calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 9 Mai 2024

Twrnament Pel-Droed Tregaron

10:00
Diwrnod llawn dop o bel-droed ar gyfer oedrannau gwahanol. Dros 70 o dimoedd wedi cofrestru ar gyfer y twrnament eleni felly mi fydd hi’n gystadleuaeth a hanner i ennill y cwpwn.

Bore Coffi Eisteddfod Genedlaethol 2023

Hyd at 18 Mehefin 2022, 12:00 (£1)
Trefnir gan Bwyllgor Cronfa Leol Dyffryn Ogwen ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Ffair Grefftau’r Haf

Hyd at 18 Mehefin 2022, 17:00 (Am Ddim)
Cymysgedd o nwyddau retro a detholiad o grefftau gan wneuthwyr lleol, yn amgylchedd hudolus yr Amgueddfa. Mewn partneriaeth â Cow & Ghost Vintage

Belfast (12A)

19:30 (£6.50 i oedolion, £5 i blant a phensiynwyr)
Enillydd Oscar a BAFTA. Stori deimladwy teulu dosbarth gweithiol yng nghymdeithas sectyddol Gogledd Iwerddon yn y 60au gan Kenneth Brannagh.

Carnifal Llanybydder

18:30 (£3)
Mae pleser gennym ni fel pwyllgor, i gynnal y 60ain Carnifal! Eleni, y thema yw y 60’s ac rydym yn bles iawn i gael Barry a Sheila Jones (Oriel) fel ein llywyddion.

Cynhadledd Ryngwladol Llawysgrifau Cymru

Hyd at 22 Mehefin 2022, 16:00 (£25- £50)
Cynhelir y gynhadledd hon ar y cyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddathlu cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, …

Bow Street – croesawu’r Steddfod mewn steil

19:30
HENO (Nos Lun 20 Meh). Sgwrs dros beint i drafod ‘addurno’ Bow Street a chroesawu Eisteddfod Ceredigion 2022. Croeso mawr i bawb o’r pentre – dewch â’ch syniadau!

Sesiynau hyder beicio

15:00
Sesiynau hyder beicio am ddim i bobl ifanc 16-25 oed. Cysylltwch i archebu lle ar: 01286 672622 neu dros e-bost: beics@anturwaunfawr.cymru.

Gwyl Gregynog – Maximilian Ehrhardt

Hyd at 25 Mehefin 2022 (£15 (oedolion), £7.50 Ieuenctid sy’n 18 oed ac iau: £7.50)
Mae Maximilian Ehrhardt yn gweithio o Berlin ac mae’n arbenigo ar ganu telynau hanesyddol, gan gynnwys y delyn deires  Mae ei CD arloesol None But the Brave (2020) yn rhoi amlygrwydd i gerddoriaeth …

ARDDANGOSFA SALON DES REFUSÉS

Hyd at 14 Awst 2022, 10:00 (Am ddim)
Mae’r Salon des Refusés yn cael ei adnabod yn gyffredinol fel arddangosfa o weithiau a wrthodwyd gan reithgor Salon swyddogol Paris.

Sesiwn galw draw – i w’bod mwy am yr Eisteddfod eleni

Hyd at 23 Mehefin 2022, 19:00
Trafnidiaeth, masnachu, cyngherddau, mynychu… Eisiau gwybod mwy am yr eisteddfod eleni? Bydd yr ŵyl genedlaethol yn ymweld â Thregaron yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.

codi arian

Hyd at 25 Mehefin 2022, 12:00
Côr Gobaith yn canu yn y glaw heddiw i godi arian i Rhyddid Rhag Artaith.Dyma’ r trydydd dydd Sadwrn maen nhw wedi canu i’r elusen hon ac maen nhw wedi dros £300

Amgueddfa Dros Nos: Y Rhufeiniaid GARTREF

Hyd at 26 Mehefin 2022, 10:00 (Tocyn teulu £5)
Dewch ar antur Rufeinig gyda ni!

Gwyl Gregynog – ‘By particular Desire’

14:30 (Am ddim i ddeiliaid tocynnau cyngerdd)
‘By particular Desire’: Welsh musicians in Georgian Bath  Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog yn ail-greu byd y ddeunawfed ganrif pan oedd yr allbwn o Gymru i Gaerfaddon yn cynnwys …

Gwyl Gregynog 2022

Hyd at 26 Mehefin 2022, 18:00 (Amrywiol)
Mae Gŵyl Gregynog, yr ŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf yng Nghymru, yn dychwelyd i leoliad hyfryd Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd yng ngogledd Powys, gyda gwledd o gerddoriaeth Canol Haf.

Gwyl Gregynog – Maximilian Ehrhardt, telyn deires 

16:00 (£15 (oedolion); £7.50 (ieuenctid sy'n 18 oed ac iau))
Mae Maximilian Ehrhardt yn gweithio o Berlin ac mae’n arbenigo ar ganu telynau hanesyddol, gan gynnwys y delyn deires Gymreig.

Dathliad 125 mlynedd cwmni arwerthwyr Evans Bros

19:00 (£10 y tocyn sydd yn cynnwys bwyd)
Mae cwmni arwerthwyr Evans Bros yn dathlu 125 mlynedd ac yn cynnal noson i ddathlu yn y mart yn Llanybydder ar y 25ain o Fehefin 2022.  Bydd bwyd, bar, band ac ocsiwn a bydd elw’r noson yn …

Stŵr wrth y Dŵr

19:00 (I'w gadarnhau)
Mae sioe dalent flynyddol y Felinheli yn ôl! ? Canu? ?? Dawnsio? ⚽ Keepie upies? ? Chwarae offeryn? ?Deud jôcs? Cysylltwch: ☎ 07816564520 ✉ info@gwylfelin.org

Phil Gas a’r band

19:00 (£3)
Nos Sadwrn y 25ain ‘da ni’n edrych ‘mlaen i groesawu Phil Gas a’r Band i’r Heliwr! Fydd y noson yn dechrau am 7, mynediad yn £3 ar y drws! ? ?

Padraig Jack Gyda Gwilym Bowen Rhys

Hyd at 25 Mehefin 2022, 21:00 (£10 / £1)
Cyfle i brofi gwledd Geltaidd gerddorol yma yn Theatr Felinfach ar y 25ain o Fehefin.

Gwyl Gregynog – ‘Baffling’: Bela Bartok in Aberystwyth

14:30 (Am ddim i ddeiliaid cyngerdd)
‘Baffling!’: Bela Bartok in Aberystwyth Yn Aberystwyth ar 16 Mawrth 1922, rhoddodd Béla Bartók ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf yn y DU.

Gwyl Gregynog – Llyr Williams 

Hyd at 26 Mehefin 2022, 18:00 (£25 (oedolion); £12.50 (ieuenctid sy’n 18 oed ac iau))
Edmygir Llŷr Williams ymhell ac agos am ei ddeallusrwydd cerddorol dwys, ac am natur fynegiannol a chyfathrebol ei ddeongliadau.

Sioe Ysgol Gynradd y Felinheli

14:00 (Am ddim)
Sioe Ysgol y Felinheli yn rhan o Ŵyl y Felinheli 2022.

Helfa Drysor ar Droed

17:30 (Am ddim)
Helfa Drysor ar Droed fel rhan o arlwy Gŵyl y Felinheli. Cychwyn o’r Marcî rhwng 5.30 a 6.30.

Hwyl i’r Plant

17:30 (Am ddim)
Gemau hwyliog i blant (tra bod yr oedolion ar yr helfa drysor!)

SEMINAR CYFRES TRYSORAU LLAMBED – SIÔR IV – YR ATHRO WILLIAM GIBSON

19:00
Ysgrifennodd y papur newydd The Times am Siôr IV, ‘There never was an individual less regretted by his fellow creatures than the deceased King.’ Ond fe ddisgrifiwyd y Dug Wellington fel …

Ioga i bawb!

18:30 (£3)
Croeso i bawb

Cwis yr Ŵyl

21:00 (Am ddim)
Cwis Gŵl y Felinheli, noson hwyliog ac heriol bob tro! Dechreuwch ar y swotio.