calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 18 Hydref 2024

Gŵyl y Felinheli

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 17:00 (Amrywiol)
Mae Gŵyl y Felinheli’n ôl! 9 diwrnod o weithgareddau i’r teulu cyfan ar lannau’r Fenai, yn cynnwys mwy o weithgareddau i blant nag erioed o’r blaen.

Carnifal Llandysul a Phont-Tyweli 2024

Hyd at 6 Gorffennaf 2024
Mae wythnos y Carnifal yn dechrau ar ddydd Sul y 30ain o Fehefin, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau yn arwain at ddiwrnod y Carnifal, sydd yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 6ed o Orffennaf yn …

Gwibdaith Gwybodaeth Dementia Gwynedd

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 14:00 (Am ddim)
Mae sawl mudiad sy’n gweithio o fewn y maes am fod yn bresennol gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, Cynnal Gofalwyr, Dementia Actif Gwynedd, Y Gymdeithas Alzheimer’s, Cyngor Gwynedd, …

“Brangwyn Y Gwneuthurwr Printiau” Darlith gan Jeremy Yates

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 16:00 (Am Ddim)
I cyd fynd hefo arddangosfa MEWN PRINT: SYR FRANK BRANGWYN RA (1867 – 1956) bydd cyfres o dair darlith fydd yn rhoi golwg manwl ar fywyd a gwaith y dyluniwr Frank Brangwyn.

Paentio ar y Cyd Haf

19:00 (£25 yp neu ddau ar gyfer £45)
Rydyn ni wrth ein boddau o’n partneriaeth â The Paint Along Lady ac o gyflwyno’r digwyddiad Hwyrnos arbennig hwn.

Cerdd Llambed: Cyngerdd Cerddorion Ifanc Dyfed

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 21:00 (Am ddim: croesewir rhoddion)
Mae Cerddorion Ifanc Dyfed yn elusen sy’n annog pobl ifanc i berfformio neu gyfansoddi cerddoriaeth – neu’r ddau! Maen nhw’n trefnu cystadleuaeth blynyddol Cerddor Ifanc Dyfed.

CELAVI gyda gwestai arbennig Leatherback a Maines

Hyd at 5 Gorffennaf 2024, 23:00 (Am ddim)
MERAKI yn cyflwyno noson o fiwsig mawr! CELAVI (cefnogwyd gan BBC Radio 1) Band lleol o Fangor – Metal | nu-metal | goth  Leatherback  Industrial | Metal Maines Post punc | Post roc 

Mynediad am Ddim yn dathlu y 50

19:30 (£15)
Mae Mynediad am Ddim yn dathlu 50 mlynedd  eleni! ‘Hanner canfed Mynediad O adael hwyl hyd y wlad’. Ymunwch â’r parti yn y Bala!

Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan

(£10 (£2 dan 14 oed))
Trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan.

Sioe Amaethyddol Llanbed

09:00 (£10 / £2 i blant dan 14 (arian parod yn unig))
Cynhelir Sioe Amaethyddol Llanbed ar y 06/07/2024 ar gaeau Pontfaen, Llambed drwy ganiatad Mr a Mrs Aeron Hughes, Pontfaen. Diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan. Croeso cynnes i bawb! 

Printio Botaneg

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 16:00 (£80 | £65 Gostyngiad)
Dewch i ddysgu am fyd printio botaneg lle caiff lluniau o ddail a blodau eu creu drwy ddefnyddio lliwiau naturiol y planhigion eu hunain.  Byddan nhw’n cael eu gosod ar bapur neu ddefnydd cyn cael …

Gweithdy Crefft Hannah Coates Shea

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 13:00 (Am Ddim)
Ymunwch a ni yn Storiel am weithdy creadigol  gyda’r artist Hannah Coates Shea wrth iddi ymateb i waith arddangosfa KIM ATKINSON AND NOËLLE GRIFFITHS, Gardd Mwsog .

Gŵyl Canol Dre

Hyd at 6 Gorffennaf 2024, 21:00 (Am ddim)
Bydd ein gŵyl Gymraeg yng Nghaerfyrddin, Gŵyl Canol Dre yn ei ôl eleni eto! Cynhelir yr ŵyl ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin ar y 6ed o Orffennaf!

Gig Canol Dre

21:00 (£5)
Ar nos Sadwrn y 6ed o Orffennaf yn dilyn Gŵyl Canol Dre, cynhelir Gig Canol Dre yn Cwrw, Heol y Brenin, Caerfyrddin. Yno bydd Eadyth a Dadleoli’n diddanu.

Dangosiad o raglen ddogfen ‘Dyddiau Dyn – Newid Tŷ’

Hyd at 7 Gorffennaf 2024, 16:00
Bydd rhaglen ddogfen hynod ddifyr o’r enw ‘Dyddiau Dyn – Newid Tŷ’ (S4C) o 1988 sydd yn cofnodi’r adfer sylweddol a fu yn Tŷ Mawr Wybrnant yn cael ei ddangos ar y safle.

Sesiwn Stori

10:30 (Am ddim)
Canu, stori, cymdeithasu, ymlacio a mwynhau! Ymunwch gyda ni yn y sesiwn stori yma yn Llyfrgell Caerfyrddin. Cysylltwch gyda mari@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Gwyrfai Gwyrdd

Hyd at 8 Gorffennaf 2024, 19:30
Gwyrfai Gwyrdd – sesiwn taro heibio yn y Cwellyn Arms 4.00pm – 7.30pm nos Lun 8fed Gorffennaf. Dewch i ddeall rhagor a cyfrannu eich syniadau. YN POENI AM EICH BILIAU YNNI?

Taith Gerdded Llyn y Gadair

18:00
Mae taith gerdded Llyn y Gadair wedi cael ei aildrefnu ar gyfer dydd Llun 8fed o Orffennaf.

Bore Cymdeithasol (Cymru Gynnes)

Hyd at 9 Gorffennaf 2024, 12:30 (Am ddim)
Bore cymdeithasol lle bydd cyfle i ymuno ar sesiwn gydag Aled o ‘Cymru Gynnes’ i ddysgu mwy am ei gwaith, a sut i leihau biliau ynni rhwng 10:15-11am.

Gwyrfai Gwyrdd – sesiwn taro heibio Waunfawr

Hyd at 9 Gorffennaf 2024, 19:30
Gwyrfai Gwyrdd – menter ynni cymunedol newydd. Dewch i’n gweld ni i deall rhagor a chyfrannu. Sesiwn taro heibio yn y Ganolfan, Waunfawr rhwng 4.00pm a 7.30pm. POENI AM EICH BILIAU YNNI?

Gyrfa Chwist

Hyd at 9 Gorffennaf 2024, 21:00
Croeso i bawb

Gwyrfai Gwyrdd – sesiwn taro heibio Caeathro

Hyd at 10 Gorffennaf 2024, 19:30
Sesiwn Taro Heibio i ddeall rhagor am Gwyrfai Gwyrdd a chyfrannu eich syniadau. POENI AM EICH BILIAU YNNI? PENDRONI AM NEWID HINSAWDD? CREDU MEWN CYDWEITHIO CYMUNEDOL I NEWID PETHAU ER GWELL?

Lansiad | Cofio Dai – gol. Beti Griffiths

19:00
Noson o adloniant i ddathlu a chofio Dai Jones Llanilar gyda John Davies Cwmbetws yn llywio’r noson. Adloniant yng nghwmni Aled Wyn Davies, Ifan Tregaron, Linda Griffiths, Nest Jenkins a mwy!

Sesiwn Stori

13:30 (Am ddim)
Canu, stori, cymdeithasu, ymlacio a mwynhau! Ymunwch gyda ni yn y sesiwn stori yma yn Y Llyfrgell yn Y Gât yn San Clêr. Cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.

Clwb Comedi Gorffennaf

20:00 (£10.50 / £8.50)
Ymunwch â tri comedïwr yn ein Stiwdio am noson wych o gomedi!

Dragwyl

Hyd at 11 Gorffennaf 2024, 22:30 (£15 / £12)
Ydyn, maen nhw nôl!

Cyngerdd Hirddydd Haf

Hyd at 12 Gorffennaf 2024 (£12)
Dewch i fwynhau noson o gerddoriaeth amrywiol fydd at ddant pawb gyda Chantorion Sirenian o dan arweiniad Jean Stanley Jones MBE.

Llygod Bach yr Amgueddfa – Ar Lan Y Mor

Hyd at 12 Gorffennaf 2024, 12:15 (Am ddim)
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein grwp misol i blant o dan 5 oed.

Croesi Ffiniau

19:00 (£5-£23)
Cymerwch sedd ac ymunwch â Cherddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus wrth iddynt gychwyn ar daith gyffrous trwy rai o gampweithiau gorau Canol Ewrop, gan ddechrau gyda’r Agorawd …

Drama Kate gan Mewn Cymeriad

19:00 (£12 oedolyn £8 plentyn)
Drama un person yn olrhain hanes brenhines ein llên, Kate Roberts. Dewch yn llu – mae’n argoeli i fod yn noson wych. 

Stagegoat Theatre – Sleeping Beauty

Hyd at 13 Gorffennaf 2024, 19:30 (Plant £5; Oedolion £10)
Cwmni Theatr Stage Goat yn cyflwyno addasid unigryw o Sleeping Beauty, y clasur gan Brothers Grim.

Marchnad Ogwen

Hyd at 13 Gorffennaf 2024, 13:00
Bwydydd a chrefftau lleol

Marchnad Llambed

Hyd at 13 Gorffennaf 2024, 13:00 (Am ddim, gan gynnwys parcio ar a campws)
Bydd Marchnad Llambed ar campws Llanbedr PS fel arfer bore Sadwrn yma – rhestr gyflawn o fasnachwyr yw ar y tudalen ddigwyddiad Facebook.

Gŵyl Archaeoleg: Diwrnod Allan yn y Farchnad Rufeinig

Hyd at 13 Gorffennaf 2024, 16:00 (Am ddim)
Dewch i ddathlu’r Wŷl Archaeoleg ac ymunwch â ni am ddiwrnod allan mewn marchnad Rufeinig.

Eisteddfod Gadeiriol Bodffordd

11:00
Diwrnod difyr o gystadlu a dathlu doniau.  Mwy o fanylion i ddilyn. 

Wonderfest!

Hyd at 13 Gorffennaf 2024, 15:00 (Am ddim)
Ymunwch â Platfform ar gyfer Wonderfest! – gŵyl flynyddol yn llawn gweithgareddau a gweithdai i bobl ifanc 13+, rhieni a gweithwyr proffesiynol i hybu lles.

AR (AG)OR …. Inois ar agor sesiwn 1

Hyd at 13 Gorffennaf 2024, 15:00 (Am Ddim)
Cyfres o 6 stiwdio agored misol i bobl ifanc ac artistiad lleol fydd yn cael ei gynal gan Hedydd Ioan (SKYLRK) Cyfle i ddysgu, rhannu a chreu diwylliant y dyfodol .

Carnifal Dihewyd

13:30
Cynhelir Carnifal Dihewyd ar gae chwarae’r Neuadd Bentref ar ddydd Sadwrn 13eg o Orffennaf am 1.30 o’r gloch. Y llywyddion eleni fydd Wyn a Jessica Thomas.

Noson Gomedi gyda Ignacio Lopez, Josh Elton ac Antoinette Keane (MC)

20:00
Ymunwch â seren “Live At The Apollo”, “Have I Got News For You”, “Comedy Central” a mwy, am ymchwiliad rhyfeddol o ddoniol o ffaeleddau, dirywiaeth a hunanwellhad

Cerys Hafana

19:00
Cyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo ac yn trawsnewid cerddoriaeth draddodiadol ac yn archwilio posibiliadau creadigol a rhinweddau unigryw’r delyn deires.