Dere i ymuno gyda ni! Bydd Stori a Chân am 1:30pm ar ddydd Iau’r 29ain Chwefror 2024, ac eto ar y 21ain Mawrth 2024 yn yr Amgueddfa Wlân yn Nrefach Felindre. I gofrestru cysyllta ar nia@mgsg.cymru
CFfI Caerwedros yn perfformio’r ddrama newydd “Ein mam ni oll!” a CFfI Llangadog yn cyflwyno’r ddrama “Oli”. Hefyd plant ysgol Bro Siôn Cwilt yn diddanu.
Gorymdaith / Parade 1yh (Ymgynnull / Assemble 12:45pm) Stondinau Tŷ Pawb Stalls 10yb – 4yh Celf a Chrefft i deuluoedd / Family Craft Session 4-6pm Cerddoriaeth Byw gan / Live Music with Meinir …
Dewch draw i Neuadd Penrhyn, Ffordd Gwynedd, Bangor i ymuno ein digwyddiad i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. 14.00-16.00 Panad Cacan Adloniant gan Ffion Wynne Beic digidol i hel atgofion Croeso cynnes i bawb
Diwrnod llawn dop o adloniant gan ddisgyblion Ysgol Talgarreg – agored i bawb! Ar Fawrth y cyntaf, GWNEWCH Y PETHAU BYCHAIN wrth ddod i fwynhau hwyl eisteddfodol yn ein mamiaith.
1af o Fawrth – Neuadd fawr 9.30yb. Mi fydd y farchnad Dydd Gwener yn ail cychwyn ar y cyntaf o Fawrth. Stondynwr i gyrraedd o 9yb. Cawl ar gael rhwng 11.30yh a 1yp.
Yn galw ar holl blant dan 5 am fore llawn hwyl i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chrefftau cŵl, caneuon a chwarae! Mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe a Cymraeg i Blant.
Pwyllgor Ardal Aberconwy yn cyflwyno… Noson Cawl a Chân Dydd Gwyl Dewi yng nghwmni Beryl a Bryn (Pandy Tudur) Dewch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi drwy gyd-ganu rhai o glasuron y Gymraeg.
Be?Noson ‘Cawl a Chân’ – Dewch i ymuno hefo ni ar gyfer noson gymdeithasol a hwyliog o ganu a sgwrsio anffurfiol, dan arweiniad Beryl a Bryn, Pandy Tudur.
Mae dau berson ifanc yn ffansio’i gilydd. Mae ‘na ddau arall sy’n ffansio’i gilydd ‘fyd. Mae’r ddau bar yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu.
Llais Prestatyn yn cyflwyno… Gig Gwyl Dewi @ Lola’s Bar (151 Stryd Fawr) KIM HON (Psych roc o safon) BAU CAT acwstic (Gwerin-blues Saesneg o Rhyl) DJ Pearl (chwara tiwns da) Gig gyfoes …
Mwynhewch ddiwrnod o hwyl, llawn crefftau ac ymunwch â Tudur Phillips am ddawnsio clocsiau cŵl, gemau a mwy!Gydag ymweliad arbennig gan Magi-Ann!Cadwch lygaid ar y wefan, mwy o wybodaeth i ddilyn!
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu. Dydd Sad 03 Chwefror Dydd Sad 02 Mawrth Dydd Sad 06 Ebrill Dydd Sad 04 Mai Gyda Menter Iaith Abertawe.
Parêd Gwyl Ddewi – Dewch i ymuno gyda ni’n y parêd. Ymgynnull wrth Eglwys San Pedr am 11.00 yb. a gorymdeithio i’r Clos Mawr. Dewch a’ch baneri gyda chi!
Dewch yn llu am de traddodiadol gydag aelodau a ffrindiau Capel y Graig, Llandysul. Llond lle o fara menyn a chacennau traddodiadol Cymreig. Bydd stondin cacennau, sgwâr 100 a raffl.
Sesiwn Blas – Clocsio Gyda Alaw Griffiths – i oedolion & plant Trefnir gan Cyngor Tref Aberystwyth, a cynhelir yn Arad Goch. Fel rhan o ddigwyddiadau Dydd Gwyl Dewi Aberystwyth.
Sgwrs gyda Bardd y Dref Cyfle i holi ein bardd, Eurig Salisbury Trefnir gan Cyngor Tref Aberystwyth, a cynhelir yn Arad Goch. Mae pob digwyddiad am ddim.
Neuadd Goffa Tal-y-bont HWYL DDEWI 2024 Nos Sadwrn 2 Mawrth Cawl a Chân yng nghwmni MERCHED SOAR Gweinir Cawl am 6.30 Adloniant 7.30 Tocynnau: £8 i oedolion £2 i blant
Noson cawl a chân yn pentref Talgarreg. Bydd yr Ysgol Feithrin, Ysgol Gynradd â’r Adran Bentre’ Talgarreg yn diddanu’r gynulleidfa. Noson hwylus i bawb. Dewch yn llu
Cor gyda’i wreiddiau ym Methesda, Dyffryn Ogwen ar gyrrion Eryri. ‘Roedd aelodau gwreididol y cor bron i gyd yn fwynwyr llechi ond amrywriaeth o gefndiroedd erbyn heddi!
Noson gyfareddol yn llawn melodïau a rhythmau hudolus gwlad hynafol; yn llawn o faledi a chaneuon, na chlywir yn aml yn y Gorllewin.Mae Ustad Daud Khan, yn brif gerddor arobryn ac yn un o ychydig …
Cynhelir Gwasanaeth i Ddysgwyr a Siaradwyr Newydd gan Eglwys Efengylaidd Aberystwyth yn Neuadd Llanfarian, 10.30 fore Sul 3 Mawrth. Croeso cynnes i bawb.
Mae ein sesiynau stori yng Nghaerfyrddin ac yn ardal Dyffryn Taf yn parhau bob pythefnos. Ymunwch â ni yn y sesiynau stori yma. Cysylltwch ar betsan@mgsg.cymru i gofrestru neu am wybodaeth pellach.
Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan – CARU LLANBED AR WAITH 06.03.2024: 4.00-6.00pm Dalis, Gwesty’r Llew Du, Llanbed Bydd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn cynnal digwyddiad arbennig, CARU …
Bydd Andrew Teilo’n dod i Siop y Smotyn Du ar Ddiwrnod y Llyfr eleni, sef y 7fed o Fawrth rhwng 11-1 o’r gloch i siarad am ei gyfrol cynta o straeon byrion ‘Pryfed Undydd’.
“We walked into the bar and everyone started speaking Welsh” ;-) Cyfle i siaradwyr rhugl a phobl sy’n dysgu’r iaith gwrdd i roi’r byd yn ei le mewn lleoliad hynod cwl …
Noson i ddathlu Gŵyl Dewi gyda chawl ac adloniant yn Neuadd y pentref. Mynediad trwy docyn i gynnwys cawl, pwdin a phaned. Adloniant gan Cathod Ceitho a CFfI Llangeitho.
“TRWY’R TANNAU” Sioned Webb a Mair Tomos Ifans yma yn Nyffryn Teifi ar eu taith genedlaethol o alawon a chaneuon a chwedlau gwerin – gyda 7 o delynau ar lwyfa !
Hyd at 8 Mawrth 2024, 22:30 (£10 o flaen llaw, £12 ar y drws)
Mae Clwb Canna yn cyflwyno i chi…Pwdin Reis + Wigwam + Dagrau Tân Nos Wener 8 Mawrth 20248pm-11pmDrysau am 7:30pm Clwb LiberalsTregannaCaerdyddCF5 1JD Bydd bar ar y noson Tocynnau’n £10 …
Cyfle i wylio perfformiad Creigiau Geirwon gan Gwmni Pendraw (recordiwyd yn Pontio, Bangor yn 2023) ar y sgrîn fawr am un noson yn unig.Ar greigiau geirwon Eryri y triga Lili’r Wyddfa, un o’n blodau …
Bore Siarad Cymraeg (lefel ganolradd ac uwch). Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar y Parch. Emyr James yn trafod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru, yn Hyb Rhiwbina, Caerdydd, CF14 6EH, am 10.30am.
Nos Sadwrn Mawrth 9, 7yhYmunwch â ni ar antur gerddorol, yn teithio o alawon a melodiau gwerin Cymru i ragas a rhymau India.Tocynnau £10 / £8 ar gael o Siop Ffab, Llandysul neu ar y …
Dewch draw i Neuadd Llanystumdwy, nos Sadwrn 9 Mawrth ar gyfer noson o gerddoriaeth acwstig yng nghwmni Melda Lois a Gwilym Morus. Tocynnau yn £5. Ar gael o’r Plu neu arlein drwy Dewch yn llu!