Mae’r dirwedd ym Mhlas Newydd yn cynnwys 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir, a gyda golygfeydd anhygoel ar draws y Fenai dyma’r lle delfrydol ar gyfer antur hanner tymor.
Dros hanner tymor mis Mai, rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Garddio i’r Plant. Ymunwch hefo ni mewn gweithgareddau plannu ar gyfer y teulu oll ac i gael gweld ein gerddi ffurfiol a gwyllt.
Dyddiad: Dydd Sul, 2il o Fehefin Cofrestru: yn Neuadd Goffa Talgarreg am 10yb, gan adael am 11yb. Pris: £10 y tractor, sy’n cynnwys un tocyn ar gyfer rhôl bacwn, paned a chacen.
Dewch i fwynhau gŵyl ddawns flynyddol Abertawe am ddim yr haf hwn wrth i Taliesin ddod â pherfformwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt at ei gilydd gyda grwpiau dawns lleol, mewn gŵyl ddawns o …
Fis cyn yr etholiad cyffredinol, bydd prosiect Fotio am Fory yn ôl er mwyn gweld sut gallwn ni, bobol leol, roi sylw i’r pynciau sy’n bwysig ar lawr gwlad.
Cynhelir taith gerdded ar hyd llwybrau Penygroes gan Llio, sy’n un o griw gwefan fro DyffrynNantlle360. Mae’r daith hon yn rhan o ddigwyddiadau Wythnos Newyddion Annibynnol.
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Caban Gerlan Nos Fawrth Mehefin y 4ydd am 7yh. Croeso cynnes i unrhyw un ymuno efo ni er mwyn cael gwybod mwy am beth sy’n digwydd yn y neuadd a rhannu eu syniadau.
I nodi Diwrnod Sant Tudno (Mehefin 5ed) bydd yr hanesydd Gareth Roberts o Menter Fachwen yn ein tywys o gwmpas y Gogarth, yn sôn am yr holl safleoedd hanesyddol (gan gynnwys Eglwys Sant Tudno) …
Mae Malu Awyr yn ddigwyddiad misol (nos Iau cyntaf pob mis) sy’n gyfle i siaradwyr Cymraeg o bob lefel ddod ynghyd i sgwrsio ac ymarfer dros ddiod. Y tro yma, bydd Cwis hwyliog hefyd!
Ar Fehefin 12fed byddwn yn dathlu Gwenllian – merch Llywelyn (tywysog olaf Cymru). Cafodd ei herwgipio yn faban a’i magu mewn lleiandy yn Sempringham, Lincolnshire.
Fel rhan o gyfres darlithoedd ystyron a a hanes enwau llefydd yn Eryri, bydd y Prifardd Ieuan Wyn yn trafod y tirweddau yn arddangosfa Arfordirol yr artist Huw Jones.
Cymunedoli yn cyflwyno … Gig Pys Melyn a DJ Melys yn Yr Orsaf, Penygroes. Nos Wener, 7fed o Fehefin 6:30pm Am ddim! Dewch â’ch diodydd eich hunain. Bydd diodydd meddal ar werth.
Cymunedoli yn cyflwyno … Gig Pys Melyn a DJ Melys Yr Orsaf, Penygroes. Nos Wener, 07/06/24 6:30pm Am ddim! Dewch â’ch diodydd eich hunain. Bydd diodydd ysgafn ar werth. Addas i bawb.
Nos Wener 7 Mehefin 7:30yh – Talwrn y Beirdd Mynediad: £5 Meuryn: Mererid Hopwood Tîmau Glannau Teifi v Crannog v Y Vale Nos Sadwrn 8 Mehefin 7:30yh – Noson Lawen Mynediad: Oedolion £10, …
Ymunwch â’r darlledwyr Huw Stephens a Georgia Ruth ar gyfer digwyddiad arbennig ar lyfr newydd Huw, Wales: 100 Records, sy’n dadansoddi gyrfaoedd artistiaid recordio pennaf Cymru – o Tom Jones i …
Diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan. Dewch i ddathlu gwaith 6 ysgol leol ar y thema Cynefin. Bydd perfformiadau gan y plant, Dafydd Iwan a’r Welsh Whisperer yn ystod y dydd.
Te Mefus wythnos gofalwyr. Galwch fewn i Canolfan Dementia Bangor, Safle Ardudwy, Ffordd Caergybi, Bangor am De Mefus. Rhagor o wybodaeth: gwenda@eryricoop.cymru 07999 453676