Cychwyn o Neuadd Garmel am 1yp. £5 y pen £2 am baned a chacen yn y neuadd wedi’r daith.
Wyt ti rhwng 10-28 oed ac yn ffansio cwrdd â ffrindie newydd? Dysgu sgiliau newydd? Mynd ar dripiau? Chwarae chwaraeon? Gweithio fel tîm? A cael lot o chwerthin a sbort!
Ydych chi rhwng 10 a 28? Eisiau cwrdd â ffrindiau newydd a chael cyfleoedd unigryw i ddysgu sgiliau newydd? Wel ymunwch â CFfI Troedyraur! Ni’n cwrdd bob nos Lun am 7:30 yn Ysgol T Llew Jones …
Awydd ymuno â CFfI Pontsiân eleni? Os wyt ti rhwng 10 a 28 oed, dere i noson agoriadol y Clwb yn Neuadd D H Evans, Pontsiân ar nos Lun, 12 Medi. Croeso i bawb!
Bydd Clwb Gwawr Cylch Cennin yn ail gychwyn Nos Fawrth 13 Medi gyda helfa drysor ar droed yn Llanon. Cwrdd tu fas tafarn y Swan am 6.30 yh. Bwyd i ddilyn yn y Swan.
Hwyl a Hamdden Dyma gyfle i unigolion dros 50 i gymdeithasu bob prynhawn Mercher rhwng 1:30-3:30yp gyda sesiynau yn amrywio o siaradwyr gwadd, gweithgareddau a theithiau.
Sesiwn galw heibio5-7pmGalwch heibio i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud i warchod treftadaeth y Carneddau, ein cynlluniau i’r dyfodol a sut y gallwch chi gymryd rhan.