calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 20 Mai 2024

Theatr Bara Caws yn cyflwyno Ffenast Siop

Hyd at 25 Mai 2024
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn …

Gŵyl y Pier

Hyd at 19 Mai 2024, 18:00
Stondinau bwyd a marchnad , cerddoriaeth fyw a hwyl i blant.

Pride Bach

Hyd at 19 Mai 2024, 15:00 (Am ddim)
Dathlwch Pride Bach yn Amgueddfa Genedlaethol y GlannauMae croeso i bawb i’r rhaglen hwyliog hon i’r teulu cyfan i ddathlu bod yn hapus, yn falch ac i ymfalchïo ym mhwy ydych chi.  Yn cynnwys: …

Taith Clychau’r Gog

Hyd at 19 Mai 2024, 17:00 (Am ddim)
Taith fyr (llai na 2 filltir) dros dir anwastad, gan gynnwys mannau serth Gwanwyn yw’r adeg pan fydd Clychau’r gog (Hyacinthoides non-scripta), un o’n hoff flodau gwyllt, yn rhoi sioe ymlaen.

Gwasanaeth Cymorth Cristnogol

17:00
Gwasanaeth cyd-enwadol i gloi Wythnos Cymorth Cristnogol..croeos i BAWB i ddysgu am waith Cymorth Cristnogol yn Burundi a hanes merch o’r enw Aline a’i theulu… Cyfle i rhoi diolch …

Cymanfa Ganu

19:00 (£8)
Ymunwch a ni yn y Gymanfa Ganu nos Sul am 7yh dan arweiniad Iwan Williams Llandwrog yng Nghapel Tabor Y Fali. Organyddes: Ann Peters-Jones Unawdydd: Steffan Prys Roberts Eitemau gan Deulu Aelwyd Y …

Disgo Dewis Brenin a Brenhines Carnifal Ciliau Aeron

18:30–20:00
Disgo i ddewis Brenin a Brenhines y Carnifal. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Cyfarfod BlynyddolY Barcud

19:30
Cyfarfod Blynyddol y Barcud Nos Lun Mai 20fed Festri capel Blaenpennal 7.30 y.h. Croeso Cynnes I bawb

Yfory 21 Mai 2024

Cartref Tregerddan – cyfarfod cyhoeddus

07:30
Cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol Cartref Tregerddan, Bow Street. Croeso cynnes i bawb.

Bore Coffi Cymunedau Cynaliadwy 

10:00–13:00
Cyfres o foreau coffi am ddim i gwrdd â phobl eich ardal leol, sgwrsio dros ddiod poeth ac ymuno mewn gweithgareddau!  Dewch yn llu!

Stori a Chân gyda Cymraeg i Blant

13:30 (Am ddim)
Ymunwch â Cymraeg i Blant, yn ystafell addysg Amgueddfa Wlân Cymru am sesiwn llawn hwyl!

Dydd Iau 23 Mai 2024

Sesiwn galw heibio Heuldro

14:00–19:00
Galwch heibio i Ganolfan Cefnfaes, Bethesda am sgwrs ar 23 Mai rhwng 14:00-19:00.

Noson yn Eglwys Talgarreg

19:00
Noson yn Eglwys Talgarreg gyda chwmni Adran Bentre’ Talgarreg. Llywyddion: Cenfil ac Iona Reeves, Garreg Wen Cyfraniadau’r noson i’w rhannu rhwng Eglwys Talgarreg a’r Adran

Dydd Gwener 24 Mai 2024

Caffi Trwsio Bangor

09:30–15:30 (Am ddim)
Bydden ni’n rhoi pob ymdrech i mewn i drwsio’ch eitemau !  

Cymhorthfa Penrhosgarnedd

13:30 (Am ddim)
Mae ‘cymorthfeydd’ yn gyfle i gynrychiolwyr gwleidyddol gyfarfod wyneb yn wyneb â’u hetholwyr i drafod materion a phryderon lleol.

Mae’r Mynyddoedd yn Siarad’ – gwerth enwau lleoedd Darlith gan Ieuan Wyn

14:00–15:30 (Am Ddim)
Bydd y darlith hon gan y Prifardd Ieuan Wyn yn canolbwyntio ar ystyron a hanes nifer o enwau lleoedd yn Eryri.

Gwyl Melangell

19:00 (£15)
Noson o adloniant yn dathlu un o brif seintiau Cymru- Santes Melangell, nawdd sant ysgwarnogod a ffoaduriaid.

Nid Taith y Pererin Mohoni!

19:00 (am ddim)
Sgwrs ar-lein yn Gymraeg gan Arwel Emlyn Dyma hanes taith gan y bardd Arwel Emlyn, tua un diwrnod bob wythnos, yn ystod gwyliau’r haf 2012.

Paentio ar y Cyd PRIDE

19:00 (£25 yp neu ddau ar gyfer £45)
Ymunwch a ni am sesiwn Paentio ar y Cyd llawn lliw wrth i ni ddathlu PRIDE Abertawe. Dewch fel cwpwl neu gyda ffrindiau am noson llawn paentio, cerddoriaeth a chwerthin.  Nid celf gain yw hyn, celf …

Dydd Sadwrn 25 Mai 2024

Hanner tymor mis Mai ym Mhlas Newydd

Hyd at 2 Mehefin 2024
Mae’r dirwedd ym Mhlas Newydd yn cynnwys 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir, a gyda golygfeydd anhygoel ar draws y Fenai dyma’r lle delfrydol ar gyfer antur hanner tymor.

Eginblanhigyn a Chyfnewid Planhigion

10:00
Ydych chi wedi dechrau gormod o eginblanhigion, sy’n chwilio am gartref newydd? Rydyn ni i gyd yn ei wneud ac ni allwn oddef gweld bywyd newydd yn mynd i wastraff.

Hanner Tymor Mis Mai

10:00 hyd at 16:00, 2 Mehefin 2024
Dros hanner tymor mis Mai, rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Garddio i’r Plant. Ymunwch hefo ni mewn gweithgareddau plannu ar gyfer y teulu oll ac i gael gweld ein gerddi ffurfiol a gwyllt.

Sgwrs Bür Aeth #1 ‘DDOE YN OL I DDYDDIAU DA – DISGO TEITHIOL MICI PLWM’

14:00–16:00 (Am ddim)
Fel rhan o gyfres brosiect llafar Bür Aeth, cawn drafod a hel atgofion gyda dri o arloeswyr sin cerddoriaeth cyfoes Cymru. Bydd y sgwrs cyntaf yn ymwneud hefo DJ sin roc Cymraeg cyntaf: Mici Plwm .

Dydd Sul 26 Mai 2024

“Ultimate Dinosaurs”

13:00 (£3.50 y pen)
Paratowch i fynd ar antur gyn-hanesyddol gyffrous wrth i Ben eich tywys trwy’r ysglyfaethwyr mwyaf angheuol a grwydrodd y blaned erioed.  Gallai deinosoriaid fel Tyrannosaurus Rex, Allosaurus …

Ffair Wanwyn Eglwys Glanogwen

14:00–17:00 (£5 oedolyn, pris gostyngedig i blant)
Ffair Wanwyn gyda stondinau crefftwyr lleol…lluniaeth, cacennau ayb Hwyl a chyfle i gefnogi crefftwyr lleol a chodi arian i’r Eglwys Os hoffech gynnal stondin, cynnig cerddoriaeth byw …

Sesiwn Werin Conwy

14:00–17:00
Pwyllgor Ardal Aberconwy yn cyflwyno… Sesiynau Gwerin ar y Cei yn dychwelyd ar gyfer haf 2024 yn dilyn llwyddiant llynedd!

Ar Draws Cefn y Ddraig – Gyda Ben Garrod

15:30 (Talwch Beth Allwch Chi £1 /£3 / £5)
Mae dyn cyffredin yn cymryd ras anghyffredin.

Dydd Mawrth 28 Mai 2024

Crefft Llwyn “Bushcraft”

09:30–12:30 (Am ddim)
Gweithgareddau i deuluoedd ym Mharc y Moch, dewch am fore llawn hwyl! Nifer llefydd cyfyngedig, rhaid archebu eich lle o flaen llaw.

Bore Coffi Cymunedau Cynaliadwy

10:00–13:00
Cyfres o foreau coffi am ddim i gwrdd â phobl eich ardal leol, sgwrsio dros ddiod poeth ac ymuno mewn gweithgareddau!  Dewch yn llu!

Traed Bach Mwdlyd- Clwb Gwyllt gydag Ellie

10:30–15:30 (£3 am bob plentyn)
Ymunwch ag Ellie o Traed Bach Mwdlyd yn yr ysgol goedwig Clwb Gwyllt. Mwynhewch nifer o weithgareddau hwyliog ar ddôl  yr Amgueddfa o fyd natur i arddwriaeth a mwy!

Gweithdy Celf Gwyllt hefo Elen Williams

12:00–14:00 (Am Ddim)
Gweithdy Celf Gwyllt hefo Elen Williams  Ymunwch a ni yn Storiel am Weithdy Celf Wyllt hwyl ar lawnt Storiel gyda’r artist talentog Elen Williams .

Dydd Mercher 29 Mai 2024

Gweithdy Celf Graffiti

10:30 (£9.50)
Rydyn ni’n hynod falch o groesawu’r artist murluniau a graffiti Karim Kamil (@skateranddecorator) i arwain y gweithdai arbennig hyn dros hanner tymor. Karim yw’r artist dawnus a wnaeth yr …

Gweithdy creu Gif hefo Sioned Young (Mwydro)

14:00–16:00 (Am Ddim)
Ymunwch a ni yn Storiel am bnawn hwyl o waith dylunio a thechnoleg gyda Sioned Young sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro , gweithdy i greu Gif .

Dydd Iau 30 Mai 2024

Sibrydwyr Cymraeg i Blant a Theuluoedd

10:30–11:30 (Am ddim)
Dewch i wrando ar STRAEON am ddreigiau, tylwyth teg a phopeth hudolus, yn cael eu hadrodd gan Storiwr y Ddraig. Yn addas ar gyfer 0 – 100 oed ac mae croeso i bawb.

Crefftau papur gyda Menter Gorllewin Sir Gâr

10:30–12:30 (Am ddim)
Mwynhewch greu crefftau papur gyda Menter Gorllewin Sir Gâr!

Cwmwl Tystion ||| / Empathy

19:30 (£15/£13)
Mae’r trwmpedwr Tomos Williams yn dychwelyd i Pontio gyda’r drydedd, a’r bennod ola’ yn ei brosiect Cwmwl Tystion.Yn ymchwilio i hanes ac hunaniaeth Cymru, i gyfeiliant …

Cwis Tafarn

19:30
7:30yh, Nos Iau, 30 Mai Gwobr o £30 i’r tîm buddugol Cwestiynau i’w galw yn y Gymraeg a’r Saesneg