calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 19 Mai 2024

Artistiaid Ifainc Cymru / Young Welsh Artists

Hyd at 28 Ionawr 2023
Ym mis Tachwedd 2022 bydd Artistiaid Ifainc Cymru – Young Welsh Artists yn dychwelyd i MOMA Machynlleth.

The Library Suicides… in conversation with Fflur Dafydd

19:00
Ymunwch â’r awdur a’r sgriptiwr arobryn Fflur Dafydd mewn trafodaeth gyda Alis Hawkins am ei nofel ddiweddaraf, stori gyffro sydd wedi’i osod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, THE LIBRARY SUICIDES.

Denbigh, Ruthin and Corwen Railway in the Vale of Clwyd

19:00 (am ddim)
Sgwrs ar-lein yn Saesneg gan Fiona Gale O’r 1860au hyd at yr 1960au gwasanaethwyd Dyffryn Clwyd gan reilffordd oedd yn cysylltu lein Dyffryn Dyfrdwy yn y de i’r ffordd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Cyngerdd Côr Pam Lai?

19:30
Noson o hwyl gyda pherfformiadau gan Gôr Pam Lai? ac eitemau unigol gan unigol gan aelodau Côr Pam Lai?

‘Gafel yn y Tir’ gan Lowri Jones

Hyd at 20 Ionawr 2023, 21:00
Sgwrs gan Lowri Jones, Pennaeth Datblygu a Phrosiectau Cwmni Golwg, i Gymdeithas Lenyddol y Garn

Clwb Canna yn cyflwyno Dafydd Iwan a gwesteion eraill

Hyd at 20 Ionawr 2023, 23:00 (£12 o flaen llaw neu £14 wrth y drws)
Gig arbennig, noson cyn EISTEDDFOD GADEIRIOL CAERDYDD 2023. Tocynnau ar werth yn Caban, Driftwood neu arlein – www.ticketsource.co.uk/ClwbCanna Mewn cydweithrediad a CRASP.

Canlyniadau’r Cyfrifiad – Ymateb Ceredigion

Hyd at 21 Ionawr 2023, 12:30
Bydd cyfle i bawb gyfrannu a thrafod beth ellid ei wneud yn lleol i ddiogelu’r Gymraeg a chymunedau Cymraeg gyda: Elin Jones, Llywydd y Senedd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones Dr Hywel Griffiths

Parêd a Thwmpath Dawns Santes Dwynwen

Hyd at 21 Ionawr 2023, 16:00 (Am ddim)
Beth?  Parêd a Thwmpath dawns Santes Dwynwen i ddathlu cariad o bob math – at bobl a’r byd Pryd? Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2023 – Pared 2pm a’r Twmpath yn syth wedyn Ble?

5k/10k Campau Caron

10:00 (£7 / £10)
Ras flynyddol 5k a 10k Campau Caron ar hen rheilffordd Cors Caron. 5km – 10yb = £7 10km – 11yb = £10 Cofrestru ar y dydd yn unig.

Gofod gwneud – noson agored (wedi gohirio)

Hyd at 23 Ionawr 2023, 20:00
Wedi gohirio – sesiynau nos Lun yn ailgychwyn o 30

Diwrnod Lles y Glannau

Hyd at 24 Ionawr 2023, 14:00 (Am ddim)
Ymunwch â ni am ein Diwrnod Lles y Glannau!   Sesiwn flasu AM DDIM gan gynnwys:  Yoga  Origami  Gweithdy DJ  Creu canhwyllau  Drymio  Tai Chi Celf a chrefft  Garddio  Siaradwyr gwadd Stondinau

Clwb Cynganeddu Caernarfon

20:00 (£2 at gostau'r ystafell)
Clwb Cynganeddu Caernarfon bob yn ail nos Fawrth yn lownj y Clwb Hwylio y noson gyntaf 8pm 24/1/23 arweinwyr amrywiol y pwyslais ar greu a thrafod croeso cynnes i bawb!* *Am yr ychydig wythnosau …

Taith gerdded ‘tyrd am dro yn dy fro’ – Llanberis

11:00 (Am ddim, ond £4 am bas i Lanberis yn y cerbyd cymunedol)
Dro bach arall hamddenol yn ein cyfres ‘Tyrd am dro yn ein bro’.

Tyrd am dro yn dy fro – Llanberis

11:00
Taith gerdded arall yn ein cyfres ‘Tyrd am dro yn dy fro’.

Lansiad Llyfr Tamboura

Hyd at 25 Ionawr 2023, 16:30
Digwyddiad Saesneg Croeso cynnes i bawb Bydd cyfle i ymuno yn rhithiol os dymunir Rhaid cysylltu â hazel.thomas@uwtsd.ac.uk ar gyfer derbyn y linc

Croeso Cynnes Garth Newydd

12:00 (Am ddim)
Bydd Garth Newydd yn agor ei drysau bob dydd Gwener o 12-3 pm fel man Croeso Cynnes yn Llanbed o ddydd Gwener yma ymlaen.

Ffair swyddi

Hyd at 27 Ionawr 2023, 17:00
Hoffi gweiithio efo pobl, eisiau gwneud gwahaniaeth a datblygu gyrfa?

Cyfres Caban 1

19:00 (Am ddim, ond croeso i chi roi punt neu ddwy os medrwch)
ADLONIANT; DIWYLLIANT; CHWYLDRO! YesCymru Bro Ffestiniog yn cyflwyno’r cyntaf mewn cyfres o nosweithiau yng nghaffi Antur Stiniog.

Gig Santes Dwynwen

19:30 (am ddim)
Cerddoriaeth fyw gan fand y Country Gents o Aberystwyth

Cleif Harpwood gyda Geraint Cynan

Hyd at 27 Ionawr 2023, 22:00 (£10)
Noson a drefnir gan Sesiwn Nos Wener Talybont

Padraig Jack & Gorllewinwynt

Hyd at 28 Ionawr 2023, 22:00 (£7.00)
Niwloedd amser, niwloedd y môr Fe ddaw dwy stori Geltaidd ynghyd mewn cymysgedd meddwol o ieithoedd, cerddoriaeth werin a chyfoes, celf fyw – a syndodau dramatig.

Taith meddylgarwch Cwm Idwal

09:30 (Am ddim)
Cyfle i brofi cysylltiad dwfn â natur a’ch amgylchoedd trwy ymuno â thaith meddylgarwch yng Nghwm Idwal.