calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 18 Mai 2024

Marchnad Vintage, Hen Bethau a Chrefft Y Glannau

10:00 (Am Ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Marchnad Vintage, Hen Bethau a Chrefft Y Glannau

Hyd at 12 Mawrth 2023, 16:00 (Am Ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Digi Doctor

10:15 (Am Ddim)
Digi DoctorDydd Llun 13 o Fawrth, 10.15yb-12.15ypCael rhywfaint o anhawster gyda’ch dyfais TG?Dewch draw am ychydig o gymorth gyda’r doctor digi!Cysylltwch â admin@dysgubro.org.uk neu …

Gweithdy Powerpoint Uwch

13:00 (Am Ddim)
Cymorth TG i bawb gyda’r Digi Doctor (Dysgu Bro Ceredigion) Cwrs gwych i wella’ch sgiliau Microsoft Powerpoint. Er mwyn cadw lle, cysylltwch â admin@dysgubro.org.uk neu ffoniwch 01970 633540.

Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen (Gareth Llwyd – Arwr Anghofiedig a ‘Gladstone y Chwarelwyr’ – William Hugh Williams, Arafon)

Hyd at 13 Mawrth 2023, 20:00 (£2)
Nos Lun 13 Mawrth, 2023 am 7.00: Gareth Llwyd – Arwr Anghofiedig a ‘Gladstone y Chwarelwyr’ – William Hugh Williams, Arafon [Darlith Goffa Rhiannon Rowlands] Bydd y cyfarfodydd yn cael eu …

Enwau Lleoedd, Seintiau ac Eglwysi

Hyd at 14 Mawrth 2023, 18:00 (Am ddim)
Bydd y llyfrau Welsh and English in Medieval Oswestry (gan David N Parsons) a Welsh Saints from Welsh Churches yn cael ei lansio gyda’r awduron yng Nghanolfan Uwchfrydiau Cymreig a Cheltaidd …

Gofod Gwneud – Gwnïo

Hyd at 14 Mawrth 2023, 19:00
Sesiwn Grŵp Gwnïo Gofod Gwneud! Galwch draw i ddysgu sgiliau gwnïo neu i gael cymorth gyda phrosiect rydych yn gweithio arno.

‘Anwyl Fam’ – pererindod drwy’r Rhyfel Mawr

19:00
Bydd Ifor ap Glyn yn lansio’i lyfr newydd ‘Anwyl Fam’ – pererindod drwy’r Rhyfel Mawr am 7.00yh, nos Fawrth, 14.3.23 yng Nghanolfan Llanddewi Brefi.

Oes angen datganoli darlledu?

Hyd at 14 Mawrth 2023, 22:00 (Am ddim (ffi i weld y ffilm Y Swn))
Cyfle wedi ffilm eiconig “Y Sŵn” am Gwynfor Evans i drafod lle nesaf i ddatganoli darlledu. Mwy o wybodaeth i ddilyn.

Bore Coffi

10:30
Bore Coffi yn ysgol Tregroes, Llandysul, SA44 4NN Te, Coffi, bisgedi a raffl!

Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs

13:00
‘Bywyd a marwolaethau Edmund Bernard Reece’ – Crwner Caerdydd & O Gymru Wyllt i Wlad y Basg Ymunwch â ni yn y drydedd mewn cyfres o gyflwyniadau Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs, pan …

Peint a Sgwrs

Hyd at 15 Mawrth 2023, 21:00 (Am ddim)
Sesiwn sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg ac i siaradwyr iaith gyntaf gymdeithasu Croeso i bawb!

Pwy oedd Idwal Jones? (Darlith Marie James – rhan 1)

19:30
Mae ymwelwyr cyson â lolfa Theatr Felin-fach yn gyfarwydd â phortread Eryl Ellis o’r dramodydd Idwal Jones – yn rhy gyfarwydd, efallai.

Cwis

19:30
Dewch i Gwis Plaid Cymru Caernarfon. Manylion ar y poster!

Ffair Swyddi Prentisiaethau / Cynllun Yfory Cyngor Gwynedd

Hyd at 16 Mawrth 2023, 18:00 (Am Ddim)
Cyfle i wybod mwy am Brentisiaethau a Chynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd Cynllun Yfory 2023 An opportunity to know more about Gwynedd Council Apprenticeship and Graduate Scheme Cynllun Yfory 2023

Lansiad: Anwyl Fam, Ifor ap Glyn

19:00
Lansiad ‘Annwyl Fam’ – Pererindod Drwy’r Rhyfel Mawr gan Ifor ap Glyn

Cwis Chwe Gwlad y Vale – Ffrainc

20:00
Cwis byr am Ffrainc, chwaraeon ac ambell beth arall! Keith Henson sy in charge o’r cwis yma (Duw â’n helpo ni) – y bumed mewn cyfres o cwisys ar nosweithi Iau cyn gemau rygbi Cymru.

Chwarae’r Chwedlau

20:30 (£12)
Yng nghwmni perfformwyr rhagorol Cymru (neu rhai oedd jyst â’r argaeledd), dewch i Chwarae’r Chwedlau, noson Gymraeg newydd y Queer Emporium, i ddysgu mwy am hanes LHDTC+ y genedl.

Gwanwyn Glan Cymru 2023

Hyd at 2 Ebrill 2023, 17:00
Gwanwyn Glan Cymru 2023 “Dim Lluchio Llanast yn Llanwenog! Eich sbwriel chi a’ch miri, Mowredd! Ewch a fe ’da chi!” Mae angen eich HELP CHI ARNOM!

Noson yng nghwmni Gwenan Gibbard

19:00
Noson yng nghwmni’r delynores a’r gantores werin Gwenan Gibbard. Trefnir gan Gymdeithas Lenyddol y Garn. Darperir lluniaeth ysgafn.

Gig Trappist Afterland

19:00
Mae yna gig yn y Fic nos Wener yma: cerddoriaeth gwerin o Awstralia gan TRAPPIST AFTERLAND + Titus Monk & DJ Delweddau Hen Dduwiau

Separado!

Hyd at 17 Mawrth 2023, 21:00 (Am Ddim)
Dangosiad o’r ffilm eiconig Separado, lle mae Gruff Rhys yn chwilio am ei ewythr, cerddor o Batagonia, Rene Griffiths.

Lansiad: Annwyl Fam, Ifor ap Glyn

19:30 (Am ddim)
Lansiad ‘Annwyl Fam’ – Pererindod Drwy’r Rhyfel Mawr gan Ifor ap Glyn.

Cyngerdd Apêl Hadau Gobaith

19:30
Cyngerdd Apêl Hadau Gobaith gyda Chôr Meibion Caernarfon, Côr Cofnod, Parti canu Ysgol Bontnewydd, Alis Glyn Tomos, Gwenno Fôn Jones, Elis Massarelli Hughes a Lois Parry.  Dewch yn llu, 17eg Mawrth …

Beth yw Theatr? (Darlithoedd Marie James – rhan 2)

19:30
Ar ôl holi ‘Pwy oedd Idwal Jones’ echnos, Euros Lewis fydd yn mynd yn ei flaen i ofyn ai i Ddiwylliant neu i Culture y mae theatr y Cymry yn perthyn bellach.

Separado!

Hyd at 17 Mawrth 2023, 21:30 (Am ddim)
I ddathlu’r cysylltiad rhwng Esquel ac Aberystwyth, bydd Pwyllgor Gefeillio Aberystwyth-Esquel yn dangos y ffilm Separado!

Cwm Rag: Dod Adref

20:30 (£15)
Trwsiwch eich het, smwddiwch eich siôl. Ry’ ni am gael parti. Mae sêr y llwyfan a’r sgrin, Cwm Rag, yn dod adre.

Taith Gerdded Meddwlgarwch

Hyd at 18 Mawrth 2023, 13:00 (Am ddim)
Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gydag arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Parneriaeth Cwm Idwal.

Taith tywys efo Rhys Mwyn

Hyd at 18 Mawrth 2023, 13:00 (£8)
Ymunwch â’r archeolegydd Rhys Mwyn ar daith o Gastell Penrhyn i Landygai ar fore Sadwrn Mawrth 18 am gyfle i ddarganfod hanes sydd ar stepen drws y Castell.

Gweithdy creadigrwydd Yr Ŵyl Ddrama

Hyd at 18 Mawrth 2023, 12:00 (Am ddim)
Law yn llaw â’r Theatr Unnos, mae’r Ŵyl Ddrama yn cynnal gweithdy dyfeisio a byrfyfyrio ar gyfer pobol ifanc 14 – 25 oed… ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim!

Theatr Unnos

10:30 (Am ddim)
Am y tro cyntaf erioed, bydd yr Ŵyl Ddrama yn cynnal Theatr Unnos.

Dewch i Ganu!

11:00 (Am ddim)
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu.

Y DIWEDD

Hyd at 18 Mawrth 2023, 14:45 (Am ddim)
Jon Gower ac Anthony Evans yn sgwrsio am Y DIWEDD, yr olaf yn nhrioleg Jon Gower o nofelau ditectif tywyll, treisgar, cignoeth, a chyfle i holi’r awdur am y llyfrau.

Noson Cwis

Hyd at 18 Mawrth 2023, 20:30
Ydych chi awydd noson allan llawn hwyl gyda theulu/ffrindiau? Yna beth am ymuno â ni yn ein cwis nos Sadwrn yma. Gobeithio gweld chi yno.

Hi hi hi

19:30
Noson i ddathlu talent merched yn rhan o’r Ŵyl Ddrama 2023, mewn cydweithrediad â Talent mewn Tafarn. ** Y TOCYNNAU I GYD WEDI’U GWERTHU **

Te Prynhawn Syl y Mamau

Hyd at 19 Mawrth 2023, 14:00 (£20 y person)
Edrych am syniadau i ddathlu Sul y Mamau eleni?

Gwyddoniaeth Pnawn Dydd Sul

Hyd at 19 Mawrth 2023, 16:00 (Am ddim)
Mae’r digwyddiad poblogaidd yn ôl! Prynhawn llawn arddangosiadau cyffrous, gweithgareddau ymarferol, arbrofion syfrdanol a sioeau gwyddoniaeth!   Rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain

NID YW’R AWYR BELLACH YN DERFYN

13:00 (Am ddim)
Ewch ar daith ddramatig gyda’r cyflwynydd Andrew Lound yn ei sgwrs hudolus ar hanes teithio i’r gofod. Dyma stori fawr yr ugeinfed ganrif, am y ras rhwng gwledydd pwerus i gyrraedd y gofod.

Sgwrs – Cynrhon cariadus!

13:15 (Am Ddim)
Cynrhon cariadus – Y gwyddoniaeth y tu ôl i’r rhyfeddodau meddygol hyn!Mae cynrhon yn ffordd wych ac effeithiol o drin clwyfau sy’n crynhoi!  Mae ein grŵp ymchwil ym Mhrifysgol …

Sgwrs – Storïau’r Sêr

15:00 (Am Ddim)
Storïau’r Sêr: Genedigaethau, Bywydau, a Marwolaethau Pan edrychwn i fyny ar awyr y nos gwelwn y sêr yn pefrio arnom, yr un peth o nos i nos. Er na allwn weld y sêr yn newid, mae arsylwi sêr …

Clwb Darllen Caernarfon: American Dirt

19:00
Mae American Dirt yn nofel am lyfrwerthwr o Mecsico sy’n gorfod ffoi i’r Unol Daleithiau rhag y cartel.

Y Sŵn (12A)

19:30 (£5)
Yn 1979, fe ddaeth Margaret Thatcher i rym gyda maniffesto ag addawodd sefydliad sianel deledu yn y Gymraeg.

Clwb Cynganeddu Caernarfon

20:00 (£2)
Eisoes yn deall rheolau’r gynghanedd? Yn awyddus i ymarfer eich crefft? Dewch i Glwb Cynganeddu Caernarfon!

Peint a Sgwrs Pesda

Hyd at 22 Mawrth 2023, 21:00 (am ddim)
Sgwrs Gymraeg dros beint (neu 2) i bawb sy’ am ymarfer eu Cymraeg neu am helpu i ymarfer