Fis cyn yr etholiad cyffredinol, bydd prosiect Fotio am Fory yn ôl er mwyn gweld sut gallwn ni, bobol leol, roi sylw i’r pynciau sy’n bwysig ar lawr gwlad.
Cynhelir taith gerdded ar hyd llwybrau Penygroes gan Llio, sy’n un o griw gwefan fro DyffrynNantlle360. Mae’r daith hon yn rhan o ddigwyddiadau Wythnos Newyddion Annibynnol.
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Caban Gerlan Nos Fawrth Mehefin y 4ydd am 7yh. Croeso cynnes i unrhyw un ymuno efo ni er mwyn cael gwybod mwy am beth sy’n digwydd yn y neuadd a rhannu eu syniadau.
I nodi Diwrnod Sant Tudno (Mehefin 5ed) bydd yr hanesydd Gareth Roberts o Menter Fachwen yn ein tywys o gwmpas y Gogarth, yn sôn am yr holl safleoedd hanesyddol (gan gynnwys Eglwys Sant Tudno) …
Mae Malu Awyr yn ddigwyddiad misol (nos Iau cyntaf pob mis) sy’n gyfle i siaradwyr Cymraeg o bob lefel ddod ynghyd i sgwrsio ac ymarfer dros ddiod. Y tro yma, bydd Cwis hwyliog hefyd!
Ar Fehefin 12fed byddwn yn dathlu Gwenllian – merch Llywelyn (tywysog olaf Cymru). Cafodd ei herwgipio yn faban a’i magu mewn lleiandy yn Sempringham, Lincolnshire.
Fel rhan o gyfres darlithoedd ystyron a a hanes enwau llefydd yn Eryri, bydd y Prifardd Ieuan Wyn yn trafod y tirweddau yn arddangosfa Arfordirol yr artist Huw Jones.
Cymunedoli yn cyflwyno … Gig Pys Melyn a DJ Melys yn Yr Orsaf, Penygroes. Nos Wener, 7fed o Fehefin 6:30pm Am ddim! Dewch â’ch diodydd eich hunain. Bydd diodydd meddal ar werth.
Cymunedoli yn cyflwyno … Gig Pys Melyn a DJ Melys Yr Orsaf, Penygroes. Nos Wener, 07/06/24 6:30pm Am ddim! Dewch â’ch diodydd eich hunain. Bydd diodydd ysgafn ar werth. Addas i bawb.
Nos Wener 7 Mehefin 7:30yh – Talwrn y Beirdd Mynediad: £5 Meuryn: Mererid Hopwood Tîmau Glannau Teifi v Crannog v Y Vale Nos Sadwrn 8 Mehefin 7:30yh – Noson Lawen Mynediad: Oedolion £10, …
Ymunwch â’r darlledwyr Huw Stephens a Georgia Ruth ar gyfer digwyddiad arbennig ar lyfr newydd Huw, Wales: 100 Records, sy’n dadansoddi gyrfaoedd artistiaid recordio pennaf Cymru – o Tom Jones i …
Diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan. Dewch i ddathlu gwaith 6 ysgol leol ar y thema Cynefin. Bydd perfformiadau gan y plant, Dafydd Iwan a’r Welsh Whisperer yn ystod y dydd.
Te Mefus wythnos gofalwyr. Galwch fewn i Canolfan Dementia Bangor, Safle Ardudwy, Ffordd Caergybi, Bangor am De Mefus. Rhagor o wybodaeth: gwenda@eryricoop.cymru 07999 453676
Dydd Mercher 12 Mehefin 18:30 – 19:30 Cyfnewidfa dillad a chyfwisgoedd Dewch â hyd at 6 eitem o ddillad glân o ansawdd da. Gollyngwch nhw i ffwrdd ar ôl cyrraedd.
Cyfnewidfa Dillad a Chyfwisgoedd Croeso cynnes i bawb Dewch â hyd at 6 eitem o ddillad glân o ansawdd da Gollyngwch nhw i ffwrdd ar ôl cyrraedd Ffasiwn newydd – wardrob newydd heb y gost!
Dewch i ddathlu cyhoeddiad hunangofiant creadigol newydd Iola Ynyr, Camu, gyda Mari Elen yn ei holi, Carys Gwilym yn darllen a Buddug yn perfformio. Croeso mawr i bawb!
Mae Pwyllgor Neuadd Llangeitho wedi trefnu perfformiad arbennig o Sioe ‘Annie Cwrt Mawr’ gan Gwmni Theatr Mewn Cymeriad i’w gynnal ar Nos Iau, Mehefin 13eg am 7yr hwyr.