calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 20 Mai 2024

Cystadlaethau Eisteddfod Capel y Groes

Hyd at 1 Gorffennaf 2022
Mae Eisteddfod Capel y Groes yn cynnal dwy gystadleuaeth arbennig iawn fydd yn cael eu gwobrwyo ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. – Cystadleuaeth y Gadair dan 21 oed.

Tosh (PG)

18:30 (£6.50 i oedolion, £5 i blant a phensiynwyr)
Ffilm ddogfen newydd sbon sy’n dilyn taith tîm Abertawe o waelod y bedwaredd adran i frig yr adran gyntaf o dan John Toshack.

Peint a clonc i ddysgwyr, a harddu Dyffryn Aeron

19:00
Cyfle i ddysgwyr ddod am glonc (a pheint!) i ddysgu bach o Gymraeg wrth joio… A chyfle hefyd i bawb ddod i harddu’r dafarn a’r ardal, i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol.

Râs 10K Y Felinheli

19:15 (£17)
Mae râs flynyddol y Felinheli yn ôl! Mae’r ras yn dechrau ac yn gorffen ar Ffordd Lan y Môr, Y Felinheli. Mae’n rhaid ichi gofrestru drwy ddilyn y ddolen isod.

Blasu Gwin

19:30
Noson o flasu gwin yn rhan o Ŵyl y Felinheli. Ffordd wych i dorri syched ar ôl y 10K!

Taith yr Henoed

09:00 (Am ddim)
Taith ddirgel i’r henoed. Tybed lle fydd y bys yn mynd â ni leni? Cychwyn am 9.00y.b. gyda lluniaeth i ddilyn yn y Marcî. Cofiwch archebu lle drwy gysylltu â Dylan 01248 671270.

Ffair Cynnyrch Lleol

17:00 (Am ddim)
Dewch i fwynhau gwledd o gynnyrch lleol, o fwyd a diod, i grefftau a nwyddau i’r tŷ.

A470: Poems for the Road / Cerddi’r Ffordd

19:00
Mae A470: Poems for the Road / Cerddi’r Ffordd yn gasgliad dwyieithog o gerddi newydd gan feirdd o Gymru  yn ymateb i’r ffordd 186 milltir o hyd sy’n rhedeg o un pen o’r wlad i’r llall – o arfordir …

Ras Cwmann

18:30
Rasus plant am 6.30Bydd medalau i bawb a gwobrau i gategoriau Bl 2 ac iau; bl 3&4; bl 5&6 ac Uwchradd Oedolion am 7.30 Gallwch gofrestru ar lein drwy fynd ar wefan Sarn Helen.

Noson Lawen

19:00 (£8)
Un o uchafbwyntiau Gŵyl y Felinheli bob blwyddyn, y Noson Lawen! Cofiwch brynu tocyn o flaen llaw.

Noson Gyhoeddi CRIBYN – BRO FY MEBYD

19:30 (Rhad ac am ddim)
Mae Wyndham Jones wedi hala blynyddoedd y lock-down yn cofio am gymeriadau lliwgar bro ei febyd ynghyd a ffordd dra wahanol o fyw cyfnod y 40au a’r 50au – sawl buwch godro oedd gan y …

Sioe Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan

10:00
Mae Pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanbed yn falch cyhoeddi bod y sioe yn cael ei chynnal ar Orffennaf 2il ac yn erfyn am gefnogaeth gan ei bod yn heriol i gael pawb nôl i gystadlu.

Carnifal

12:00 (Am ddim)
Pen llanw wythnos o weithgareddau Gŵyl y Felinheli yw diwrnod y Carnifal. 12.00: Ymgynnull yn Hen Gei Llechi12.30: Cychwyn yr orymdaith Band Porthaethwy Cystadleuaeth Gwisg Ffansi Bloc o Sŵn Gwydion …

Gŵyl Rhuthun

13:00
Adloniant byw gan gynnwys artistiaid fel Morgan Elwy, Band Pres Llareggub, Alys Williams a Dafydd Iwan a’r band.

Gêm cyn dymor Trearddur Bay v Nantlle Vale

14:30
Dewch i gefnogi’r hogiau yn eu gêm gyntaf o gemau cyn dymor. (Diolch yn fawr Hannah Gwenllian am y llun)

Cyfarfod arbennig dan arweiniad Mrs Elenid Jones, Caerdydd

14:00
Mae Mrs Elenid Jones, Caerdydd yn gyn swyddog Cymorth Cristnogol yng Nghymru.

Phyllis Kinney: 100

13:00 (£10)
Ymunwch â ni i ddathlu pen-blwydd Phyllis Kinney a aned ar y 4ydd o Orffennaf 1922.

Gwledda – gyda’r artist Carys Hedd

Hyd at 5 Gorffennaf 2022, 13:00 (Am ddim)
Dewch i Ganolfan y Creuddyn dydd Mawrth 5ed Gorffennaf rhwng 10.00 ac 1.00 ar gyfer Sesiwn Decstilau gyda’r artist Carys Hedd.

TALWRN Y BEIRDD

18:30 (Am ddim)
Y Talwrn Yn recordio rowndiau cyn-derfynol 45 Tocynnau ar gael AM DDIM i’r cyhoedd Yn Y Stiwdio, Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth ar Orffennaf 6ed.  

Peint a Sgwrs

Hyd at 6 Gorffennaf 2022, 21:00 (Am ddim)
Cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg ac i bawb sy’n siarad Cymraeg helpu. Jyst dewch am sgwrs dros beint!

DyffrynNantlle360: galw am gefnogaeth

19:30
Ydych chi eisiau gweld darpariaeth DyffrynNantlle360 yn parhau? Ymunwch â ni i drafod dyfodol ein gwefan straeon lleol. zoom: 732 024 4782 | DN360

Dangos cynlluniau newydd i’r Vale

19:30
Sut gallwn ni ddatblygu’r dafarn i fod yn fwy hygyrch? Sut gall yr adeilad fod yn gynaliadwy? Sut gallwn ni ddefnyddio’r lle i redeg busnes llewyrchus?

Cofi’n Creu Busnes! Oed 15-18

Hyd at 7 Gorffennaf 2022, 16:00 (Am Ddim)
Wedi gorffen dy TGAU neu Lefel A a hefo diddordeb cychwyn busnes ?? Eisiau gwella dy sgiliau cyn y 6ed dosbarth neu Prif Ysgol ? ? Mae gennym ni’r digwyddiad perffaith i ti!

Mwy o Amser yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Hyd at 7 Gorffennaf 2022, 21:00 (Am ddim)
Dewch i fwynhau ac archwilio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod ein horiau agor estynedig nos Iau cyntaf bob mis.

Noson cwis

19:30
Y noson cwis cyntaf yn y Vale ers ailagor. Tybed a fydd yn troi’n ddigwyddiad misol? Timau o 4 – croeso i bawb

Dathlu Dau

19:30
Noson i ddathlu llwyddiant dau o bobol ifanc Llanwnnen yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dyddiau Dawns

Hyd at 10 Gorffennaf 2022, 17:00 (Am Ddim)
Mwynhewch ŵyl ddawns flynyddol Abertawe, sydd yn rhad ac am ddim i’w fwynhau, yr haf hwn wrth i Taliesin ddod â pherfformwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt, ynghyd â grwpiau dawns lleol, ynghyd yn yr …

Gŵyl Canol Dre

Hyd at 9 Gorffennaf 2022, 20:00 (Am ddim)
Mae’r ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant i bobl o Sir Gâr a thu hwnt wrth gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth byw, chwaraeon, …