calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 4 Mai 2024

BBC 100 yng Nghymru

Hyd at 16 Ebrill 2023, 17:00 (Archebwch docyn am ddim ymlaen llaw)
Dewch ar daith drwy’r degawdau i ddysgu mwy am hanes y BBC yng Nghymru a sut mae canrif o ddarlledu wedi esblygu.

Llwybr Pasg

Hyd at 16 Ebrill 2023 (£1.50)
Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae deg aderyn wedi cymryd drosodd yr adeilad. Mae angen eich help arnom i ddod o hyd iddyn nhw!

Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru

Hyd at 15 Ebrill 2023, 17:00
Arddangosfa yn deillio o brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagwedd tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.

Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru

Hyd at 15 Ebrill 2023, 17:00 (Am ddim)
Croeso cynnes i bawb i’r arddangosfa hon fis nesaf yn Aberystwyth.

Bore Coffi Carnifal Bethesda

Hyd at 15 Ebrill 2023, 12:00
Bore coffi er budd y Carnifal

Dewch i Ganu!

11:00 (Am ddim)
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu.   Gyda Menter Iaith Abertawe.

Bocsys Matsys y Gwanwynyn

Hyd at 15 Ebrill 2023, 15:30 (Am ddim)
Dewch i greu blwch matsys sy’n sboncio i ryfeddu’ch ffrindiau.

Gig ‘Northern Lights’

19:00
Gig nos Sadwrn yma! 7pm 15/4/23″Northern Lites”- Cydweithrediad rhwng bandiau o Gymru a Norwy

Helfa Drysor Ceir Y Pasg

Hyd at 16 Ebrill 2023, 14:00 (£10 y car)
Mae Pwyllgor Gogledd y Sir Apêl Sioe’r Cardis 2024 yn eich gwahodd i  Helfa Drysor Ceir y Pasg  Cychwyn o Neuadd Llanafan rhwng 13:00 a 14:00  Yn gorffen yn Nhafarn yr Halfway, lle bydd bwyd …

Clwb Gwyddbwyll

Hyd at 17 Ebrill 2023, 21:30
Clwb Gwyddbwyll, lle i chwarae ac i wella eich sgiliau ac eich dealltwriaeth ar y gem.

Cyfarfod gyda Grŵp Twf 10 Tref

18:00
Cyfarfod wyneb i wyneb gyda’r Grŵp Twf 10 Tref a busnesau Llanybydder er mwyn trafod y cyfleoedd grantiau ychwanegol sydd ar gael trwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.  Mae’r cyllid yma yn cynnwys: …

Cyflwyniad i’r iPad

Hyd at 19 Ebrill 2023, 12:00 (Sesiwn blasu am ddim)
Ydych chi’n berchen ar iPad ond ddim yn ei ddeall, neu am fedru gwneud mwy ag e? Dyma’ch cyfle i wella’ch sgiliau!

Hyfforddiant Diffribriliwr

Hyd at 19 Ebrill 2023, 16:00 (Am Ddim)
Croeso cynnes i’r gymuned gyfan

Ras Hwyrnos Nant yr Arian

18:00 (£3-£5)
Ras 1 – Ras Hwyrnos Nant yr Arian  Canolfan ymwelwyr Nant yr Arian 6pm – Ras gynradd (tua 1 milltir) Bl. 3 a 4 Bl. 5 a 6 7pm – Rasys ysgol uwchradd ac oedolion Ysgol uwchradd (tua 3 milltir) Ras …

‘Selection Ball’ Carnifal Llanybydder

Bydd “selection Ball” ein carnifal blynyddol yn cael ei gynnal yn Cross Hands, Llanybydder ar 21 Ebrill am 6.30pm. Bwyd yna i’r plant.

Arddangosfa gelf ‘Aildanio’ yn dwad i Ty Pawb, Wrecsam!

Hyd at 27 Mai 2023
Mae’r arddangosfa, a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys 26 o weithiau celf gan artistiaid anabl wedi’i lleoli yng Nghymru, dewisir o dros 100 o gyflwyniadau i ymatebion creadigol i …

TAITH NATUR, FFORIO A GWEITHDY CREU

Hyd at 21 Ebrill 2023, 16:30 (am ddim ond angen cofrestu)
TAITH NATUR, FFORIO A GWEITHDY CREU   M-SParc #ArYLôn Bangor 21/4/23   Gan Catrin Roberts o Maeth Natur Maeth Natur | Facebook   Cofrestru // Register   Gweithdy addysgiadol a pleserus iawn!

Cymhorthfa Coed Mawr

13:30 (Am ddim)
Cymhorthfa ar y cyd rhwng Hywel Williams AS a’r Cyng. Gareth Roberts. Gwahoddir trigolion Coed Mawr ddod i drafod materion lleol.

Theatr Fach Llandysul

Hyd at 21 Ebrill 2023, 17:00
Theatr Fach Llandysul 7-11 oed Snacs, diod, gweithgaredd celf a sesiwn theatr Arweinwyr: Siriol Teifi (Cered), Lleucu Meinir (Plethu), Llinos Hallgarth (Clinig Bach y Wlad) a nifer o bobl ifanc …

Gŵyl Crime Cymru

Hyd at 23 Ebrill 2023, 15:30 (Amrywiol - dibynnu ar y sesiwn)
Nifer o ddigwyddiadau 

Cwis Ysgol Gynradd Llanarth

18:30 (Timau o 6 i gofrestri ar y noson am £6)
Mae Pwyllgor Ffrindiau’r Ysgol yn trefnu Cwis i’r teulu cyfan. Cynhelir y cwis yng ngwesty Llanina Llanarth ar nos Wener yr 21ain o Ebrill am 6.30 yr hwyr.

Gŵyl Ddrama Y Groeslon

19:00 (£3 oedolion, £1.50 plant)
Gŵyl Ddrama y Groeslon Nos Wener 21 Ebrill 2023 7:00 o’r gloch yh

Noson Blasu Jin

19:30 (£10)
Beth? Noson Blasu Jin yng nghwmni Jin Afallon! Pryd? 21/04/2023 7:30yh Ble? Y Stesion, Lôn Gas, Caernarfon, LL55 2YD Pris? £10! Tocynnau ar gael yn fan hyn neu yn Palas Print!

Sioe Feirch Llanbed

09:30 (£)
Sioe Feirch Llanbed Beirniaiad:- Adran/Section A – Mr G Price, Littlewern Stud Adran/Section B- Mr Price Jones, Nant y Bai Stud Adran/Section C – Ms G Heppenstall, Glynwyn Stud …

Gwibdaith Cwilt360

10:00
Gwibdaith rownd neuaddau’r ardal, i lansio gwefan fro newydd Cwilt360.

Teithiau Tywys Rhys Mwyn

Hyd at 22 Ebrill 2023, 13:00 (£8)
Taith o Gastell Penrhyn i Landygai dan arweiniad Rhys Mwyn. Dyma gyfle i ddeall fwy am yr hanes sydd ar stepen drws y Castell.

Diwrnod DIY y Vale

10:30
Dewch â’ch brwsh paent neu sgriwdreifer i roi help llaw gydag ambell dasg, i gynnal a chadw ein tafarn gymunedol!

Eisteddfod y Groeslon 2023

13:00 (£4 Oedolion, plant am ddim)
Eisteddfod y Groeslon 2023 Neuadd y Pentref Dydd Sadwrn 22 Ebrill 1:00 o’r gloch yp

Geiriau Diflanedig: colli ac ennill y gêm Cyfieithu

14:00
Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Mererid Hopwood yn mynd ar drywydd y profiad o gynnwys ac o hepgor wrth gyfieithu cerddi. Pwy sy’n colli? Pwy sy’n ennill?

Dawnsio Llinell

18:30
Dan arweiniad Mike Stringer 🤠🤠🤠

DakhaBrakha

19:30
Mae DakhaBrakha yn bedwarawd cerddoriaeth o Kyiv, Wcráin.

Bingo!

19:30
Nos sadwrn, Ebrill 22ain, 7.30yh, Yn Y Porth Croeso i bawb Carnifal Llandysul a Phont-Tyweli Ebost carnival.l@yahoo.com

Llond Neuadd Fawr o gerddoriaeth!

19:30 (£12 (gostyngiad i bensiynwyr, plant a myfyrwyr))
Cymdeithas Gorawl Aberystwyth a cherddorfa Sinfonia Cambrensis yn perfformio ‘Offeren Nelson’ (Haydn) ac anthem y ‘Foundling Hospital’ (Handel). Croeso mawr i bawb!

Taith Gerdded gan Cyngor Cymuned Llanwenog

10:00
Taith Gerdded Blynyddol gan Cyngor Cymuned Llanwenog Codi arian tuag at Uned Chemotherapi, Ysbyty Bronglais Yn mynd ar hyd llwybrau cerdded ardal Gorsgoch gan gynnwys y Gors ei hunan!

Cyflwyniad i i-Pad

10:15 (Am ddim)
Cyflwyniad i i-PadDydd Llun, Ebrill 24ain, 10.15yb-12.15ypCwrs Am DdimI fyny’r grisiau, uwchben Llyfrgell Llandysul, yn yr ystafell gyfrifiaduron.Canolfan Ceredigion, Porth Terrace, Church St, …

Cwrs i-Pad Canolradd

13:00 (£10)
Cwrs i-Pad CanolraddDydd Llun, Ebrill 24ain, 1yp-3yp£10I fyny’r grisiau, uwchben y Llyfrgell yn yr ystafell gyfrifiaduron.Canolfan Ceredigion, Porth Terrace, Church St, Llandysul SA44 4QS …

Help efo costau byw

Hyd at 24 Ebrill 2023, 17:00
Os ydych am gael help efo’ch costau byw – cyngor preifat, un-wrth-un, gan arbenigwyr – galwch heibio’r Neuadd bnawn Llun, 24 Ebrill o 3yp tan 5yp.

Cyfarfod Blynyddol Caban Gerlan 

19:00
Cyfarfod blynyddol Caban Gerlan – dewch draw i rannu syniadau am beth hoffech chi weld yn digwydd yn eich canolfan gymuned lleol dros baned. ☕ 

Argraffu Pen Bwrdd gan ddefnyddio Word

13:00
Os hoffech wella’ch sgiliau Argraffu Pen Bwrdd gan ddefnyddio Word, dewch i Festri Bronant am 1yp dydd Mercher 26 Ebrill 2023.