Noson arall yng Nghyfres Caban gan gangen Bro Ffestiniog YesCymru. Nos Wener 23 Chwefror. Canu gan Gareth Bonello -Gentle Good- a sgwrs gan Mel Davies. Drysau 6:45 a’r noson i gychwyn am 7.
Hyd at 23 Chwefror 2024, 21:00 (£12 (Aelodau'r Theatr : £10))
Noson yng nghwmni’r gantores boblogaidd o Fôn – Meinir Gwilym a’r Band Mae Meinir wedi rhyddhau ei phumed albwm yn ddiweddar – Caneuon Tyn yr Hendy sy’n cynnwys wyth o …
Dylan Iorwerth yn holi Dylan Lewis, Lowri Fron, Ioan Wyn Evans ac un gwestai dirgel. Croeso i bawb. Yr elw at Uned Cemotherapi Bronglais. Dan adain: Undodiaid Aeron Teifi.
Bydd Cleif Harpwood, prif leisydd Edward H Dafis, yn perfformio casgliad o ganeuon mwyaf adnabyddus y grwp yng nghwmni’r cyfeilydd a’r cerddor amryddawn Geraint Cynan.
Rydym yn falch iawn i groesawu DELWYN SIÔN eto i Dalybont. Does dim angen cyflwyno ffigwr a fu mor ddylanwadol o’r saithdegau ymlaen fel canwr, cyfansoddwr ac unawdydd.
Cyfres o seminarau yn trafod cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes, iaith a diwylliant Cymru. Cynhelir y sesiwn nesaf: Dyddiad: 24 Chwefror Amser: 10.00-11.30 am (paned a …
19:00 (Mynediad trwy gyfraniad (elw at AberAid a Chanolfan Oasis, Caerdydd)
Mae Côr Gobaith – côr stryd sy’n canu dros heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd – wedi bod wrthi’n brysur dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi diwrnod o weithgarwch i …
Dere i ymuno gyda ni! Bydd Stori a Chân am 1:30pm ar ddydd Iau’r 29ain Chwefror 2024, ac eto ar y 21ain Mawrth 2024 yn yr Amgueddfa Wlân yn Nrefach Felindre. I gofrestru cysyllta ar nia@mgsg.cymru
CFfI Caerwedros yn perfformio’r ddrama newydd “Ein mam ni oll!” a CFfI Llangadog yn cyflwyno’r ddrama “Oli”. Hefyd plant ysgol Bro Siôn Cwilt yn diddanu.
Gorymdaith / Parade 1yh (Ymgynnull / Assemble 12:45pm) Stondinau Tŷ Pawb Stalls 10yb – 4yh Celf a Chrefft i deuluoedd / Family Craft Session 4-6pm Cerddoriaeth Byw gan / Live Music with Meinir …
Dewch draw i Neuadd Penrhyn, Ffordd Gwynedd, Bangor i ymuno ein digwyddiad i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. 14.00-16.00 Panad Cacan Adloniant gan Ffion Wynne Beic digidol i hel atgofion Croeso cynnes i bawb
Diwrnod llawn dop o adloniant gan ddisgyblion Ysgol Talgarreg – agored i bawb! Ar Fawrth y cyntaf, GWNEWCH Y PETHAU BYCHAIN wrth ddod i fwynhau hwyl eisteddfodol yn ein mamiaith.
1af o Fawrth – Neuadd fawr 9.30yb. Mi fydd y farchnad Dydd Gwener yn ail cychwyn ar y cyntaf o Fawrth. Stondynwr i gyrraedd o 9yb. Cawl ar gael rhwng 11.30yh a 1yp.
Yn galw ar holl blant dan 5 am fore llawn hwyl i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chrefftau cŵl, caneuon a chwarae! Mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe a Cymraeg i Blant.
Pwyllgor Ardal Aberconwy yn cyflwyno… Noson Cawl a Chân Dydd Gwyl Dewi yng nghwmni Beryl a Bryn (Pandy Tudur) Dewch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi drwy gyd-ganu rhai o glasuron y Gymraeg.
Be?Noson ‘Cawl a Chân’ – Dewch i ymuno hefo ni ar gyfer noson gymdeithasol a hwyliog o ganu a sgwrsio anffurfiol, dan arweiniad Beryl a Bryn, Pandy Tudur.
Mae dau berson ifanc yn ffansio’i gilydd. Mae ‘na ddau arall sy’n ffansio’i gilydd ‘fyd. Mae’r ddau bar yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu.
Llais Prestatyn yn cyflwyno… Gig Gwyl Dewi @ Lola’s Bar (151 Stryd Fawr) KIM HON (Psych roc o safon) BAU CAT acwstic (Gwerin-blues Saesneg o Rhyl) DJ Pearl (chwara tiwns da) Gig gyfoes …
Mwynhewch ddiwrnod o hwyl, llawn crefftau ac ymunwch â Tudur Phillips am ddawnsio clocsiau cŵl, gemau a mwy!Gydag ymweliad arbennig gan Magi-Ann!Cadwch lygaid ar y wefan, mwy o wybodaeth i ddilyn!
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu. Dydd Sad 03 Chwefror Dydd Sad 02 Mawrth Dydd Sad 06 Ebrill Dydd Sad 04 Mai Gyda Menter Iaith Abertawe.
Parêd Gwyl Ddewi – Dewch i ymuno gyda ni’n y parêd. Ymgynnull wrth Eglwys San Pedr am 11.00 yb. a gorymdeithio i’r Clos Mawr. Dewch a’ch baneri gyda chi!
Dewch yn llu am de traddodiadol gydag aelodau a ffrindiau Capel y Graig, Llandysul. Llond lle o fara menyn a chacennau traddodiadol Cymreig. Bydd stondin cacennau, sgwâr 100 a raffl.
Sesiwn Blas – Clocsio Gyda Alaw Griffiths – i oedolion & plant Trefnir gan Cyngor Tref Aberystwyth, a cynhelir yn Arad Goch. Fel rhan o ddigwyddiadau Dydd Gwyl Dewi Aberystwyth.
Sgwrs gyda Bardd y Dref Cyfle i holi ein bardd, Eurig Salisbury Trefnir gan Cyngor Tref Aberystwyth, a cynhelir yn Arad Goch. Mae pob digwyddiad am ddim.
Neuadd Goffa Tal-y-bont HWYL DDEWI 2024 Nos Sadwrn 2 Mawrth Cawl a Chân yng nghwmni MERCHED SOAR Gweinir Cawl am 6.30 Adloniant 7.30 Tocynnau: £8 i oedolion £2 i blant
Noson cawl a chân yn pentref Talgarreg. Bydd yr Ysgol Feithrin, Ysgol Gynradd â’r Adran Bentre’ Talgarreg yn diddanu’r gynulleidfa. Noson hwylus i bawb. Dewch yn llu
Cor gyda’i wreiddiau ym Methesda, Dyffryn Ogwen ar gyrrion Eryri. ‘Roedd aelodau gwreididol y cor bron i gyd yn fwynwyr llechi ond amrywriaeth o gefndiroedd erbyn heddi!
Noson gyfareddol yn llawn melodïau a rhythmau hudolus gwlad hynafol; yn llawn o faledi a chaneuon, na chlywir yn aml yn y Gorllewin.Mae Ustad Daud Khan, yn brif gerddor arobryn ac yn un o ychydig …
Cynhelir Gwasanaeth i Ddysgwyr a Siaradwyr Newydd gan Eglwys Efengylaidd Aberystwyth yn Neuadd Llanfarian, 10.30 fore Sul 3 Mawrth. Croeso cynnes i bawb.
Mae ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin ac yn ardal Dyffryn Taf yn parhau bob pythefnos. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori yma. Cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.